Ailagor cyfleusterau hamdden Ceredigion wedi dwy flynedd
- Cyhoeddwyd
Bydd holl ganolfannau hamdden Ceredigion yn ailagor ddydd Llun wedi i rai fod ynghau am bron i ddwy flynedd.
Gyda chanolfannau Aberteifi a Phlascrug yn Aberystwyth wedi gweld defnydd fel ysbytai maes, roedd y ddau, yn ogystal â phwll nofio Llanbed, wedi bod ar gau i'r cyhoedd ers dechrau'r pandemig.
Roedd galwadau wedi bod i ailagor holl gyfleusterau'r sir er mwyn hybu iechyd a sicrhau lles tymor hir trigolion, gyda'r cyngor yn beio'r oedi ar waith uwchraddio a cynnal a chadw ar y dair ganolfan.
Ond er penderfynu i gau canolfannau'r sir unwaith eto ddiwedd mis Rhagfyr oherwydd Omicron, daeth cadarnhad ddydd Mercher y bydd holl gyfleusterau Ceredigion yn ail agor yr wythnos nesaf.
Mewn datganiad dywedodd y cyngor: "Mae'r gwaith adfer a chynnal a chadw yng Nghanolfan Hamdden Aberteifi, Pwll Nofio Llanbedr Pont Steffan a Chanolfan Hamdden Plascrug bellach wedi'i gwblhau, ac mae'r holl gyfleusterau yn barod i groesawu eu defnyddwyr yn ôl.
"Ar ôl eu defnyddio fel Ysbytai Maes a chanolfannau brechu, mae gwelliannau wedi'u gwneud ym Mhlascrug, sy'n cynnwys llawr newydd yn y neuadd chwaraeon; mae'r goleuadau ar y cyrtiau sboncen wedi'u huwchraddio ac mae Uned Trin Aer newydd wedi'i gosod.
"Yn Aberteifi, mae goleuadau a lloriau newydd ac mae offer ychwanegol wedi'i osod yn yr ystafell ffitrwydd."
Ond er bydd y system archebu o flaen llaw yn ailagor ddydd Iau, rhybuddiwyd y bydd rhai gweithgareddau chwaraeon yn cael eu cyfyngu i'r awyr agored am y tro er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo Covid-19.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2020