Rhoddion gwaed wedi 'achub bywyd ein plentyn'
- Cyhoeddwyd
"Heb y rhoddwyr, sai'n credu bydden ni yma heddiw yn deulu o bedwar, a sai'n credu bod e'n werth meddwl amdano."
Mae Liz a Rhys Howells, rhieni Taliesin yn cofio 'nôl i'r cyfnod pryderus hwnnw bron i ddwy flynedd yn ôl pan oedd eu mab yn fabi newydd anedig yn yr ysbyty.
Dros gyfnod o bum mis, cafodd Taliesin ofal arbenigol, gyda meddyginiaeth a pheiriannau yn ei gadw'n fyw. Yn aml yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd angen gwaed newydd cyson ar y plentyn bach.
Yn ôl ei dad, Rhys Howells: "O'dd e ar maximum life support a do' ni ddim yn sylweddoli faint o waed oedd ishe ar blentyn mor fach. Dwi'n cofio un noswaith, cafodd e tua pymtheg o transfusions.
"Ni'n gwybod yn iawn fod pobl sy'n rhoi gwaed wedi safio bywyd Taliesin, yn amlwg gyda'r doctoriaid a'r nyrsys a ni mor ddiolchgar."
Mae Taliesin bellach yn agosáu at ei ben-blwydd yn ddwy oed. Er yn wynebu ambell i her feddygol, mae'n blentyn hapus ac egnïol, a'r teulu yn Llangennech yn llawn sylweddoli gwerth y broses o roi gwaed.
"Cyn i bethau ddigwydd i Taliesin, chi byth yn meddwl bo' chi fel teulu byth yn mynd i, yn gyntaf ddefnyddio'r NHS fel ni wedi defnyddio nhw, a hefyd, defnyddio gwaed.
"Fi bach yn embarrassed, do'n i fyth wedi rhoi gwaed cyn i Taliesin fod yn yr ysbyty. Roedd y wraig wedi, so dyna'r peth cynta' 'nes i oedd mynd i roi gwaed, a chi'n sylweddoli wedyn pa mor hawdd yw e.
'Ugain munud i safio bywydau'
"Chi'n troi lan, ugain munud yw e, a chi'n safio bywydau. Mae'n rhywbeth hawdd i ddweud, ond mae gyda ni first hand experience nawr."
Mae yna ostyngiad o 13% yn nifer y rhoddion gwaed yng Nghymru. Effaith Covid-19 sy'n rhannol gyfrifol, yn ôl Gwasanaeh Gwaed Cymru sy'n apelio am ragor o bobl i ddod i'r arfer o ddod yn rhoddwyr.
Mae'r pandemig medden nhw wedi rhoi pwysau sylweddol ar y cynllun casglu gwaed yng Nghymru; cyn y cyfnod hwnnw er enghraifft, roedd yna ganolfannau symudol yn crwydro'r wlad, ond mae'r arfer hwnnw wedi dod i ben yn sgil cyfyngiadau Covid.
Mae Rhys Howells yn cefnogi'r ymgyrch: "Chi'n gweld yr hysbysebion ar deledu. Ond unwaith maen nhw 'di cwpla, mae'n mynd mas o'r pen.
"Ond wedi mynd trwyddo beth ni wedi gyda Taliesin, fi'n credu bod e'n vital bod pobl yn mynd i roi gwaed. Chi byth yn meddwl bod e'n mynd i effeithio arno chi nes bod e'n effeithio arno chi."
'Llai o roddion' yn sgil Omicron
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn arbennig o awyddus i ddenu rhoddwyr ifanc rhwng 17-30 oed gan fod y cynlluniau casglu gwaed arferol mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion wedi eu gohirio.
Yn ôl Cyfarwyddwr dros dro Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser, mae misoedd y gaeaf yn heriol ar y gorau, ac mae'r pandemig wedi ychwanegu at y pwysau arferol.
"Mae Omicron wedi dod â heriau unigryw o ran staffio, ac yn benodol, nifer y rhoddwyr sydd ar gael. Mae'r model newydd o weithredu'n golygu bod angen i bobl drefnu apwyntiad, a dros y misoedd diwethaf roedd nifer y bobl oedd yn canslo oherwydd graddfeydd Omicron o fewn cymunedau yn effeithio ar ein gallu i gasglu gwaed.
