Mohamud Mohammed Hassan: Teulu yn dal i chwilio am atebion

  • Cyhoeddwyd
Mae teulu Mohamud Hassan am i'r heddlu ryddhau lluniau corff-gameraFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Mohamud Hassan am i'r heddlu ryddhau lluniau corff-gamera

Mae teulu dyn a fu farw ar ôl cael ei ryddhau o ddalfa'r heddlu eisiau i'r atwrnai cyffredinol a'r ysgrifennydd cartref ymyrryd yn ei achos.

Mae'r Swyddfa Annibynnol ar Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i gyswllt yr heddlu â Mohamud Mohammed Hassan, 24, o Gaerdydd, fu farw flwyddyn yn ôl.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o darfu ar yr heddwch, a'i ryddhau'n ddiweddarach ar 9 Ionawr y llynedd heb gyhuddiad. Bu farw'r noson honno.

Dywedodd yr IOPC fod eu hymchwiliad "bron â dod i ben" ac y byddan nhw'n rhannu lluniau fideo a deunydd tystiolaethol arall gyda theulu Mr Hassan... cyn gynted ag y gallwn".

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn parhau i "gydweithredu'n llawn ag ymchwiliad IOPC ac wedi darparu gwybodaeth a deunydd iddynt, gan gynnwys lluniau teledu cylch cyfyng a fideo a wisgir ar y corff".

'Creulon ac anarferol'

Mewn datganiad a gyhoeddwyd ar ben-blwydd cyntaf marwolaeth Mr Hassan, dywedodd ei deulu: "Er gwaethaf ein ceisiadau dro ar ôl tro am gael gweld ffilm o oriau olaf bywyd Mohamud, mae'r IOPC wedi gwrthod mynediad i'r teulu yn gyson.

"Credwn y dylai fod gan bob teulu y rhai sy'n marw mewn amgylchiadau amheus yn nalfa'r heddlu hawl awtomatig wedi'i hymgorffori yn y gyfraith i gael mynediad ar unwaith i luniau corff-gamera'r heddlu sy'n dangos yn union beth ddigwyddodd yn ystod eu munudau olaf ar y ddaear hon."

Bu protestio ar strydoedd Caerdydd yn dilyn marwolaeth Mr Hassan fis Ionawr diwethaf.

Yn ddiweddarach, methodd archwiliad post-mortem â sefydlu achos ei farwolaeth.

Mae IOPC yn ymchwilio i chwe swyddog mewn perthynas â'r achos.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd criw o tua 20 o bobl yn protestio y tu allan i orsaf yr heddlu ym Mae Caerdydd ddydd Sul

Dywedodd Hilary Brown, cynrychiolydd cyfreithiol y teulu, fod peidio datgelu unrhyw luniau i'r teulu "yn gosb greulon ac anarferol i deulu sy'n ceisio dim mwy na'r gwir".

Ychwanegodd fod hyd yr ymchwiliad wedi bod yn "gwbl annerbyniol".

'Dilyn pob trywydd'

Dywedodd cyfarwyddwr IOPC Cymru, Catrin Evans, fod "adroddiad ymchwiliad sylweddol yn cael ei gwblhau".

"Er ein bod yn gwerthfawrogi pa mor anodd iawn fu'r flwyddyn ddiwethaf hon i deulu Mr Hassan a'u hangen dealladwy i wybod amgylchiadau ei farwolaeth, mae wedi bod yn hanfodol ein bod yn dilyn pob trywydd ymholi posib," meddai.

"Rydym yn parhau i gysylltu â'r crwner, ac yn gweithio tuag at rannu lluniau fideo a deunydd tystiolaethol arall gyda chynrychiolydd teulu a chyfreithiol Mr Hassan cyn gynted ag y gallwn."

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn cydnabod yr "effaith y mae marwolaeth Mr Hassan wedi'i chael ar ei deulu, ei ffrindiau a'r gymuned ehangach".

"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad yn parhau i fod gyda nhw," meddai mewn datganiad.

Pynciau cysylltiedig