Perchennog cŵn gafodd eu dwyn yn troi'n dditectif
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi cymryd rôl ditectif ar ôl gweld llun o'i chi ar werth 200 o filltiroedd i ffwrdd mewn hysbyseb ar-lein.
Mae Jane Jenkins o Abertawe'n credu i ddau o'i chŵn gael eu dwyn ar gyfer bridio.
Ar ôl chwilio trwy hysbysebion ar-lein, fe ddaeth o hyd i'w chi bach labrador, Arthur, ond doedd dim golwg o'i llamgi (cocker spaniel), Bandit.
Mae ymchwil yn awgrymu bod y farchnad bridio cŵn werth bron i £500m y flwyddyn.
Mae Ms Jenkins yn credu y gallai'r lladron sydd â'i chi bach llamgi ennill degau o filoedd o bunnoedd trwy fridio cŵn bach a'u gwerthu i gwsmeriaid ar-lein.
Er gwaethaf mesurau diogelwch, llwyddodd lladron i dorri mewn i gytiau cŵn Ms Jenkins fis Ionawr diwethaf.
Roedd Ms Jenkins a'i brawd adref pan sylwon ar gerbyd amheus yn gyrru ar hyd y lôn ar gamera diogelwch.
"Wrth inni redeg arall, roedd yr olwynion yn troi ar y gwair ac roedden nhw wedi mynd," dywedodd Ms Jenkins.
Dechreuodd Heddlu De Cymru ar ymchwiliad gan ddiweddaru Ms Jenkins ar unrhyw ddatblygiadau.
Ond, dechreuodd Ms Jenkins, a ddisgrifiodd eu cŵn fel "eu bywyd", eu hymchwiliad ei hun ar-lein.
Treuliodd oriau bob diwrnod yn chwilota trwy hysbysebion ac yn apelio ar bobl ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ym mis Mawrth, derbyniodd Ms Jenkins negeseuon testun a lluniau o hysbyseb ar-lein yn cynnig ci bach labrador ar werth yng Nglannau Mersi.
"Dw i wedi edrych ar filoedd o gŵn bach labrador, fe oedd yr un cyntaf lle feddyliais, ie, fe yw hwnna," dywedodd.
"Doeddwn i'n methu credu ei fod e yng Nglannau Mersi."
Cafodd y ci ei ddychwelyd adref ar ôl i Heddlu De Cymru a Glannau Mersi gadarnhau mai ci Ms Jenkins, Arthur, oedd y ci yn yr hysbyseb.
Cafodd dyn, a oedd yn byw yn y tŷ lle'r oedd y ci, ei arestio ond yna'i ryddhau heb gyhuddiad ar ôl dweud wrth swyddogion ei fod wedi prynu'r ci oddi wrth rywun arall.
Ond bron i flwyddyn yn ddiweddarach, mae Bandit yn dal ar goll ac mae Ms Jenkins yn poeni bod ei chi wedi cael ei gorfodi i eni cŵn bach gan fridwyr anghyfreithlon.
"Mae Bandit yn rhan o fy nheulu. Does gen i ddim plant. Felly dw i'n cyfeirio at y cŵn fel fy mhlant, fy nheulu.
"Dyw nhw [y lladron] ddim yn caru anifeiliaid. Maen nhw'n gwneud hyn ar gyfer arian.
"Alla i ddim deall sut all rywun fod mor greulon i rywbeth sydd â churiad calon."
Mae negeseuon Ms Jenkins gyda'i hapêl i ddod o hyd i Bandit wedi eu rhannu gannoedd o filoedd o weithiau ar gyfryngau cymdeithasol.
"Dw i'n ei chael hi'n anodd... dw i'n gweithio saith diwrnod yr wythnos fel robot a gofalu am fy mam heb ddangos iddi faint mae fy nghalon yn torri," dywedodd.
Ym mis Awst, roedd Ms Jenkins yn meddwl ei bod gam yn nes at ddod o hyd i Bandit mewn hysbyseb yn ne ddwyrain Lloegr.
Ond pan aeth Ms Jenkins at yr heddlu, daeth i'r amlwg bod y cyfeiriad a ddefnyddiodd y gwerthwr yn ffug.
Mae'r nifer o hysbysebion ar lein wedi cynyddu'n aruthrol ers dechrau'r pandemig.
Tra bod nifer o fridwyr a thrwydded ac yn gyfrifol, mae'r farchnad ar-lein yn cael ei defnyddio gan nifer o fridwyr anghyfreithlon.
Dyblu mewn gwerth
Mae ymchwil gan BBC Wales Investigates yn awgrymu bod cynnydd o 71% yn y nifer o hysbysebion a ymddangosodd ar ddau o'r gwefannau gwerthu mwyaf poblogaidd.
Cynyddodd nifer yr hysbysebion o 197,000 yn 2019 i 337,000 yn 2021.
Mae rhai mathau o gŵn yn ymddangos i fod wedi dyblu mewn gwerth dros y ddwy flynedd diwethaf.
Cynyddodd cyfanswm gwerth y cŵn a gafodd eu hysbysebu - ar ddwy wefan boblogaidd yn unig - o £153m ar hysbysebion i £486m.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod pedwar dyn a dwy fenyw o Gastell Nedd Port Talbot wedi eu harestio mewn cysylltiad â lladrad ci Ms Jenkins.
Maent bellach wedi eu rhyddhau dan ymchwiliad.
Dywedodd llefarydd y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r llu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2021