Cyhuddo parc cenedlaethol o 'fandaliaeth amgylcheddol'
- Cyhoeddwyd
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gwadu cyhuddiadau o "fandaliaeth amgylcheddol" yn dilyn gwaith atgyweirio ar un o'u llwybrau cerdded.
Yn ôl rhai o drigolion ardal Capel Curig, mae cerrig man sydd wedi'u gosod dros ran o'r llwybr dros y bwlch i gyfeiriad Crafnant wedi newid natur y lle yn llwyr.
Maen nhw hefyd yn dweud na wnaeth y Parc roi digon o rybudd cyn dechrau ar y gwaith, nac ymgynghori'n ddigonol gyda phobl leol.
Ond dywedodd Awdurdod y Parc fod y gwaith cynnal a chadw yn "hanfodol" er mwyn "uwchraddio nifer o lwybrau aml-ddefnydd ar gyfer buddiannau iechyd a lles pawb sydd eisiau mwynhau cefn gwlad".
'Ddim gwaith cywiro yw hyn'
Mae Shan Ashton yn gynghorydd cymuned yng Nghapel Curig, ac yn cerdded y llwybr yn gyson.
"Dan ni'n derbyn bod rhaid cywiro llwybrau o dro i dro mewn mannau, ond dim cywiro llwybr mewn ambell i fan ydi hwn," meddai.
"Maen nhw 'di crafu'r tir allan yn gyfan gwbl, wedi newid y ffordd mae'r tir yn draenio, mae dŵr wedi cychwyn pyllu'n barod.
"Roedd hwn yn le reit dawel ei ffordd, ond mae hwnna'n mynd i newid rŵan. Yn barod fel cerddwr dwi'n gorfod osgoi beiciau a phobl yn speedio lawr y llefydd 'ma. Mae hwn jyst wedi newid hynna'n gyfan gwbl."
Fe wnaeth un arall o drigolion yr ardal, Nick Livesey, ddisgrifio'r gwaith fel "fandaliaeth amgylcheddol".
"Os 'dych chi'n mynd â digger i mewn i'r dyffryn yna a cherfio craith lydan i mewn iddi… dwi'n teimlo'n drist iawn am y peth," meddai.
"Mae'n swnio'n hurt i mi bod chi eisiau dinistrio'r peth sy'n ei wneud yn ddeniadol, jyst er mwyn ei gwneud hi'n fwy hygyrch i bobl sydd erioed wedi clywed am y lle."
'Erydu difrifol'
Yn ôl Adam Daniel, Pennaeth Gwasanaeth Wardeinio y Parc, roedd y llwybr gwreiddiol wedi erydu'n ddifrifol a cherddwyr wedi ei lledaenu'n sylweddol mewn mannau i osgoi'r dŵr oedd yn cronni.
Oherwydd hynny, meddai, byddai peidio gwneud y gwaith atgyweirio yn "anghyfrifol".
"'Dan ni'n taclo'r problemau yna i wneud yn siŵr fod y llwybr yna i ddefnyddwyr yn y dyfodol, achos ar y funud mae 'na ddifrod yn cael ei wneud i'r cynefin nail ochr o'r llwybr," meddai.
Esboniodd y byddai'r llwybr yn edrych yn llawer mwy naturiol unwaith y bydd y gwaith wedi ei orffen.
"Yn amlwg wrth weithio 'nôl byddwn ni'n gwneud gwaith tirlunio, ailhadu, a bydd y llwybr yn gweddu yn ôl i gulach na beth oedd o cynt.
"Ar ddiwedd y dydd mae nifer cynyddol o ddefnyddwyr yn defnyddio'r llwybr. Dan ni'n wynebu heriau efo newid hinsawdd, felly mae angen y buddsoddiad ar y sylfaen a'r gwaith dwr."
Dywedodd APCE eu bod wedi ymgynghori a Chyngor Cymuned Capel Curig ac Adran Briffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy cyn dechrau ar y gwaith.
Ond mae Mr Daniel yn cydnabod nad oedd pawb yn ymwybodol o hynny cyn i'r gwaith ddechrau, ac y bydd y Parc yn ceisio ymgynghori'n ehangach ar waith tebyg yn y dyfodol.
"Allai ddallt pryderon o weld y gwaith yn cael ei wneud - hynny yw, [gweld y] peiriannau a cherrig glan," meddai.
"Ar y funud 'dan ni'n gweithio ar weithdrefnau mewnol er mwyn gwella ymgysylltu efo prosiectau fel 'na yn y dyfodol.
"Gobeithio wedyn bod ni'n lleddfu unrhyw bryderon adeg yna, a bod nhw'n dallt yn union y rationale dros wneud y gwaith."
'Mwy cadarn dan droed'
I rai cerddwyr fodd bynnag, roedd y gwaith ar y llwybr yn rhywbeth roedden nhw'n ei groesawu.
"Dwi wrth fy modd yn cerdded yn y mynyddoedd, ac mae'r llwybr yma wedi cael ei wneud yn dda iawn," meddai Pauline Ward.
"Mae'n hawdd i gerdded ar hyd, does 'na ddim bawn a dim byd, dim dwr arno fo - mae'n gwneud dod allan am dro efo ffrindiau mor hawdd."
Ychwanegodd un arall o'r cerddwyr, Gillian Beeson ei bod hi'n "gwerthfawrogi" llwybr fwy cadarn dan droed.
"Mae'n golygu bod pobl fel ni sydd ddim yn eifr mynydd yn gallu dod i fwynhau'r cefn gwlad - ac o leia' mae'n gwarchod y tir o gwmpas y llwybr."
Ond i Shan Ashton, byddai gosod llwybr cerrig yn gweddu'r ardal yn well - hyd yn oed os nad yw at ddant pawb.
"Os 'dach chi'n mynd lan i'r mynyddoedd, chi'n mynd lan i'r mynyddoedd, nid llwybr canol tref yw e - does dim rhaid iddo fe fod yn arwyneb perffaith arno fo," meddai.
"Mae'n mynd i fod yn wlyb, yn fwdlyd, yn garegog. Nid parc 'di hwn yn yr ystyr trefol, ond gwylltni go iawn.
"Rhaid derbyn, o ran y llwybrau sy'n bodoli yma'n barod, bod rhaid rhaid cynnal a chadw nhw, ond mae modd o wneud hwnnw heb chwalu natur cwm cyfan."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2022