Covid: Dim llacio'n syth yn sgil cyfradd 'uchel iawn'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Two women wearing face masksFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi gorymateb i Omicron

Dyw cyfyngiadau Covid ddim yn cael eu llacio'n syth gan fod cyfradd achosion Cymru'n "dal yn uchel iawn" yn ôl y Gweinidog Iechyd.

Roedd Eluned Morgan yn ymateb i alwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig i lacio mesurau'n gynt.

Bydd Cymru'n dychwelyd i lefel rhybudd sero erbyn 28 Ionawr, gyda chyfyngiadau ar dorfeydd chwaraeon yn cael eu llacio a chlybiau nos yn ail agor.

Dywedodd ei bod yn derbyn bod y cyfraddau'n gostwng yn gyflym ond eu bod yn parhau yn uchel - 572 o achosion fesul bob 100,000 o'r boblogaeth.

Ond, ychwanegodd nad ydym wedi "gweld diwedd" ton Omicron eto.

Fe wnaeth Eluned Morgan wadu bod y llywodraeth wedi gorymateb i fygythiad Omicron trwy gyflwyno cyfyngiadau pellach ar ddydd San Steffan i fusnesau lletygarwch a gemau chwaraeon.

Dywedodd bod "dadansoddiad cychwynnol" yn awgrymu y byddai 69,000 o achosion ychwanegol yng Nghymru pe na fyddai'r cyfyngiadau wedi'u cyflwyno.

"Mae ein dadansoddiad cychwynnol wir yn ddadansoddiad cychwynnol - mae'n awgrymu fod tua 170,000 o bobl yng Nghymru wedi cael Covid ar un pwynt ac mae hynny'n ddigon i lenwi Stadiwm y Mileniwm tua dwy a hanner o weithiau.

"Pe na fyddem ni wedi cyflwyno cyfyngiadau, byddai gyda ni 69,000 yn rhagor o bobl â Covid. Felly mae hynny'n ddigon i bron â llenwi Stadiwm y Mileniwm eto.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyfradd achosion yn 572 fesul bob 100,000 o'r boblogaeth

Ond fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd bod y modelu roedd Llywodraeth Cymru yn dibynnu arno yn seiliedig ar "ddata amherffaith".

"Dw i'n gobeithio y gallwn ni wneud ychydig mwy o ddadansoddi rhifau. Yn amlwg, mae'n briodol i ni ddadansoddi ar ôl y digwyddiad.

"Ry'n ni'n awyddus iawn i ddysgu, ry'n ni i gyd yn dysgu yma. Mae hwn yn amrywiolyn newydd. Chi'n gwybod, doedd neb wedi clywed am Omicron dim ond mis a hanner yn ôl.

'Cyrraedd y brig yn gynt na'r disgwyl'

Dywedodd Eluned Morgan bod brig y don wedi cyrraedd yn gynt na'r disgwyl ac na welwyd cymaint o dderbyniadau i ysbytai a oedden nhw wedi rhagweld.

"Felly roedd ychydig o'r modelu hynny efallai ddim lle'r oedden ni wedi meddwl y byddai, ond mewn ffordd dda."

Dywedodd Ms Morgan ei bod yn credu bod gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi "ei chael hi bron â bod yn gywir ac yn amlwg, amser a ddengys os gafon ni hi'n gywir."