Straeon buddugol awduron ifanc cystadleuaeth Aled Hughes

  • Cyhoeddwyd
Tri chlawr i'r tair stori buddugol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Bethan Mai, Efa Lois a Huw Aaron eu comisiynu i greu cloriau arbennig i'r dair stori fuddugol

Ym mis Mawrth fe gyhoeddwyd enwau'r tri awdur ifanc a enillodd gystadleuaeth sgrifennu stori rhaglen Aled Hughes ar Radio Cymru: dyma'r cyfle cyntaf i ddarllen eu straeon buddugol gyda chloriau wedi eu comisiynu yn arbennig gan dri artist.

Mae'r artistiaid Bethan Mai, Efa Lois a Huw Aaron wedi creu cloriau arbennig ar gyfer straeon y tri enillydd ar y thema Y Llwybr Hud - sef Huw o Ysgol Mynydd Bychan yn y categori 5-7 oed; Nel o Ysgol Gymraeg Dewi Sant Llanelli yn y categori 7-9 oed; ac Elan o Ysgol Brynaerau yn y categori 9-11 oed.

Cliciwch i ddarllen y dair stori fuddugol:

Fe wnaeth cannoedd o blant ateb yr her i ysgrifennu stori gan roi modd i fyw i'r beirniad, yr awdures Llio Maddocks.

"Cefais oriau o hwyl yn darllen drwy'r straeon ac yn mynd ar daith drwy ddychymyg y plant, o Gymru i Awstralia, i Dwrci a Japan, a hyd yn oed i'r gofod! Bum yn y goedwig yn cyfarfod uncyrn, ac yn y jwngl gyda llewod a theigrod, a bum ar daith i wlad y malws melys," meddai.

"Am braf oedd cael dianc i'w creadigaethau lliwgar a mynd am dro ar hyd yr holl lwybrau hud!

Llio Maddocks
Llio Maddocks
Mae mor bwysig i ni feithrin a datblygu y genhedlaeth nesaf o awduron, felly un neges sydd gen i i'r holl gystadleuwyr. Daliwch ati i sgwennu!
Llio Maddocks

"Roedd y pandemig yn un thema amlwg oedd yn rhedeg drwy'r straeon, gydag un awdur yn dychmygu teithio i'r gorffennol a gorfod esbonio beth yw mygydau i bobl o'r Oes Efydd, rhai awduron yn amlwg yn dyheu am gael mynd yn ôl i'r ysgol i weld eu ffrindiau, a nifer fawr yn hiraethu am gael gweld Nain a Taid.

"I mi, mae sgwennu am yr hyn sy'n ein poeni ni yn llesol ac yn angenrheidiol, a dwi'n gobeithio bod yr awduron newydd wedi cael budd o roi pensel ar bapur ac ysgrifennu am eu pryderon.

"Mae mor bwysig i ni feithrin a datblygu y genhedlaeth nesaf o awduron, felly un neges sydd gen i i'r holl gystadleuwyr: Daliwch ati i sgwennu! A diolch i bob un ohonoch chi am roi gwên ar fy wyneb tra'n darllen eich straeon. Mae dyfodol llyfrau yng Nghymru yn un disglair iawn."

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw