Pum munud i edrych nôl ar flwyddyn brysur Steffan Rhys Hughes

  • Cyhoeddwyd
Steffan Rhys HughesFfynhonnell y llun, Steffan Rhys Hughes

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn ansicr a phryderus ar brydiau i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant perfformio, ond mae Steffan Rhys Hughes wedi cael blwyddyn hynod o brysur.

O ddathlu blwyddyn ers sefydlu grŵp Welsh of the West End i gyflwyno cyfres ei hun Sioeau Cerdd Steffan ar BBC Radio Cymru - ac mae Steffan a chriw Welsh of The West End hefyd yn gyfrifol am berfformio fersiwn arbennig o'r garol Clywch Lu'r Nef sydd wedi'i recordio yn arbennig i BBC Cymru Fyw y Nadolig hwn.

Dyma dreulio pum munud gyda Steffan Rhys Hughes.

Disgrifiad,

Welsh of the West End - Clywch Lu'r Nef

Sonia ychydig am dy flwyddyn a'r prosiectau ti wedi gweithio arnyn nhw.

Dwi'n ffodus iawn o gael dweud fy mod i wedi cael blwyddyn brysur a boddhaol iawn.

Roedd Welsh of the West End yn dathlu pen-blwydd yn flwydd oed nôl ym mis Ebrill, cyflwyno cyfres newydd o Sioeau Cerdd Steffan ar BBC Radio Cymru, nes i berfformio ar lwyfan West End am y tro cyntaf, canu hefo Only Men Aloud a chynhyrchu rhaglen deledu Mwy o'r Busnes Cerdd Dant 'ma ar gyfer S4C.

Sut flwyddyn ydi hi wedi bod i griw Welsh of the West End?

​Prysur! Mae Welsh of the West End yn mynd o nerth i nerth, a dwi mor ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth ers i ni ddechrau nôl ym mis Ebrill 2020.

Wrth gwrs, mae'r perfformiadau rhithiol wedi parhau ar-lein - dyma ein craidd ni fel grŵp, ond eleni mae hi wedi bod yn anhygoel cael perfformio'n fyw i gynulleidfaoedd cynnes yn Theatr Clwyd a Chastell Aberteifi.

'Dan ni wedi cyd-weithio hefo Tafwyl ac Undeb Rygbi Cymru eleni, yn ogystal â recordio ein perfformiad teledu cyntaf ar Noson Lawen - Dathlu'r 40 a fydd yn cael ei darlledu ar 1 Ionawr, 2022 ar S4C.

Uchafbwynt arall oedd cael perfformio yn yr Eisteddfod Gudd yn Aberystwyth - fe wnaethom ni gyflwyno rhaglen o gerddoriaeth sioeau cerdd Cymru, gyda band llawn a threfniannau cerddorol arbennig gan Rhys Taylor.

Yn fwy diweddar, roedd gennym ni gyngerdd Christmas on Broadway yn yr ICC Wales Theatre, Casnewydd, gydag eicon y West End, Kerry Ellis i gyfeiliant gwych chwaraewyr y Novello Orchestra.

Mae fideos Welsh of the West End wedi bod yn hynod boblogaidd ar-lein. Ydy e wedi bod yn syndod i ti pa mor boblogaidd maen nhw wedi bod?

​Ar un llaw, dwi ddim yn synnu - mae gan Gymru gymaint o dalent arbennig i'w gynnig yn y maes sioe gerdd, a phob maes cerddorol arall hefyd.

Ond, ar y llaw arall, ydy, mae'n syndod mawr fod popeth wedi digwydd mor sydyn! 'Dan ni'n clywed yn aml am gynnwys ar-lein yn mynd yn viral - ond doeddwn i byth yn disgwyl i hyn ddigwydd i'n cynnwys ni.

Mae'n perfformiadau ni wedi cael eu gwylio dros 12 miliwn o weithiau yn rhyngwladol erbyn hyn, ac mae'r ffigyrau yn cynyddu'n ddyddiol. Mae'r dechnoleg, dewis repertoire a'r golygu wedi helpu ar hyd y ffordd, ond craidd llwyddiant Welsh of the West End ydi talent aruthrol y cantorion, a'u gallu nhw i gysylltu hefo cynulleidfa ryngwladol drwy sgrin ffôn neu gyfrifiadur.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Aelod o Welsh of the West End, Mared Williams gyda thlws Albwm Cymraeg y Flwyddyn wrth iddi hefyd ddathlu blwyddyn brysur ar lwyfan sioe Les Miserables yn Llundain

Wyt ti'n pryderu am faint o effaith caiff y sefyllfa bresennol gyda chyfyngiadau Covid-19 ar y sector?

