Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes
- Cyhoeddwyd
Eto eleni, mae gan raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru gystadleuaeth sgwennu stori i blant Cymru. Y thema eleni yw Y Gyfrinach a'r beirniad yw'r gyflwynwraig a'r awdures, Mari Lovgreen.
Mae'r dyddiad cau ar 3 Mawrth 2022, sef Diwrnod y Llyfr.
Cymru Fyw sydd wedi gofyn i Mari rannu ambell dip gyda phlant Cymru wrth fynd ati i ysgrifennu.
Helo blant Cymru!
Ydach chi'n barod i sgwennu stori? Rhowch gynnig arni - beth sydd yna i'w golli? Dwi ddim yn feirniad cas o gwbl, a dwi methu aros i weld eich cynigion chi! Mae gan bawb yn y byd ddychymyg felly ewch amdani. Hefyd, does yna ddim ffasiwn beth â syniad anghywir. Dyma ambell dip gen i.
Prif Gymeriad
Dechreuwch drwy feddwl am y prif gymeriad. Stori fer ydi hon yn mynd i fod, does dim angen gormod o gymeriadau.
Meddyliwch stori pa gymeriad yw hon? Does dim rhaid i'r cymeriad fod yn berson; gallai fod yn anifail, yn greadur dychmygol, neu'n alien!
Thema: Y Gyfrinach
Ar ôl i chi benderfynu ar brif gymeriad meddyliwch beth fydd y gyfrinach yn y stori. Gallai'r gyfrinach fod yn unrhyw beth!
Efallai mai lleoliad yw'r gyfrinach. Cwpwrdd sy'n agor i fyd arall efallai?
Neu, efallai mai cymeriad arall yw'r gyfrinach. Beth am anifail anwes sy'n medru siarad neu ysbryd sy'n dod i stafell y prif gymeriad yn y nos?
Neu efallai bod cymeriad yn y stori yn rhannu cyfrinach gyda'r prif gymeriad. Ydy Nain Twm yn rhannu ei chyfrinach hi gydag o, sef ei bod yn medru hedfan?!
Cynlluniwch cyn cychwyn
Mae'n help cael rhyw fath o drefn i beth sy'n digwydd nesaf yn y stori. Meddyliwch beth sy'n digwydd nesaf i'r prif gymeriad bob tro.
Disgrifio da
Defnyddiwch ansoddeiriau a chymariaethau i ddod â'r stori'n fyw.
Deialog naturiol
Mae cynnwys deialog yn rhoi amrywiaeth i'r stori a llais i'r cymeriadau. Dyma ambell enghraifft:
"Nefi bliw! Mae Mari wedi newid lliw ei gwallt! Mae o'n biws!" chwarddodd Dafydd.
"Pumdeg punt! Diolch Nain, dyma'r anrheg pen-blwydd orau," meddai Anwen yn llon.
"Faint o'r gloch ydy hi? Ydy hi'n amser cinio eto? Dwi'n llwgu!" cwynodd Guto gan rwbio'i fol yn araf.
Yn bwysicaf oll, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael hwyl wrth sgwennu'r stori! (O ia, mi fydd yna wobrau arbennig i'r enillwyr hefyd!)
Pob lwc,
Mari