Teyrnged i ddynes 18 oed wedi gwrthdrawiad angheuol

  • Cyhoeddwyd
Chantelle THomasFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddynes 18 a fu farw mewn gwrthdrawiad ar gyrion Abertawe fore Sul.

Dywedodd yr heddlu bod Chantelle Thomas yn dod o ardal Godre'r Graig.

Mewn datganiad, dywedodd ei theulu: "Fel teulu rydyn ni wedi'n llorio gan golli ein tywysoges Chantelle, oedd yn ferch, chwaer ac wyres oedd yn cael ei charu, ac yn cael ei charu gan bawb oedd yn ei nabod.

"Cysga'n dawel fy nhywysoges."

Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad ar yr A4067 rhwng Abertawe a Godre'r Graig.

Dywedodd swyddogion fod car Citroen C1 gwyn wedi gadael y ffordd toc cyn 01:30 fore Sul.

Mae dynes arall 18 oed yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau sydd ddim yn peryglu ei bywyd.

Pynciau cysylltiedig