Alys Williams: Merch ym myd y sacsoffon

  • Cyhoeddwyd
Alys Williams yn chwarae yn Future Yard, Lerpwl, gyda Georgie WestonFfynhonnell y llun, Alys Williams
Disgrifiad o’r llun,

Alys Williams yn chwarae yn Future Yard, Lerpwl gyda Georgie Weston

John Coltrane, Charlie Parker, Sonny Rollins, Grover Washington Jr, Lester Young, Thelonious Monk... gall y rhestr o sacsoffonwyr enwog fynd yn ei flaen am byth.

Dau beth sy'n gyffredin amdanyn nhw: fe wnaeth nhw goncro'r byd drwy chwarae'r chwythbren ac maen nhw i gyd yn ddynion.

Y gwir ydi mae'n debygol iawn nad oes llawer yn gallu enwi sacsoffonydd benywaidd, hynny ydi heblaw am gymeriad cartŵn Lisa Simpson.

Un sydd yn ymwybodol iawn o hyn ydi merch ifanc, o Lanrug, sydd yn chwarae'r union offeryn. Mae Alys Williams, 23, yn byw yn Lerpwl ers pedair blynedd ar ôl mynd i'r Institute of Performing Arts (LIPA) i astudio'r sacs ac mae hi wedi cael blas ar chwarae'n fyw gyda bandiau yng nghlybiau'r brifddinas fel sacsoffonydd ers rhai blynyddoedd bellach.

"O'n i'n rili licio The Simpsons pan ro'n i'n fach ac yn meddwl bod Lisa yn cŵl," meddai. "Er mai cartŵn ydi hi ma' hi yn amlwg yn reit ddylanwadol.

"Ond mae gen ti lot o sacsoffonwyr sydd yn ferched bellach... heblaw am Lisa Simpson, rhai sydd wedi chwarae efo artistiaid mwyaf y byd."

O Springfield i Lanrug

Ond ydi pobl yn ymwybodol o'r merched ym myd y sacs tybed? Yn hanesyddol mae'n offeryn sydd i'w ddarganfod yn nwylo dynion megis John Coltrane, Charlie Parker a Lester Young.

"Mae'n gwestiwn da," meddai Alys. "Nes i edrych ar hyn yn fy dissertation yn coleg. Un o'r cwestiynau nes i holi oedd os oedd unrhyw un yn gallu enwi merch sydd yn chwarae sacsoffon?

"Wnaeth lot fawr o bobl ddeud Lisa Simpson... yn amlwg dyma pwy mae lot am feddwl am pan maen nhw'n meddwl am ferch yn chwarae sacsoffon... felly mae'n dangos rili...

Disgrifiad o’r llun,

Lisa Simpson o gyfres cartŵn The Simpsons. Ar ddechrau pob pennod mae Lisa i'w gweld yn gwneud unawd sacsoffon yn ei gwers cerdd. Yn ôl cynhyrchydd y gyfres, Matt Groening rhoddwyd yr offeryn iddi sefyll allan o weddill y teulu a gan mai hi yw'r aelod "deallus a thalentog, ac felly'n cael eu hanwybyddu."

"Yn 1996 roedd 'na surge mewn genod ifanc oedd isio chwarae'r sacsoffon achos o gymeriad Lisa.

"Y sacsoffon ma' hi yn chwarae ydi'r bariton... Mae o yn andros o instrument... mae o yn massive. Ac mae o jest yn ffyni fod y ferch fach wyth oed 'ma yn chwarae'r offeryn massive 'ma!"

'Byd hollol wahanol'

Ond nid oherwydd cymeriad cartŵn The Simpsons mae Alys yn chwarae'r offeryn. Dechreuodd ei thaith hithau pan welodd hi berson go iawn ar y teledu yn ei chwarae.

"Nes i feddwl, o waw, fysa hynna reit cŵl, cyn pigo fo fyny yn yr ysgol," meddai, ac ers cyrraedd Lerpwl yn 2018 mae Alys wedi ymgolli ym myd y sacsoffon a cherddoriaeth.

"Nes i joinio big band, sef jazz band, a nes i greu saxophone quartet o'r enw Saxophonics oedd yn fwy poppy. Roeddan ni'n sgwennu caneuon ein hunain ac roedd gen i ffrind oedd yn creu backing tracks a ballu. Roedd o'n hwyl.

Ffynhonnell y llun, Alys Williams
Disgrifiad o’r llun,

Alys Williams

"Nes i gyfarfod gymaint o bobl oedd yn meddwl yr un ffordd a fi yn LIPA, yn enwedig am fiwsig. Roedd o'n fyd hollol wahanol.