​Mae gweithio fel perfformiwr llawrydd bob amser yn cynnwys elfen o ansicrwydd, mae'n rhan annatod o'r swydd - pryd fydd y gwaith nesaf, lle fydd y gwaith nesaf, clyweliadau, faint o docynnau fydd yn gwerthu... ond mae'r haen ychwanegol o ansicrwydd sy'n rhan o'n byd ni erbyn hyn yn ei gwneud hi'n anodd iawn i ni fwynhau'r hyn 'dan ni'n ei 'neud.

Dwi ddim yn cymryd yn ganiataol bod 'run perfformiad yn digwydd tan 'mod i ar y llwyfan yn canu - mae pethau yn gallu newid mor sydyn, a hynny y tu hwnt i'n rheolaeth ni.

Dwi'n gobeithio na fydd cynulleidfaoedd wedi colli gormod o hyder i ddod i theatrau a neuaddau cyngerdd unwaith eto.

Dwi hefyd yn poeni am bobl ifanc sydd â'u bryd ar fod yn gantorion ac actorion proffesiynol. Gobeithio na fydd y cyfnod heriol yma wedi rhoi stop ar eu breuddwydion nhw o ddilyn gyrfa yn y maes.

Beth sydd wedi bod yn uchafbwynt y flwyddyn i ti?

I fod yn onest, uchafbwynt y flwyddyn i mi oedd y cyfle i gael bod nôl ar y llwyfan yn perfformio yn gyson. Dwi wrth fy modd yn cynhyrchu perfformiadau rhithiol ac am barhau i wneud hynny yn bendant, ond does dim yn debyg i'r teimlad o glywed ymateb cynulleidfa byw mewn theatr neu neuadd gyngerdd - mae'n deimlad arbennig.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Siwan Henderson yn mynd ar daith gyda Welsh of the West End ym mis Chwefror ac mae Glain Rhys wedi cael cyfnod prysur yn ddiweddar gyda pherfformiadau gyda chwmni Disney yn Groeg

Sonia ychydig am y gân a'r fideo ti wedi'i chynhyrchu ar gyfer BBC Cymru Fyw.

Dwi wedi cynhyrchu perfformiad o'r garol Clywch Lu'r Nef - mae hi'n alaw sy'n gyfarwydd i gymaint ohonom ni, a'r geiriau yn hyfryd.

Siwan Henderson, Mared Williams a Glain Rhys yw'r cantorion sy'n ymuno hefo fi ar hon, ac mi roeddwn i'n awyddus i wneud cyfiawnder â'r gwreiddiol, yn ogystal â rhoi sbin Welsh of the West End arni.

Felly mae 'na harmonïau a cappella a newid cyweirnod wrth gwrs! Mae'r trac yn cynnwys cyfeiliant piano, gitâr, gitâr fas, drymiau ac organ sy'n cael eu chwarae gan offerynwyr dawnus tu hwnt sydd wedi bod yn rhan o brosiectau Welsh of the West End ers dros flwyddyn erbyn hyn.

Sut fyddi di'n treulio'r Nadolig eleni? A be' fydd nesa i ti yn 2022?

Mi fydda i adre yng ngogledd Cymru am y Nadolig eleni - cyfle i ymlacio ar ôl cyfnod prysur iawn.

Yn y flwyddyn newydd, dwi'n edrych 'mlaen i ddod a chyngherddau Welsh of the West End i Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug a Pontio, Bangor ym mis Chwefror.

Yn dilyn hynny mi fydda i'n dechrau ymarferion ar gyfer y ddrama The Corn is Green gan Emlyn Williams sy'n rhedeg yn y National Theatre yn Llundain o fis Ebrill ymlaen, gyda Nicola Walker yn serennu.

Dwi wedi cael fy nghastio fel canwr yn y ddrama honno, a dwi'n edrych 'mlaen yn fawr i gael bod yn rhan o'r cast gyda chymaint o Gymry, yn cynnwys Richard Lynch, Iwan Davies a Steffan Rizzi.

Pynciau cysylltiedig