Anffurfio cŵn er mwyn eu gwerthu am fwy o arian

  • Cyhoeddwyd
CŵnFfynhonnell y llun, Hope Rescue

Mae rhwydweithiau o fridwyr cŵn yn cynnig anffurfio cŵn bach wedi poblogrwydd arfer o'r fath ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ôl ymchwiliad gan y BBC.

Mae torri neu gwtogi clustiau'n golygu cael gwared ar ran o'r glust am resymau cosmetig.

Dywedodd un bridiwr wrth newyddiadurwr cudd bod y weithred yn creu golwg "trawiadol" i gŵn tarw Americanaidd.

Mae torri clustiau yn anghyfreithlon yn y DU, ond mae bridwyr yn cael gafael ar basbortau ffug sy'n awgrymu bod y weithred wedi ei chyflawni dramor.

Yn ystod yr ymchwiliad, cynigodd un bridiwr werthu ci ifanc i newyddiadurwr cudd am £13,000, gan sôn am y weithred o dorri clustiau'r ci.

Yn ôl Paula Boyden o'r Ymddiriedolaeth Cŵn "does dim cyfiawnhad o gwbl" i'r weithred sydd wedi ei gwahardd dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.

"Mae rhai anifeiliaid yn datblygu heintiau yn dilyn y weithred neu ddim yn hoffi pobl yn cyffwrdd â'u clustiau," dywedodd.

"Ry'n ni hefyd wedi gweld problemau ymddygiad gan fod cŵn yn cyfathrebu gyda'u clustiau, ac hebddyn nhw, mae'n bosib y byddan nhw'n cael trafferth gwneud hynny gyda'u perchnogion neu gŵn eraill."

Rhybudd: Cynnwys a all beri gofid

Ffynhonnell y llun, : SONS_OF_ADAM Instagram
Disgrifiad o’r llun,

Cynigodd Moheiz Adam werthu ci am £13,000 i un o newyddiadurwyr cudd y BBC

Mae rhaglen BBC Wales Investigates wedi dilyn nifer o fridwyr sy'n rhannu lluniau ar-lein o gŵn sydd â'u clustiau wedi torri.

Dywedodd un bridiwr, Moheiz Adam, ei fod yn "siomedig" bod torri clustiau yn anghyfreithlon gan ei fod yn rhoi "golwg trawiadol" i gŵn. Cynigodd werthu ci bach am £13,000.

Dywedodd y byddai'r ci yn dod gyda phasbort anifail anwes a microsglodyn.

"[Mae dyn arall] jyst yn gofalu amdano, yn dychwelyd y gwaith papur... os oes cwestiynau'n codi, ry'ch chi'n syml [yn dweud] dyna sut brynoch chi'r ci, gan Wyddel. Daeth e o Ewrop a dyna i gyd sydd angen ichi wybod."

"Mae fy nghŵn i gyd wedi eu gwneud ganddo a chyhyd â bod y weithred yn digwydd ar yr oedran cywir, mae'n edrych yn berffaith," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Bulldog Americanaidd (chwith) a chi bach Doberman (dde) gyda chlustiau wedi eu torri

Yn ystod galwad fideo, fe ddangosodd Mr Adam ei gi i'r camera gan gyfeirio at y glust a dweud: "Bydd hwnna i gyd yn dod i ffwrdd."

Ar ôl gwylio deunydd y BBC, dywedodd cyn-lywydd y Sefydliad Milfeddygol Prydeinig, Daniella Dos Santos, ei bod wedi "ei thristáu'n llwyr" gyda'r hyn a welodd.

"Mae torri clustiau yn anffurfiad anghyfreithlon sy'n cael ei wneud am ddim rheswm arall oni bai am... resymau cosmetig ac mae'r holl sgwrs ynghylch sut mae'r cŵn yma'n edrych.

"Mae hyn i gyd ar gyfer statws. Does dim buddion iechyd i'r cŵn hyn o gwbl."

Yn ddiweddarach, fe ddywedodd Mr Adam ei fod yn cydnabod bod y weithred yn anghyfreithlon a'i fod "erioed wedi trefnu i hynny ddigwydd" er ei fod "eisiau i glustiau'r cŵn gael eu torri".

