'Angen deddf addysg Gymraeg fel mater o flaenoriaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr sydd wedi bod yn cynghori Llywodraeth Cymru ar gategorïau iaith newydd i ysgolion Cymru wedi galw am ddeddf addysg Gymraeg newydd fel mater o flaenoriaeth.
Bydd categorïau newydd i ysgolion yn dechrau cael eu cyflwyno o fis Medi ymlaen.
O dan y drefn newydd, bydd nifer y categorïau yn gostwng o bump i dri yn y cynradd, gyda thri chategori newydd hefyd yn y sector uwchradd.
Ar hyn o bryd mae yna bedwar grŵp gyda phedwar is-gategori ar gyfer ysgolion dwyieithog.
Yn ôl Meirion Prys Jones, y bwriad yw cynyddu nifer y dysgwyr sy'n cael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg a cheisio efelychu llwyddiant Gwlad y Basg.
"Beth wnaethon ni oedd edrych ar draws y byd i weld am batrymau llwyddiannus eraill sydd o gynyddu'r ddarpariaeth," meddai Mr Jones.
"Fe welon ni gyda'r Basgiaid yn Sbaen bod nhw wedi llwyddo dros gyfnod o 30 mlynedd drwy ddefnyddio'r dull yma i gynyddu nifer y plant oedd yn dewis addysg trwy gyfrwng y Fasgeg o rywbeth fel 25% i'r 90% presennol."
Yn ôl Mr Jones, dyw'r drefn bresennol ddim wedi sicrhau'r twf angenrheidiol yn nifer y siaradwyr Cymraeg.
Fe fydd math newydd o ysgol - Ysgol Dwy Iaith - yn rhan o'r drefn yn y sector cynradd.
Y bwriad yw cynnig o leiaf 50% o weithgareddau'r disgybl trwy gyfrwng y Gymraeg - rhywbeth sydd wedi bod yn destun pryder i fudiad Dyfodol yn y gorffennol.
"Yn y cynradd, bydd yna ragor o ddewis gyda chategori newydd yn bennaf ar gyfer dwyrain Cymru," meddai.
"Y bwriad yw annog ysgolion cyfrwng Saesneg i gynnig darpariaeth yn y ddwy iaith yn gyfartal.
"Cyfle yw hyn wrth gwrs i blant mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i gael mwy o gysylltiad gyda'r Gymraeg."
Fe fydd y newidiadau yn cael eu cyflwyno o fis Medi ymlaen.
Y categorïau newydd
Sector cynradd
Categori 1: Ysgol Cyfrwng Saesneg
Categori 2: Ysgol Dwy Iaith
Categori 3: Ysgol Cyfrwng Cymraeg
Sector uwchradd
Categori 1: Ysgol Cyfrwng Saesneg
Categori 2: Ysgol Dwy Iaith
Categori 3: Ysgol Cyfrwng Cymraeg
Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol, wedi croesawu'r newid, ond hefyd yn galw am ddeddf addysg Gymraeg.
"Mae'r system bresennol ar gyfer cynllunio a darparu addysg Gymraeg yn methu," meddai.
"'Da ni ddim yn gweld y twf sydd ei angen os ydyn ni am gyrraedd y miliwn o siaradwyr erbyn 2050, ac i sicrhau fod bob un plentyn yn cael yr un cyfle i dyfu lan i siarad Cymraeg.
"Beth 'da ni angen yw deddf addysg Gymraeg gyflawn i sicrhau fod bob plentyn yn medru cael addysg Gymraeg."
Mae'r alwad honno wedi ei hategu gan Meirion Prys Jones: "Wrth wneud y gwaith yma, wrth edrych ar gategoreiddio ysgolion, ni'n gweld cyn lleied o sail gyfreithiol sydd i'r ddarpariaeth.
"Mae'n bryd i ni gael deddf sydd yn gosod allan beth yw categori ysgol a beth yw addysg drochi.
"Mae angen gosod hyn mewn deddfwriaeth."
'Angen sefydlu ac ehangu'
Ar Dros Frecwast, dywedodd mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg mai un elfen "hynod allweddol" o'r mater yw'r "canfyddiad mae hyn yn ei roi i rieni".
Dywedodd eu llefarydd Elin Maher bod rhieni mewn sawl achos ddim yn deall y system flaenorol.
"Dyw rhieni ddim falle yn sylweddoli weithiau beth yw ystyr categori ysgol, ac mae hynny'n bryder i ni yn yr ardaloedd lle nad yw addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod yn opsiwn gwirioneddol, yn enwedig yn yr ysgolion uwchradd."
Ond ychwanegodd bod angen pwyslais ar gynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer y ddarpariaeth addysg am y ddegawd nesaf.
"Mae pob sir i fod yn cyflwyno cynlluniau erbyn diwedd y mis, a hyd yn hyn yn anffodus dydyn ni ddim wedi gweld falle'r cryfder o fewn y cynlluniau y bysen ni wedi dymuno.
"Bysen ni wedi dymuno gweld lot mwy o awdurdodau lleol yn sefydlu ac yn ehangu eu darpariaeth fel bod addysg Gymraeg yn dod yn fwy hygyrch i bob teulu o fewn eu siroedd nhw."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno Bil Addysg Cyfrwng Cymraeg yn ein Rhaglen Lywodraethu.
"Bydd y categorïau newydd yn rhan o'r ystyriaethau hyn a byddant yn rhan hollbwysig o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg lleol dros y 10 mlynedd nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd27 Medi 2018