Liam Williams yn arwyddo i Gaerdydd o'r Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Liam WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cefnwr Cymru Liam Williams wedi arwyddo i Rygbi Caerdydd o'r Scarlets ar gyfer tymor 2022-23.

Fe ddechreuodd y chwaraewr 30 oed ei yrfa gyda'r Scarlets. Gadawodd y garfan ar gyfer Saracens yn 2017, cyn dychwelyd i Lanelli yn Chwefror 2020.

"Dwi'n gyffrous i ymuno â Chaerdydd yn yr haf ond yn parhau'n ddiolchgar i'r Scarlets, sydd wedi rhoi gymaint o gyfleoedd i mi," meddai Williams.

Dyw Caerdydd heb ddatgelu hyd y cytundeb.

Cafodd ail gyfnod Williams gyda'r Scarlets ei effeithio gan anafiadau, rygbi rhyngwladol a'r pandemig.

Mae Williams wedi chwarae i'r Scarlets 115 o weithiau, a sgoriodd 21 cais o fewn 31 gêm i Saracens.

Buodd hefyd yn rhan o ddau Gwpan y Byd gyda charfan Cymru, ac mae wedi ennill y Chwe Gwlad, Camp Lawn, a bod yn rhan o ddwy garfan gyda'r Llewod.

'Angen newid'

"Mae gen i atgofion melys gyda'r Scarlets, ond ar y pwynt hwn yn fy ngyrfa dwi'n teimlo bod angen newid amgylchedd arna i er mwyn sicrhau fy mod yn chwarae i'r safon orau a galla i," meddai Williams.

Dywedodd cyfarwyddwr Rygbi Caerdydd Dai Young fod Williams wedi bod yn "un o gefnwyr gorau'r byd am sawl blwyddyn" a'i fod yn gyffrous i'w groesawu.

Dywedodd rheolwr cyffredinol rygbi'r Scarlets Jon Daniels eu bod yn parchu penderfyniad Williams "ac yn gwybod y bydd yn rhoi popeth i'r crys am weddill y tymor".