"Ar y funud dwi'n chwarae gyda band housemate fi, Georgie Weston. Mae o fel cerddoriaeth modern y 60au a'r 70au. Wnaethon ni chwarae cwpwl o gigs cyn Covid... roeddan ni fod i chwarae yn y Cavern Club yr wythnos wnaeth y lockdown gyntaf ddechrau.

Ffynhonnell y llun, Alys Williams
Disgrifiad o’r llun,

Band Georgie Weston yn chwarae yn y Future Yard

"Na'i drio gwrando ar rwbath. Gallai ddim dewis un math o gerddoriaeth. Ond mae 'na lot o ddylanwad y 60au a'r 70au - The Beatles yn amlwg, ond hefyd Billy Joel a Bowie - roedd o yn chwarae sax o doeddwn i ddim yn gwbod hynna o'r blaen.

"Nes i astudio Charlie Parker yn y coleg ac mae o yn rili cŵl. Mae storis sacsoffonwyr yn grêt... Dwi'n hoff o rai eraill fel John Coltrane a Hank Mobley hefyd."

'I'w gael mewn llwyth o bethau'

Creuwyd y sacsoffon cyntaf gan Adolphe Sax o Wlad Belg yn yr 1840au ac yn yr 1960au mewn bandiau jazz a milwrol yn unig fyddai'r offeryn yn cael ei chlywed.

Ond bellach mae'r sacs i'w ddarganfod ym mhob math o genres fel pop, roc, hip-hop, a pync. Mae o hefyd i'w ddarganfod mwy a mwy yn nwylo merched fel Alys.

Ffynhonnell y llun, Alys Williams
Disgrifiad o’r llun,

Alys yn chwarae yng nghlwb y Jacaranda yn Lerpwl

"Nes i edrych ar gendering of instruments. Pan fod merched yn dewis y ffliwt, piano a thelyn? Pam bod hogia' yn dewis, gitâr a bas a dryms a ballu? Mae'n ddifyr.

"Mae'r sacsoffon i'w gael mewn llwyth o bethau rŵan. Mae sax dj'ing wedi dod yn rhywbeth enfawr ac mae o yn boblogaidd iawn.

"Dwi'n mynd i ddechrau gwneud hynna flwyddyn yma, dwi erioed wedi gwneud o'r blaen. Dwi hefyd isio sgwennu a chyfansoddi mwy a chwarae gigs a gweld be' fedrai wneud. A swni'n hoffi dechrau rwbath yng Nghymru rhywbryd."

Rhai o hoff sacsoffonwyr benywaidd Alys:

"Candy Dulfer: Alto-sacsoffonydd sy'n arbenigo mewn jazz, disco, soul ac R&B.

"Mwy na thebyg un o'r sacsoffonwyr benywaidd fwyaf enwog yn y byd - wedi chwarae efo Prince, Van Morrison, Pink Floyd, Beyoncé, Aretha Franklin a mwy."

Ffynhonnell y llun, Getty Images/Imelda Michalczyk
Disgrifiad o’r llun,

Candy Dulfer o'r Iseldiroedd

"Jess Gillam: Sacsoffonydd clasurol 23 oed. Enillodd Classic Brit Award pan oedd yn 20 oed, a hi oedd y sacsoffonydd cyntaf i gyrraedd rownd derfynol y BBC Young Musician. Yn 2017, cefais y cyfle i fynd i'w gweld yn chwarae efo Sinfonia Cymru yn Theatr Clwyd."

Disgrifiad o’r llun,

Jess Gillam

"YolanDa Brown: Dyma oedd ateb y rhan fwyaf o bobl yn fy ymchwil. O'r rhaglen "YolanDa's Band Jam" ar CBeebies, a gafodd ei ddisgrifio fel 'Jools Holland for kids'.

"Wedi gweithio gydag artistiaid fel Billy Ocean, Jools Holland, Beverly Knight, Julian Marley a mwy."

Ffynhonnell y llun, Getty Images/Guy Smallman
Disgrifiad o’r llun,

Y sacsoffonydd YolanDa Brown

"Lovely Laura: Sacsoffonydd sy'n arbenigo mewn cerddoriaeth electronig, yn enwedig efo DJ. Cafodd ei disgrifio fel 'Ibiza's favourite saxophone player.' Gwelais Lovely Laura a DJ Ben Santiago yn perfformio'n Lerpwl yn 2019."

Ffynhonnell y llun, Lovely Laura
Disgrifiad o’r llun,

Lovely Laura

Hefyd o ddiddordeb: