A55: Teyrnged i ddyn oedd 'wrth ei fodd hefo bywyd'

  • Cyhoeddwyd
Marc Winston RobertsFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar Bont Britannia ddydd Iau.

Roedd Marc Winston Roberts yn 52 oed ac yn dod o ardal Amlwch ar Ynys Môn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gwrthdrawiad yn ymwneud â dau gar a dwy lori am tua 03:00 fore Iau.

Mewn teyrnged i Mr Roberts, mab i'r cyn-gynghorydd sir Gareth Winston Roberts, dywedodd ei deulu: "Roedd Marc yn unigolyn bywiog a oedd wrth ei fodd hefo bywyd a'i swydd fel crefftwr trydanol.

"Mwynhaodd ffrindiau, teulu a chydweithwyr ei gwmni.

"Er bod ei fywyd wedi dod i ben yn drychinebus o fyr, roedd yn llawn hapusrwydd ac fe rannodd gyfeillgarwch unigryw gyda'i 'ffrind gorau' pedair coes Leo!

"Bydd Jane a Gareth, Carys, Siôn ac Elin yn ei golli'n fawr a gan bawb a oedd yn ei adnabod am ei gymeriad a'i synnwyr digrifwch.

"Nid oedd hi byth yn ddiflas hefo Marc!"

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad, ac yn gofyn i unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal ar y pryd i gysylltu gyda nhw.

Cafodd dyn 38 oed ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac mae bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.