'Cywilydd nad oes yma lyfrgell farddoniaeth genedlaethol'
- Cyhoeddwyd
Dywed bardd blaenllaw ei bod hi'n "gywilydd" nad oes gan Gymru lyfrgell farddoniaeth genedlaethol.
"Gwlad beirdd a chantorion - enwogion o fri? Wel, na os nad oes gan bobl le i fynd i fenthyg llyfrau barddoniaeth," medd Gwyneth Lewis.
Dywed ei bod hi'n teimlo'n angerddol bod angen sefydliad o'r fath ar ôl iddi ymweld â llyfrgelloedd barddoniaeth cenedlaethol Lloegr yn Llundain a'r Alban yng Nghaeredin.
"Canolfan i hyrwyddo barddoniaeth a gweithgareddau sydd ei angen," meddai gan sefyll yng nghysgod Canolfan y Mileniwm, lle mae ei geiriau eiconig yn datgan pwysigrwydd 'Ffwrnais Awen' i genedl y Cymry.
"Dyw barddoniaeth ddim yn rhywbeth i chi ond yn ei ddarllen, mae'n rhywbeth byw.
"Mae mor bwysig i'n galluoedd ni i fynegi ein hunain, i ddychmygu ein dyfodol ni ac i fyw y gorau gallwn ni yn y presennol," ychwanegodd.
Mewn ymgais i wireddu'r freuddwyd i gael llyfrgell o'r fath i Gymru, mae'r bardd a'r ymgyrchydd gwleidyddol Ben Gwalchmai wedi sefydlu deiseb, dolen allanol ar-lei er mwyn i'r mater gael ei drafod o flaen pwyllgor deisebau Senedd Cymru.
"Rŵan yw'r amser," meddai, "i symud a thyfu'r political will. I fi, pam byw heb farddoniaeth?
"Ar ôl y pandemig mae angen i ni edrych unwaith eto ar beth sy'n bwysig ar gyfer byw, ac i fi mae diwylliant, mae llenyddiaeth... fel nation building i'r llywodraeth ac i bobl yng Nghymru.
"Dwi'n gwybod bod llawer o bobl yn dweud 'o wel mae'n neis, ond ddim yn 'absolutely necessary'' - ond i mi mae barddoniaeth yn helpu gydag iechyd, gyda chysylltu cymunedau a mwy, ac felly pam lai, achos mae gan Loegr ddau neu dri, Alban ag un a Chymru gyda zero?"
'Syniad ardderchog'
Mae'r Prifardd a'r Archdderwydd presennol Myrddin ap Dafydd yn un arall sy'n cefnogi'r syniad o Lyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol.
"Mae barddoniaeth yn rhywbeth sy'n cael ei ddefnyddio yn y gymdeithas - priodasau, dathliadau pen-blwydd, rhywun yn cyflawni camp, coffa hefyd wrth gwrs," meddai. "Mae hyn yn dangos bod barddoniaeth yn fyw o fewn y gymdeithas ac wrth gwrs dyma oedd hanfod barddoniaeth i ddechrau.
"Felly mae gennym ni'r holl draddodiad yma, ond beth sydd gyda ni yng Nghymru hefyd ydy Bardd Plant rhywbeth unigryw iawn drwy'r byd.
"Mae Bardd Plant Cymru dros y blynyddoedd wedi datblygu barddoniaeth ar gyfer caneuon, raps, ffilm, cartwnau ac ar gyfer pob math o gyfryngau eraill ac mae'n amser i ni ddod â'r cyfoeth yna at ei gilydd."
Lleoliad?
Ond lle ddylid lleoli sefydliad o'r fath?
"Aberystwyth," meddai Myrddin ap Dafydd yn syth, gam mai dyna "brifddinas llyfrau Cymru".
Mae'n ychwanegu y dylai fod yn sefydliad annibynnol er mwyn gallu datblygu cymeriad a thorri llwybr ei hunan.
"Llyfrgell aml iaith hefyd," meddai, "fel ein bod ni'n gallu croesi ffiniau ieithyddol."
Casi Wyn yw bardd plant a phobl ifanc Cymru am y ddwy flynedd nesaf.
Mae hithau hefyd o blaid y syniad o gael llyfrgell farddoniaeth genedlaethol fel "pencadlys all adlewyrchu Cymru i weddill y byd".
Mae Ms Wyn yn dychmygu gofod byw lle gall gweithgareddau gael eu cynnal a'u mwynhau.
Mae'n galw am drafodaeth ehangach er mwyn cynnwys syniadau gwerthfawr plant a phobl ifanc. Dyw hi ddim am weld adeilad sy'n cyfyngu ar ein traddodiad barddol.
"Ydy adeilad yn fwy o beth, yn rhywbeth sy'n angenrheidiol achos bosib bod barddoniaeth yn rhywbeth sy'n arbennig yng Nghymru achos ei bod hi'n cael ei mwynhau mewn ffyrdd mor naturiol? Mae hynny'n gwestiwn sy'n werth ei ofyn."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru eisoes yn gartref i gasgliadau llenyddiaeth a barddoniaeth cyfoethog Cymru.
"Fe fyddai angen i'r Llyfrgell Genedlaethol, Llenyddiaeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru ystyried y cynnig hwn."
Ar ran Llenyddiaeth Cymru dywedodd llefarydd: "Mae barddoniaeth yn ffurf lenyddol hollbwysig. Mae'n helpu i'n diffinio fel cenedl, i ninnau ein hunain ac i'r byd. Mae'n ein helpu i fod yn agored ein meddwl, i ddangos mwy o empathi, ac i fod yn fwy gwydn.
"Gallai Llyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol sy'n dathlu lleisiau amrywiol y Cymry drwy'r oesoedd, ac sy'n ymrwymo i ddatblygu a rhoi llwyfan i leisiau'r rheini sy'n cael eu tangynrychioli yn ein dwy lenyddiaeth, fod yn gaffaeliad rhagorol i'n gwlad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2020