A465: Llywodraeth Cymru wedi talu £45m mewn iawndal
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi talu £45m mewn iawndal i bobl y cafodd eu tir ei effeithio gan waith ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465.
Fe wnaeth ffigyrau a ddatgelwyd mewn ateb i gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan BBC Cymru ddangos bod un o'r rhai wnaeth hawlio arian wedi derbyn mwy na £10m.
Mae'r cynllun i ehangu'r A465 i fod yn ffordd ddeuol o Sir Fynwy i Gastell-nedd Port Talbot yn mynd rhagddo ers 2002, ac mae disgwyl i'r prosiect cyfan gostio £800m.
Yn ôl Deddf Iawndal Tir 1973, fe gaiff tirfeddianwyr hawlio iawndal os yw gwerth eu tir neu eiddo wedi cael ei effeithio gan waith cyhoeddus.
Mae'r ffigyrau'n dangos bod o leiaf 91 o bobl wedi hawlio arian ers y flwyddyn 2000. Y taliad lleiaf oedd £2.38, a'r un mwyaf oedd £10.7m.
O edrych ar y taliadau fesul bob rhan o'r ffordd:
Rhan 1: Y Fenni i Gilwern - £7.5m;
Rhan 2: Gilwern i Fryn-mawr - £4.5m;
Rhan 3: Bryn-mawr i Dredegar - £4.5m;
Rhan 4: Tredegar i Ddowlais Top - £14.8m;
Rhannau 5 a 6: Dowlais Top i Hirwaun - £13.4m.
Mae'r gwaith ar y rhan olaf rhwng Dowlais Top a Hirwaun yn dal i fynd rhagddo ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn 2025.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae iawndal i unigolion a busnesau sy'n cael eu heffeithio gan gynlluniau ffyrdd yn cael ei dalu yn unol â chyfundrefnau statudol ac fel arfer yn seiliedig ar gyngor pobl broffesiynol sy'n cynrychioli'r bobl dan sylw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2017