Rhys Mwyn: 'Dilyn fy nhrwyn' o gwmpas Gwynedd
- Cyhoeddwyd
O grwydro'r stryd fawr hiraf ym Mhrydain ym Mangor i ddarganfod mwy dan y ddaear yn Chwarel Bwlch, mae'r cerddor a'r cyflwynydd Rhys Mwyn wedi dysgu llawer am Wynedd drwy ei deithiau diweddar.
Mewn darn arbennig i Cymru Fyw, mae'n esbonio sut wnaeth o 'osgoi'r amlwg a'r ystrydebol' er mwyn darganfod mwy am y sir ar gyfer ei lyfr newydd, REAL Gwynedd.
Cefais wahoddiad gan olygydd y gyfres o lyfrau Real, Peter Finch, i sgwennu Real Gwynedd gyda'r cyfarwyddyd nad oeddwn i sgwennu llyfr hanes na thywyslyfr. Finch yw awdur y llyfrau Real Cardiff, mae hefyd yn fardd ac yn un o gyfoedion Geraint Jarman ar y sîn barddoniaeth yng Nghaerdydd yn y 1970au.
Gan gychwyn felly gyda beth i'w osgoi wrth sgwennu, yr allwedd i'r holl broses go iawn oedd defnyddio dulliau seicoddaearyddiaeth er mwyn crwydro a darganfod.
Y ffordd orau i ddisgrifio 'seicoddaearyddiaeth' yw 'dilyn eich trwyn ac arsylwi ar yr hyn o'ch cwmpas'. Damcaniaeth ddinesig neu drefol yw hon a ddatblygwyd llaw yn llaw â syniadaeth rhai fel y Situationists International yn y 60au.
Yn y llyfr Real Gwynedd rwyf yn herio ychydig ar y ddinesig a threfol gan fabwysiadu dulliau seicoddaearyddiaeth yn y Gwynedd wledig.
Dyma 10 engraifft o seicoddaearyddiaeth ar waith yng Ngwynedd:
1.Cerddwch ar hyd Stryd Fawr, Bangor - y stryd fawr hiraf yng ngwledydd Prydain. Rhwng y Gadeirlan a Stryd y Deon mae dyddiadau pwysig wedi eu gosod ar goflechi yn y palmant. Agor y Llyfrgell 1907. Agor y pwll nofio 1965. Rhaid edrych ar y llawr.
2.Ar y bwrdd gwybodaeth yn sgwâr Tremadog mae cyfeiriad at y ffaith fod y bardd Percy Shelley wedi treulio amser yn y dref. Bu'n byw am gyfnod yn Tan yr Allt sydd bellach yn westy boutique. Awgrymir ar y bwrdd gwybodaeth fod cysylltiad rhwng ymweliad Shelley â Thremadog â'r nofel Gothic Frankenstein ond mae'r cyfnod yn rhy gynnar - doedd Shelley a Mary ddim yn Geneva tan 1816, dwy flynedd ar ôl cyfnod Tan yr Allt.
3.Cyfeiriais at Rhinog Fawr fel un o'r teithiau mwyaf anghysbell a garw yn Eryri. Llai o'r llwybrau manicured. Lle i enaid gael llonydd yn sicr. Wrth gerdded o Gwm Bychan mae rhywun yn dilyn llwybr y porthmyn dros Bwlch Tyddiad. Ar lafar mae pawb yn sôn am y llwybr cerrig a'r stepiau fel Roman Steps ond does dim cysylltiad â'r Rhufeiniaid yma.
4.Teimlais yn gryf fod cyfeirio at a thrafod tarddiad enwau Cymraeg yn elfen bwysig o gynnwys y llyfr. Tybiaf mai Cwm Maethlon ger Aberdyfi oedd un o'r enwau hyfrytaf i mi ddod ar ei draws. Yn y Saesneg dyma chi Happy Valley. Disgrifiais yr enw Saesneg fel enw gwael ar faes carafanau.
5.Osgoi'r amlwg a'r ystrydebol oedd un arall o ganllawiau'r llyfr a'r gwaith sgwennu. Wrth sefyll ym mhorthladd Abersoch penderfynais mai'r ffordd orau o osgoi trafod yr argyfwng tai haf oedd troi fy nghefn ar Abersoch a dilyn yr afon i'w tharddiad rhwng Cefn Amlwch a Charn Fadryn.
6.Gan fy mod wedi treulio blynyddoedd yn gweithio yn y byd pop Cymraeg, anodd oedd osgoi yr holl neuaddau pentref lle roedd rhywun wedi canu neu ymddangos ar y llwyfan. Roeddwn yn DJ cyn cyngerdd gan Derec Brown a'r Racaracwyr yn Neuadd Dinas Mawddwy ar ddechrau'r 80au. Dyma gyfle felly i sôn am ymweliad George Borrow (Wild Wales) a chanu pop Cymraeg yn yr un paragraff.
7.Un o'r ymweliadau mwyaf diddorol yn yr holl broses sgwennu oedd cael mynd o dan y ddaear yn Chwarel Bwlch (Y Slaters) ger Manod gyda'r chwarelwr Erwyn J i weld y storfeydd celf Ail Ryfel Byd. Esgus da fy mod yn sgwennu llyfr i gael antur danddaearol hefo un o gymeriadau Blaenau Ffestiniog.
8.Gan aros yn ardal Stiniog, cefais wybodaeth am y domen sgidie ar Fwlch y Gorddinan gan Peggi Williams, Tanygrisiau. Gan fod cymaint o storïau am y domen sgidie roedd cael sgwrs hefo Peggi oedd yn gweithio yn Neuadd y Dref yn ystod y Rhyfel gyda chwmni Ackett yn prosesu sgidiau milwyr yn gyfle i gael y gwir yn hytrach na'r mytholeg.
9.Efallai mai On the Road gan Jack Kerouac oedd yr ysbrydoliaeth mawr wrth sgwennu. Awgrymais fod yn anodd crwydro rhannau o Wynedd heb gar. Cymerir dros awr i deithio o Gaernarfon i Aberdaron neu Abersoch, Pen Llŷn. Un arall o'r road-trips cofiadwy oedd teithio drwy Llanymawddwy at Fwlch y Groes. Dyma'r ffordd uchaf drwy fwlch yng Ngwynedd. Unwaith eto, roedd rhai llai agos at ddiwylliant Cymreig wedi cynnig yr enw Hellfire Pass. Roedd gwrthdaro diwylliannol yn amlwg wrth sgwennu.
10.Rhan bwysig o'r broses seicoddaearyddol a gan ddilyn ysbrydoliaeth o ddarllen On the Road a Wild Wales - ceisiais gychwyn sgwrs hefo pawb y deuthum ar eu traws wrth deithio. Sgyrsiau Cymraeg oedd y mwyafrif. Roedd hynny yn braf...