Pryder bod llai o ddyfrgwn yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae gostyngiad annisgwyl niferoedd y dyfrgwn yng Nghymru yn rhoi "rhybudd clir" am sefyllfa afonydd y DU, medd arbenigwyr cadwriaethol.
Fe ddangosodd arolwg bod llai o arwyddion o bresenoldeb y mamal adnabyddus ar bron i bob afon o'i gymharu â degawd ynghynt.
Mewn ymateb, mae arolwg tebyg wedi'i gomisiynu yn Lloegr.
Ar ôl diflannu'n llwyr o rannau o'r DU yn yr 1950au a'r 60au, roedd y rhywogaeth wedi dychwelyd a hynny'n cael ei ystyried fel stori brin o lwyddiant ym myd natur.
Bryd hynny, llygredd o blaleiddiaid penodol gafodd y bai. Ond wedi iddyn nhw gael eu gwahardd, dyma'r dyfrgi'n dechrau gwasgaru eto ar draws y wlad.
Cwymp o 22%
Dechreuodd arolygon cenedlaethol o dros 1,000 o safleoedd yn yr 1970au, ac ar hyd y degawdau diwethaf maen nhw wedi cofnodi adferiad - rhywbeth sy'n gwbl ryfeddol, medd cadwriaethwyr.
Ond nawr mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn awgrymu bod rhywbeth wedi newid. Fe ddangosodd yr arolwg diweddara' y gostyngiad cyntaf ym mhoblogaethau dyfrgwn ers y 70au.
Cafodd arwyddion o ddyfrgwn - fel baw, olion pawen a chuddfannau - eu cofnodi ar ychydig dros 70% o'r safleoedd drwy Gymru.
Roedd hyn yn gwymp o 22% o'i gymharu â'r arolwg diwethaf yn 2010.
Ymysg yr ardaloedd sy'n ymddangos wedi'u heffeithio waethaf mae'r rhai ger afonydd Conwy, Llwchwr a Theifi - roedd dirywiadau llai yn amlwg ger pob afon.
Dim ond mewn ambell fan - fel ar hyd yr Afon Hafren - y gwelwyd poblogaethau sefydlog.
Dywedodd Dr Eleanor Kean, ecolegydd annibynnol fu'n arwain yr arolwg bod 'na "deimlad o ymfodloni" wedi datblygu ymysg cadwriaethwyr ynglŷn ag adferiad y dyfrgi.
Dyma pam fod parhau i fonitro - a'r gwaith arolygu sy'n cynnwys grŵp mawr o wirfoddolwyr - mor allweddol, meddai.
"Dy'n ni ddim yn ôl i'r sefyllfa welon ni yn y 70au, ond mae hyn yn rhybudd i ni fod rhywbeth efallai o'i le," ychwanegodd Liz Halliwell, arweinydd tîm ecosystemau'r tir a rhywogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru.
Fel "prif ysglyfaethwr ein dyfroedd croyw, gall y dyfrgi fod yn ddangosydd biolegol pwysig o iechyd ein hafonydd a'n gwlyptiroedd," eglurodd.
'Bron â cholli'r dyfrgi'
Dywedodd Graham Scholley, arbenigwr cadwraeth gydag Asiantaeth Amgylchedd Lloegr fod yr ymchwil yng Nghymru wedi anfon "neges glir" am yr angen am asesiadau cyfredol ar draws gwledydd eraill y DU.
"Fe wnaethon ni bron â cholli'r mamal eiconig yma o rannau helaeth o'r DU yn y gorffennol," ychwanegodd Mr Scholey, sef cadeirydd grŵp llywio cynllun gweithredu bioamrywiaeth dyfrgwn y DU.
"Os ydy'r dirywiad yma yn un eang, yna fe allai fod yn arwydd o fygythiad llawer mwy llechwraidd o iechyd ecosystemau ein hafonydd."
Mewn ymateb, mae Asiantaeth yr Amgylchedd a chorff Natural England, ar y cyd â'r Gymdeithas Famaliaid - wedi cytuno i ariannu arolwg o ddyfrgwn yn Lloegr.
Dywedodd Mr Scholey wrth BBC Cymru ei fod yn siarad â chydweithwyr yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd drwy'r grŵp llywio "yn y gobaith y gallan nhw ddod o hyd i'r adnoddau ar gyfer arolygon yno".
Pam fod y dirywiad wedi digwydd?
Dweud nad ydyn nhw'n gwybod yn iawn eto mae ymchwilwyr, ond mae ganddyn nhw syniadau.
Un o'r pethau cyntaf y gwnaethon nhw oedd ailasesu'r data i wneud yn siŵr nad oedd yna ffactorau eraill fel amodau tywydd wedi effeithio ar y canlyniadau.
Fe wnaethon nhw, hyd yn oed, gomisiynu arolygon pellach o ambell safle - gan ddod i'r casgliad bod y data gwreiddiol yn gywir.
Bellach mae grŵp o arbenigwyr wedi'i sefydlu gan Gyfoeth Naturiol Cymru i ymchwilio i'r rhesymau pam fod poblogaethau'r dyfrgi yn lleihau.
Fe fyddan nhw'n ystyried newidiadau o ran cynefin, argaeledd bwyd a llygredd.
Awgrymodd Mr Scholey bod angen mwy o wybodaeth am effaith grŵp o gemegion o'r enw PFAS - sy'n cael eu defnyddio mewn deunyddiau gorchuddio bwyd, offer cegin a dillad.
Er nad oes yna dystiolaeth ar hyn o bryd i ddweud eu bod yn effeithio ar ddyfrgwn, fe ddywedodd bod arbenigwyr yn poeni bod cymaint o'r cemegion hyn wedi bod yn cronni mewn afonydd a llynnoedd.
"Ry'n ni'n casglu mwy o ddata ynglŷn â hynny ar y funud, gan gynnwys asesu cyrff marw dyfrgwn, pysgod a chimychiaid afon," meddai.
Ychwanegodd Dr Kean bod dyfrgwn yn hoff o fwyta llysywod, eog a sewin - rhywogaethau o bysgod sy'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd yn afonydd Cymru.
"Maen nhw'n gallu newid eu deiet i fwyta rhywogaethau eraill ond dy'n ni ddim yn gwybod eto pa effaith mae hynny'n ei gael ar eu hiechyd a'u niferoedd."
Dywedodd Ms Halliwell y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa.
Mae'r sefydliad, ac Asiantaeth yr Amgylchedd, wedi bod o dan bwysau yn ddiweddar ynglŷn â'r ffordd y maen nhw'n ymchwilio i achosion o lygredd afon.
Er mwyn gwarchod un o "rywogaethau mwyaf enigmatig Cymru rhaid i ni sicrhau nad yw'r gostyngiadau yma yn dueddiad sy'n parhau," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd8 Awst 2021
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2015