Rhybudd i heddwas arall yn achos marwolaeth Mohamud Hassan

  • Cyhoeddwyd
Mohamud Mohammed HassanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mohamud Mohammed Hassan ychydig oriau ar ôl cael ei ryddhau o'r ddalfa gan yr heddlu

Mae chweched heddwas bellach yn destun ymchwiliad ar ôl i ddyn farw oriau wedi iddo gael ei ryddhau o'r ddalfa.

Mae'r Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i gyswllt yr heddlu â Mohamud Mohammed Hassan, 24 oed o Gaerdydd.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o darfu ar yr heddwch, a'i ryddhau'n ddiweddarach ar 9 Ionawr heb gyhuddiad.

Bu farw'r noson honno.

Mae'r rhybudd camymddwyn diweddaraf yn erbyn sarjant dalfa Heddlu De Cymru.

Mae'n ymwneud ag ansawdd yr asesiad risg a gynhaliwyd ar Mr Hassan pan oedd yn y ddalfa, meddai'r IOPC mewn datganiad.

Dywedodd nad oedd rhybudd camymddwyn o reidrwydd yn golygu bod swyddog wedi cyflawni unrhyw drosedd, ond ei fod i hysbysu swyddog bod ei ymddygiad yn destun ymchwiliad.

Beth ydy'r hysbysiadau eraill?

Yn flaenorol, mae'r corff wedi cyflwyno hysbysiadau i bedwar swyddog Heddlu De Cymru a swyddog dalfa.

Mae tri o'r hysbysiadau blaenorol yn ymwneud â phan oedd Mr Hassan yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd.

Mae dau yn ymwneud â gweithredoedd swyddogion a aeth i gyfeiriad ar Ffordd Casnewydd ar y noson y cafodd Mr Hassan ei arestio.

Os y bydd canfyddiad bod swyddog wedi torri safonau proffesiynol ar lefel camymddwyn difrifol gellir ei ddiswyddo, ac ar lefel camymddwyn gallant dderbyn rhybudd ysgrifenedig.

Disgrifiad o’r llun,

Bu cannoedd o bobl yn protestio ac yn gorymdeithio yng Nghaerdydd yn dilyn marwolaeth Mr Hassan

Ymunodd cannoedd o bobl mewn gorymdaith brotest trwy Gaerdydd ar ôl marwolaeth Mr Hassan.

Mae Heddlu De Cymru eisoes wedi dweud eu bod wedi darparu gwybodaeth a deunydd i'r IOPC, gan gynnwys lluniau teledu cylch cyfyng a fideo wedi'i wisgo ar y corff.

Methodd archwiliad post-mortem â sefydlu achos marwolaeth Mr Hassan, clywodd cwest i'w farwolaeth.