"Roedd angen dod o hyd i ganolfannau mawr er mwyn pellhau'n gymdeithasol. Roedd rhaid canslo canolfannau cymunedol llai felly, ac mae hynny wedi cael effaith, gyda gostyngiad o rhwng 10-15% o ran y gwaed sy'n cael ei gasglu."
Ychwanegodd Mr Prosser: "Ry'n ni'n arbennig o awyddus i gyrraedd y boblogaeth sydd rhwng 17 a 30 oed yma yng Nghymru i ymuno â'n cymuned o achubwyr bywyd.
"Mae cynyddu nifer y rhoddwyr o fewn y grŵp oedran yma hefyd yn ein galluogi i ymladd yn erbyn canser y gwaed wrth i bobl ifanc ymuno â'r gofrestr Rhoddwyr Mêr yr Esgyrn."
'Diffyg gwybodaeth'
Yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, mae disgyblion chweched dosbarth yno ar y cyfan yn teimlo mai diffyg gwybodaeth yw'r broblem. Doedd Iestyn ddim yn gwybod bod modd i bobl ifanc 17 oed fod yn rhoddwyr.
"Yn bersonol, dwi ddim yn gwybod sut i roi gwaed. Lle byddwn yn mynd i roi gwaed? A felly os oedd mwy o symudiad fel sydd gyda'r brechlyn efallai, anfon negeseuon, hysbysebion ar y teledu er enghraifft, efallai byddai mwy o frwdfrydedd i roi gwaed."
Gweld yr arfer o ymweld ag ysgolion yn ailddechrau oedd gobaith Posie, disgybl blwyddyn 13.
"Un o'r prif resymau pam dy'n ni ddim yn gallu rhoi yw achos dy' ni ddim yn siŵr beth yw'r cam cyntaf. Ond os y'n nhw'n dod yma, mae'n llai o ymdrech ar ein rhan ni a bydd mwy o bobl yn gwirfoddoli."
3% o Gymry'n rhoi gwaed
Er bod canolfannau yn parhau i weithredu ar draws y wlad, o'r rheini sy'n gymwys i roi gwaed, dim ond 3% o boblogaeth Cymru sy'n gwneud. Mae yna apêl felly ar i ragor gofrestru.
Yn ôl y gwasanaeth, gallai un apwyntiad arbed bywyd tri oedolyn, neu fywyd chwe babi.
Yn Abertawe, fe aeth Dr Gemma Morgan, darlithydd Troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe i roi gwaed am y tro cyntaf.
"Dwi wedi eisiau gwneud ers amser, a weles i'r apêl ar-lein felly meddylies i bod hwn yn adeg da. Fe wnaeth y pandemig oedi'r penderfyniad rhywfaint achos do' ni ddim yn gwybod os oedd e'n digwydd.
"Mae'n bwysig codi ymwybyddiaeth felly, ynglŷn â pha mor bwysig yw e a pha mor rhwydd yw e. Mae 'di bod yn broses rhwydd iawn felly a bydden i'n annog pobl i ddod a rhoi gwaed."
Yn 19 mlwydd oed, mae Freddie Ward yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.
"Mae'n afiach bod 'na brinder. Mae mor rhwydd i wneud, ac mae'n lleol. Er bod 'da fi damaid o ofn o nodwyddau, dwi'n credu bod cefnogi'r NHS yn bwysig.
"Maen nhw wedi'n cefnogi ni trwy Covid felly mae angen i ni eu cefnogi nhw."
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru'n rhan hanfodol o'r gwasanaeth iechyd ac yn gyfrifol am gasglu 100,000 o roddion gwaed yn ystod blwyddyn arferol. Mae hynny'n cynnal anghenion 20 ysbyty ar draws Cymru.
Mae rheoliadau ychwanegol wedi'u cyflwyno mewn canolfannau casglu yn ystod y pandemig er mwyn sicrhau diogelwch y rhoddion ar bob achlysur.
Mae Nicola Pritchard wedi bod yn nyrs gyda'r gwasanaeth rhoi gwaed ers pymtheng mlynedd.
"Dewch i mewn, mae popeth yn saff. Ni gyd yn gwisgo PPE, ffedog, mwgwd, goggles, ni'n glanhau popeth a ni'n cadw pellter hefyd felly mae'n ddigon saff. Mae'n broses hawdd, a chi'n safio bywydau."
Gallwch ymweld â gwefan Gwasanaeth Gwaed Cymru, dolen allanol i gofrestru i roi gwaed.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2022