Rhybudd am effaith lefel y môr ar gymunedau'r gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae academyddion yn rhybuddio y gallai'r A55, rheilffyrdd a busnesau ar hyd arfordir Cymru gael eu difrodi'n llwyr gan lifogydd erbyn diwedd y ganrif os ydy lefel y môr yn parhau i godi.
Daw'r rhybudd gan ddau academydd o Brifysgol Bangor, yr eigionegwyr (oceanographers) Dr Yueng Dern Lenn a Dr Mattias Green, sydd wedi bod yn asesu dyfodol y moroedd.
Mae eu hymchwil yn awgrymu y bydd nifer y llifogydd sy'n effeithio ar fannau arfordirol yn cynyddu 50% dros yr 80 mlynedd nesaf, ac mae'r DU yn debygol o fod yn un o'r gwledydd sy'n cael eu taro waethaf.
A hithau'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Moroedd ddydd Mawrth, mae'r gwyddonwyr yn rhybuddio y gallai effaith llifogydd arfordirol ar ogledd Cymru fod yn drychinebus.
'Llifogydd eisoes yn taro'
Dywedodd Dr Green - sy'n wreiddiol o Sweden ond bellach yn byw yng Nglan Conwy - bod enghreifftiau eisoes o'r hyn sydd i ddod.
"Mae'r ddau lwybr isadeiledd pwysig yma yn agos iawn at yr arfordir, ac maen nhw eisoes yn cael eu taro gan lifogydd oherwydd glaw trwm, ac fe fyddan nhw mewn peryg wrth i lefel y môr godi," meddai.
"Byddai cyfuniad o law trwm a storm o'r môr yn golygu ein bod mewn trwbl.
"Y rheilffordd fyddai'n mynd gyntaf, a'r rhan rhwng Bangor a Llandudno fyddai'r cyntaf i gael ei heffeithio, ac mae 'na lefydd ar hyd arfordir gogledd Cymru fyddai dan ddŵr - yn enwedig yng ngogledd-orllewin Cymru."
Ychwanegodd bod nifer o feysydd carafanau ar hyd arfordir y gogledd fyddai'n cael eu taro hefyd, yn ogystal â safleoedd diwydiannol yng Nglannau Dyfrdwy.
"Rydyn ni eisoes wedi gweld rheilffordd Dyffryn Conwy yn cau sawl gwaith yn y blynyddoedd diwethaf, ble mae'r trac wedi cael ei olchi i ffwrdd oherwydd llifogydd," meddai Dr Green.
"Ychwanegwch uchder y môr yn codi ac fe fydd pethau'n waeth, felly mae'n anochel y bydd yn rhaid rhoi amddiffynfeydd rhag llifogydd mewn lle, sy'n ddrud iawn."
'Ei atal yn well na'i adfer'
Rhybuddiodd Dr Green hefyd, pe bai lefel y môr yn parhau i godi, y byddai Cymru yn colli ei thraethau tywod.
"Fel gwyddonwyr dim ond cynghori allwn ni. Gwleidyddion fydd yn gorfod gwneud penderfyniadau am sut i amddiffyn arfordir gogledd Cymru rhag llifogydd ond mae ei atal yn y lle cyntaf wastad yn well na'i adfer," meddai.
Ychwanegodd Dr Lenn, sydd o Singapore yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yng Nghaer, y bydd yr hyn sydd wedi digwydd ym mhentref Fairbourne yng Ngwynedd yn dod yn benbleth llawer mwy cyfarwydd yn y dyfodol.
Bydd y gwaith o gynnal a chadw amddiffynfeydd môr yno yn dod i ben ymhen 40 mlynedd, ac mae Cyngor Gwynedd yn cydnabod efallai y bydd yn rhaid dechrau "dadgomisiynu'r pentref" yn 2045 a symud trigolion oddi yno.
"Rydyn ni eisoes wedi gweld cymuned ychydig i'r de o'r Bermo ble mae'r cyngor lleol wedi penderfynu nad ydyn nhw'n gallu ei amddiffyn rhag y môr," meddai.
"Mae fel y dywediad am beidio prynu tŷ sydd wedi ei adeiladu ar dywod - mae byw wrth y môr yn grêt, ond yr her i'r DU fydd effaith tywydd eithafol a'r ffin rhwng ble rydyn ni'n byw a ble mae'r môr yn dechrau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd28 Medi 2020
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2021