Ffynhonnell y llun, Joshua Harty
Disgrifiad o’r llun,

Joshua Harty

Dywedodd bridiwr arall o Gaerdydd, Joshua Harty, wrth newyddiadurwr cudd y gallai ef hefyd drefnu'r weithred o dorri clustiau, darparu pasbort tramor ar gyfer anifail a microsglodyn.

"I gael y clustiau, y pasbort a'r microsglodyn, byddai fel arfer yn costio tua £500... mae fy milfeddyg yn eu cael nhw o Dwrci.

"Dw i wedi mynd a chŵn i sioeau yn Iwerddon, Sbaen ac yn amlwg dw i wedi gorfod croesi ffiniau, a dw i wedi defnyddio'r pasbortau hyn ac wedi gallu croesi bob tro. Erioed wedi cael problem," dywedodd.

Dywedodd Daniella Dos Santos bod yr hyn y mae Mr Harty yn ei awgrymu yn "hwyluso trosedd".

"Mae hyn i gyd yn gwbl anghyfreithlon, y torri clustiau, y pasbortau ffug," dywedodd.

"Unwaith eto, dyma edrych ar yr anifeiliaid hyn fel nwyddau a pheiriannau gwneud arian yn hytrach na bodau byw.

"Mae hyn yn digwydd am fod bwlch cyfreithiol sy'n caniatáu cŵn sydd a'u clustiau wedi torri i gael eu mewnforio."

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Mr Harty am sylw, ond ni atebodd.

Ffynhonnell y llun, Hope Rescue
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cŵn bach gyda chlustiau toredig eu cymryd gan Gyngor Caerdydd wedi iddynt fod ar werth ar Facebook

Mae Vanessa Waddon o elusen achub Hope wedi bod yn gofalu am gŵn bach sydd wedi eu hanffurfio ar ôl i Gyngor Caerdydd eu cymryd gan fridiwr heb drwydded.

Mae'n debyg bod gwerth cŵn yn codi £1,500 ar ôl torri eu clustiau.

Dywedodd Ms Waddon ei bod yn ofni mai dylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n rhannu lluniau o gŵn â'u clustiau wedi torri sy'n cynyddu eu poblogrwydd.

Cyfeiriodd at y pel-droediwr Marcus Rashford, y gantores Little Mix Leigh-Anne Pinnock a seren Love Island, Jack Fincham.

Dywedodd Ms Waddon: "Pan fo person enwog yn rhannu rhywbeth ar-lein, mae'n anochel fod pobl yn meddwl 'o mae'r ci yna'n edrych yn neis efallai ga' i un fel yna'.

"Tra efallai eu bod [pobl enwog] wedi mewnforio'r cŵn yn gyfreithlon, mae pobl yn torri clustiau'n anghyfreithlon yn y DU er mwyn ateb y galw."

Mae BBC Cymru wedi gofyn i gynrychiolwyr Mr Rashford, Ms Pinnock a Mr Fincham am sylw, ond ni chafwyd ymateb.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o'r cŵn wedi cael eu symud i gartrefi eraill ar ôl iddynt orfod gadael eu bridwyr

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y byddai'r Bil Lles Anifeiliaid sydd wedi ei gynnig yn atal mewnforio cŵn sydd a'u clustiau wedi eu torri a chŵn bach sydd yn iau na chwe mis.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod ganddynt gynllun Lles Anifeiliaid pum mlynedd i daclo bridio cŵn anghyfreithlon.

Ond dywedodd Ms Boyden na fydd y ddeddf yn gweithio heblaw bod staff ar y ffin yn gwirio cŵn sy'n cael eu mewnforio.

"Mae gwahardd mewnforio yn cael eu groesawu, ond dim ond os caiff ei orfodi y bydd y ddeddf yn gweithio ac ar hyn o bryd, does dim manylion ar ba adnoddau fydd ar gael i wirio am glustiau wedi eu torri neu os ydynt [cŵn] yn edrych o dan oedran," dywedodd.

Ychwanegodd Ms Waddon: "Rydym yn gweithio gyda swyddogion gorfodi, a does gyda nhw ddim yr adnoddau i ymchwilio i bob achos sy'n cael eu cyfeirio atynt.

"Gallwch chi gael y ddeddfwriaeth orau mewn grym, ond os nad yw'n cael ei gorfodi, fydd hi fyth yn gwbl effeithiol."