Canolfannau cŵn mewn sefyllfa 'bryderus' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae canolfannau achub cŵn o dan straen yng Nghymru o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer y cŵn bach sy'n cael eu bridio, a'r gostyngiad yn y galw amdanynt.
Dywedodd un gwirfoddolwr mewn lloches i gŵn yng Ngheredigion bod yna "lawer o gŵn bach sy' wedi dod o breeders nad sy'n gallu eu gwerthu" yna bellach.
Yn ôl y Dogs Trust mae 1.5m o gŵn ychwanegol yn y DU ers dechrau'r pandemig.
Ond erbyn hyn mae'r galw am gŵn wedi lleihau ac mae'r RSPCA yn rhybuddio bod y sefyllfa'n "bryderus iawn".
Mae Catherine Taylor yn gwirfoddoli yng nghanolfan achub cŵn Alpets ger Llandysul yng Ngheredigion.
Dywedodd fod y cynnydd yn nifer y cŵn bach sy'n methu cael eu gwerthu wedi cael effaith ar y ganolfan.
"Mae'n rhyfedd o beth, yn ystod y clo roedd pawb a'i wraig bron a bod moyn ci, a nawr mae 'na sawl ci bach yn dod i mewn i lochesi ledled Cymru, cŵn o bob math, ond yn benodol ar hyn o bryd mae yna lawer o gŵn bach sy' wedi dod o breeders nad sy'n gallu eu gwerthu nhw bellach," meddai.
Dywedodd Ms Taylor bod nifer y cŵn mae'r ganolfan wedi eu derbyn wedi cynyddu yn y misoedd diwethaf, gan roi straen ariannol ychwanegol ar y ganolfan.
"Nôl ym mis Tachwedd roedd 41 o gŵn oedd yn golygu bod y bill bwyd yn unig bron a bod yn £2,000."
Yn ôl Ms Taylor, mae cŵn sy'n cael eu defnyddio gan fridwyr yn aml heb gael eu hyfforddi i gymdeithasu ag eraill, ac mae hynny'n golygu eu bod yn aml yn cael eu rhoi i ganolfannau fel Alpets yn y pendraw.
"Mae sawl un o'r cŵn sydd wedi cael eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu cŵn bach, pan maen nhw'n dod mewn i'r lloches does dim cymdeithasu wedi bod yn aml iawn, a dydyn nhw ddim yn gyfarwydd hyd yn oed â cherdded ar linyn, felly mae'n lot mwy o waith gyda chŵn o'r math yma," meddai Ms Taylor.
Ym mis Tachwedd daeth dau gorgi i'r ganolfan gan fridiwr oedd yn methu eu gwerthu.
Wedi iddyn nhw gyrraedd, daeth i'r amlwg fod ganddyn nhw nam ar eu pledrennau sy'n golygu bod angen llawdriniaethau drud ar y ddau.
"Roedd braw mawr yn y lloches pan glywson nhw beth oedd cost hynny. Roedd sôn ar y dechrau mai £12,000 byddai'r gost," meddai Ms Taylor.
"Erbyn hyn mae 'na filfeddyg sydd wedi dweud ei bod yn gallu gwneud am hanner hynny, ond gyda lloches mor fychan mae codi £6,000 ychwanegol yn llawer o waith."
Yn fwy diweddar mae'r lloches wedi derbyn tri chorgi dall. Er bod y lloches yn hapus i'w cael, bydd yn anoddach dod o hyd i bobl sy'n wybodus o'u hanghenion i'w mabwysiadu, yn ôl Ms Taylor.
Sefyllfa'n 'bryderus iawn'
Mae'r RSPCA yn dweud bod twf enfawr yn nifer y bobl sy'n ymchwilio mewn i gael anifail anwes yn ystod y cyfyngiadau Covid-19 - yn cynnwys ymchwiliadau am gŵn bach.
"Mae'r galw am gŵn bach yn ystod y pandemig yn debygol o ostwng wrth i ni fynd ymlaen ac mae unrhyw gŵn bach sy'n cael eu bridio nawr yn debygol o'i chael hi'n anodd dod o hyd i gartref," meddai llefarydd.
"Mae'r syniad y gall y rhain ddiweddu lan mewn gofal canolfannau achub yn bryderus iawn; mae nifer o ganolfannau achub yn barod yn edrych ar ôl niferoedd enfawr o anifeiliaid.
"Byddai ychwanegu hyd yn oed mwy, yn ogystal â'r rheiny sydd â phroblemau iechyd neu ymddygiad, yn rhoi nhw o dan hyd yn oed mwy o straen."
Gyda'r Nadolig yn nesáu, ychwanegodd ei fod yn hollbwysig "ymchwilio'n drwyadl" cyn cael anifail anwes, gan gynnwys cŵn bach.
Cytunodd Ms Taylor: "O ran cael y ci bach o gwmpas y lle ar adeg brysur fel y Nadolig byddwn ni ddim yn argymell hynny.
"Adeg llawer gwell fyddai pan nad oes prysurdeb yr ŵyl a'r holl fynd a dod fel bod y ci yn gallu dod i'ch adnabod chi a chi adnabod y ci yn raddol bach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2021