Bwthyn Antur i gynnig ysbaid i bobl ag anableddau dysgu
- Cyhoeddwyd
Mae menter gymdeithasol yng Ngwynedd wedi agor bwthyn gwyliau newydd er mwyn ehangu eu darpariaeth i bobl ag anableddau dysgu.
Pwrpas y byngalo yn Antur Waunfawr ydy cynnig rhywle i bobl gael aros dros nos - gan gynnig ysbaid iddyn nhw a'u teuluoedd.
Mae pobl ag anableddau dysgu eisoes yn cael nifer o gyfleoedd drwy'r fenter, gan gynnwys beiciau addasedig, siop ddodrefn, a gardd a chaffi ar y safle.
Nawr mae'r "byngalo ysbaid" sydd newydd gael ei addasu yn golygu bod modd iddyn nhw hefyd ddod i aros dros nos bob hyn a hyn.
I rai mae'n gyfle am saib, ond i eraill mae hefyd yn gyfle i gael blas ar fyw yn annibynnol, yn ôl Menna Jones, prif weithredwr yr Antur.
"'Dan ni 'di cael ymateb positif iawn," meddai.
"Dim ond ers mis Tachwedd 'dan ni wedi bod yn defnyddio fe yn ei ffurf bresennol, ac mae 'na bobl yn galw fe'n 'Gwesty Waunfawr'.
"Mae'n cynnig ysbaid i rieni pobl, neu ofalwyr, mae'n cynnig ysbaid i bobl falle sydd isie datblygu sgiliau i fyw yn annibynnol, ac mae pobl yn dod yma fel bod nhw'n gallu treialu sut beth ydy byw mewn lle gwahanol.
"Mae'n cynnig ysbaid hefyd - dywedwch fod gan rywun broblemau iechyd meddwl, maen nhw isio rhyw fath o gyfle i gael newid.
"A hefyd cyfle i fwynhau - mae 'di bod yn gyfnod mor anodd, ac mae'n rhoi cyfle i roi gwên ar wyneb pobl."
Un o'r rheiny sydd eisoes wedi cael cyfle i aros yn y byngalo ydy Guto.
"Gwesty Waunfawr ydy enw'r tŷ, dyna lle dwi'n aros," meddai.
"Dwi'n licio chwarae gêm snakes and ladders. Mae 'na gêm pêl-droed ar y llawr, drymiau, pob math o bethau.
"Yn y tŷ mae 'stafell wely, dwi'n cysgu lawr grisiau.
"Mae gen i gegin yn y gwesty, teledu o Japan, bwrdd i eistedd lle dwi'n bwyta - tŷ clyd a chyfforddus."
Mae Guto, fel pawb arall, wedi gorfod bod adref llawer mwy na'r disgwyl dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Felly mae'r cyfle i fynd allan o'r tŷ a phrofi rhywbeth gwahanol yn un gwerthfawr iawn iddo, yn ôl Osian Owen o'r fenter.
"'Naeth Covid-19 effeithio ar lot o bobl mewn cymdeithas mewn ffordd eitha' anghymesur, a dwi'n meddwl bod pobl ag anableddau dysgu yn bendant wedi cael eu heffeithio yn anghymesur gan y pandemig," meddai.
"Mi oedd 'na rwydweithiau cefnogaeth yn dod i ben dros nos, yn enwedig i'r teuluoedd hefyd a gofalwyr.
"Wedyn wrth i ni ddod o'r cyfnod yna, mae pethau fel byngalo ysbaid Antur Waunfawr yn mynd i fod yn hollol hanfodol er mwyn ailadeiladu y support network yna i bobl."
Does dim dwywaith beth yw barn Guto am y lle, ar ôl aros yno am y tro cyntaf.
"Lle perffaith," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2020