Disgwyl 'Ionawr heriol' yn sgil achosion Omicron
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru yn wynebu "wythnosau heriol iawn" wrth i'r achosion o amrywiolyn Omicron gyrraedd eu hanterth yn ddiweddarach y mis hwn, medd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Ddydd Sul, fe gododd cyfradd yr haint unwaith eto gan gyrraedd y ffigwr uchaf ers dechrau'r pandemig - o 1,190 fesul 100,000 o bobl i 1,415.
Ond dywed Mark Drakeford bod cyngor arbenigol yn awgrymu y gallai'r gyfradd ostwng yn gynt nag amrywiolion eraill.
Dywedodd y Prif Weinidog bod ysgolion wedi cael amser ychwanegol i baratoi rhag ofn bod salwch ymhlith staff yn golygu bod angen dysgu ar-lein.
Daw ei sylwadau wrth i Lywodraeth y DU wneud cynlluniau ar gyfer salwch staff ymhlith gweithwyr y sector gyhoeddus - mae yna ofnau y bydd 25% o'r gweithlu yn sâl.
Yn y cyfamser mae pobl yn cael eu hannog rhag mynd i adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Treforys yn Abertawe gan "fod prinder staff yn sgil Covid" yn effeithio ar eu gwasanaethau.
Fydd pob trên ddim yn weithredol ddydd Llun oherwydd absenoldeb staff ac mae Trafnidiaeth Cymru yn paratoi amserlen frys ac yn cynghori pobl i wirio cyn teithio.
Wrth siarad â'r BBC fore ddydd Sul dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r Ionawr caled yr oeddem yn ei ragweld wedi cyrraedd.
"Ac mae'r cyfyngiadau sydd wedi'u cyflwyno yn hanfodol i'n cynorthwyo i wynebu'r cyfnod heriol."
Dywed Mr Drakeford fod gwybodaeth arbenigol gan Brifysgol Abertawe yn awgrymu y gallai Cymru weld "cynnydd sydyn" mewn achosion yn "ail hanner y mis".
"Ond yna, o gymharu â thonnau eraill o'r haint, mae disgwyl cwymp sydyn yn y niferoedd wrth i don Omicron ledaenu trwy Gymru."
Dyma oedd y sefyllfa yn Ne Affrica, meddai, ac "mae'n debygol bod brig y don wedi pasio yn y fan honno bellach".
'Cymru'n paratoi'
Wrth siarad ar raglen Bore Sul dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Ry'n ni falle wythnos tu ôl i Loegr, ond rydyn ni wedi bod yn paratoi.
"Ry'n ni wedi bod yn rhoi mesurau mewn lle, gwneud yn siŵr bod staff yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd os ydyn nhw'n mynd yn sâl. Dyna un o'r problemau mwyaf nawr, staff y gwasanaeth iechyd yn dioddef, felly does dim digon o staff i ofalu am bobl sy'n mynd yn sâl.
"Mae'n rhaid i chi gofio hefyd mai Ionawr yw'r amser gwaethaf i'r Gwasanaeth Iechyd mewn unrhyw flwyddyn, heb sôn am flwyddyn lle mae gyda ni Covid.
"Ryn' ni wedi mynd yn bellach na Lloegr achos ein bod ni eisiau gweld os allwn ni osgoi sefyllfa lle ni'n gweld peak uchel - ac yn rhoi gormod o bwysau ar y gwasanaeth iechyd."
Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, fod yn "rhaid i bobl gymryd mwy o gyfrifoldeb personol" a bod hynny yn well na chael mwy o gyfyngiadau.
"Rhaid i ni adeiladu ar lwyddiannau'r rhaglen frechu," meddai.
Mae'r cyfyngiadau presennol, dolen allanol yn golygu nad oes hawl gan grwpiau o fwy na chwech o bobl gyfarfod mewn tafarndai a thai bwyta yng Nghymru, mae clybiau nos ar gau ac mae'r rheol ymbellhau cymdeithasol dau fetr mewn grym mewn swyddfeydd a mannau cyhoeddus.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ei fod yn credu bod y rheolau yn deg a'i bod yn angenrheidiol "i wneud cymaint â phosib i gadw ysgolion ar agor".
"Mae cau ysgolion," meddai, "yn cael effaith negyddol ar addysg plant ac mae llawer wedi cael ei ddysgu am amddiffyn ysgolion rhag Covid, er enghraifft gwella'r awyru."
Yn gynharach dywedodd undeb yr NASUWT bod angen mwy o adnoddau profi mewn ysgolion a mwy o arian i dalu am staff cyflenwi wrth i absenoldeb staff effeithio ar ddechrau'r tymor ysgol newydd.
Fore Sul dywedodd Mark Drakeford mai cynghorau lleol, nid gweinidogion, fydd yn penderfynu a fydd ysgolion yn dysgu ar-lein ai peidio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2021