'Chwerthin' a 'hwyl' wrth ymosod ar feddyg mewn parc
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor wedi clywed bod tri pherson wedi "chwerthin" ac ymddwyn fel eu bod "yn cael hwyl" wrth ymosod ar seiciatrydd ym Mharc Bute, Caerdydd.
Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful recordiad o gyfweliad heddlu gyda dyn oedd yn y parc ar y noson y cafodd Dr Gary Jenkins ei guro a'i "adael i farw" fis Gorffennaf y llynedd.
Dywedodd Louis Williams wrth y llu ei fod wedi ceisio amddiffyn Dr Jenkins trwy "gwrcwd" a "chreu rhwystr" ond bod dau ddyn a merch ifanc wedi troi arno yntau.
Mae Lee Strickland, 36, Jason Edwards, 25, a merch 17 oed, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o ddynladdiad a lladrata ond yn gwadu llofruddio.
Dywedodd Mr Williams wrth dditectifs ei fod wedi bod yn y parc am rai oriau pan ddaeth cythrwfl i'w sylw.
"Wnes i glywed gweiddi a rhegi," dywedodd. "Roedd yn swnio'n ymosodol... fel ymladd neu ffrae."
Fe welodd dyn ar y llawr a thri pherson o'i amgylch, yn tynnu ei fag ac yn ei gicio a'i ddyrnu.
Dywedodd bod y tri'n "annog ei gilydd, yn chwerthin ac yn ymosodol", gan weiddi "ry'n ni'n dwgyd oddi arno".
Ychwanegodd: "Roedd fel petae eu bod yn cael hwyl, yn meddwl bod e'n ddoniol - roedd e jest yn fwynhad iddyn nhw."
Yn y cyfweliad a barodd am dros awr, dywedodd Mr Williams ei fod wedi gweiddi "Stopiwch" sawl tro a cheisio tynnu'r ymosodwyr oddi ar y dyn ar y llawr, a chwrcwd i geisio'i warchod.
"Fe wnaethon nhw fy nghicio," meddai. "Tybed pam wnaethon nhw ddim fy mrifo innau mwy a pam roedden nhw'n ei frifo yntau gymaint."
Disgrifiodd Mr Williams, wrth i'r digwyddiad fynd rhagddo, bod y dyn ar y llawr yn symud a cheisio gwrthsefyll llai a llai, a fod heb yngan yr un gair wrtho yn uniongyrchol.
Yn y pen draw fe redodd Mr Williams i chwilio am gymorth ac erbyn iddo ddychwelyd roedd yr heddlu wedi cyrraedd ac fe welodd parafeddygon yn trin y dioddefwr.
Dywedodd ei fod yn "difaru" peidio aros a gwneud mwy i amddiffyn Dr Jenkins "ond doeddwn i ddim yn llwfr, fe wnes i drial ei helpu".
Fe roddodd PC Phil Coleman dystiolaeth hefyd - yr heddwas a arestiodd Lee Strickland yn oriau man 20 Gorffennaf.
Dywedodd bod y dyn 36 oed "wedi meddwi a braidd yn gallu siarad" a phan ofynnodd PC Coleman iddo beth oedd wedi ei gymryd, dywedodd "spice ac alcohol".
Ychwanegodd PC Coleman ei fod wedi sylwi ar waed ar goes Lee Strickland. Atebodd y dyn gan ddweud: "Fy ngwaed i yw hwnna, fe wnes i dorri fy mys, dwi'n adeiladwr."
Ond, aeth yr heddwas ymlaen i egluro bod Lee Strickland wedi dweud ei fod yn ddigartref a'i fod yn y parc gan fod angen y tŷ bach arno.
Gofynnodd PC Coleman i Lee Strickland beth oedd wedi ei wneud y diwrnod hwnnw, ac atebodd: "Yr hyn dwi'n arfer ei wneud - begian a byw ar y strydoedd."
Pan gafodd Lee Strickland ei archwilio gan yr heddlu, fe ddaethont o hyd i gerdyn banc arno. Er nad oedden nhw'n ymwybodol ar y pryd, Dr Jenkins oedd yn berchen ar y cerdyn.
Cafodd Lee Strickland ei ddad-arestio rai oriau'n ddiweddarach a'i ryddhau o'r ddalfa.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2022