Torri gwaith celf Banksy yn ddarnau i'w symud?
- Cyhoeddwyd
Gallai gwaith celf Banksy, a baentiwyd yn wreiddiol ar ochr garej yng Nghymru, gael ei dorri'n ddarnau i'w symud.
Cafodd y gwaith ei brynu gan John Brandler yn fuan ar ôl iddo ymddangos ym Mhort Talbot yn 2018 a'i symud i adeilad yn y dref.
Daeth cytundeb i'w gadw yno i ben fis diwethaf ac mae Mr Brandler yn bwriadu symud y gwaith celf i Ipswich yr wythnos nesaf - ond dywed y gallai fod yn rhy ddrud i'w symud mewn un darn.
Dywedodd yr actor Michael Sheen, a dalodd am ddiogelwch am y paentiad ar ôl iddo ymddangos gyntaf, ei fod yn dilyn "hen stori" o eitemau gyda "gwerth gwirioneddol" yn cael eu symud dros y ffin.
Mae'r murlun, a ymddangosodd ar garej y cyn weithiwr dur Ian Lewis, yn darlunio plentyn yn mwynhau eira ar un ochr, tra bod y llall yn datgelu tân yn allyrru lludw.
Dywedodd Mr Brandler mai ei gynnig i brynu'r paentiad gan Mr Lewis oedd yr isaf o bump - ond roedd wedi bwriadu "100%" ei gadw yn y dref yn y gobaith o greu amgueddfa celf stryd ryngwladol.
Mae'n gynllun y mae'n dweud na chafodd unrhyw gefnogaeth ar ei gyfer.
Yna talodd Llywodraeth Cymru i'w symud i siop wag yn Nhŷ'r Orsaf fel bod modd i'r cyhoedd ei weld.
Dywedodd Mr Brandler ei fod bellach wedi cael gwybod bod yn rhaid iddo dalu degau o filoedd o bunnoedd mewn costau adeiladu i dynnu'r ffenestr flaen o'r safle hwnnw fel y gall y gwaith celf symud i rywle arall.
Ond dywedodd Mr Brandler fod "siawns 50/50" y gallai ei dorri'n frics a'i gymryd "allan drwy'r drws yn ddarnau".
"Mae'n golygu nad oes rhaid i mi drafferthu symud yr holl waith dur, mae'n golygu nad oes rhaid i mi dalu degau o filoedd o bunnoedd i dynnu'r ffenest. Yna byddem yn ei roi yn ôl at ei gilydd eto ac yn ei adfer.
"Fel y mae pethau, mae'n dod allan ar 8 Chwefror, yn cael ei roi ar gefn lori, ac mae'n mynd i Ipswich neu un lle arall," meddai.
"Rydyn ni'n gwybod y gall adferwyr wneud rhyfeddodau gyda phaentiadau. Mae hwn ar flociau concrit, nid yw ar borslen na chynfas o'r 18fed ganrif.
"Ni fydd yn anodd eu rhoi yn ôl at ei gilydd eto a phaentio'r craciau. Ac mae'n golygu y gallaf eu rhoi yng nghefn cerbyd a gyrru i ffwrdd ag ef."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot eu bod wedi cael dyfynbris o tua £100,000 y flwyddyn i barhau i fenthyg y gwaith celf, rhywbeth mae Mr Brandler yn ei wadu.
Dywedodd yr actor Michael Sheen, sy'n hanu o Bort Talbot, ei fod yn gobeithio y gallai'r gwaith barhau i gael ei ddefnyddio i ddod â phobl y dref at ei gilydd, er ei fod yn gadael.
"Roedd pawb yn hynod gyffrous am y ffaith fod Banksy wedi dewis gwneud darn yn y dref.
"Mae barddoniaeth a chaneuon a gweithiau celf eraill wedi bod yn cael eu gwneud ac mae hynny wedi bod yn wych."
Ond dywedodd yr actor hefyd fod cyfleoedd wedi'u colli a bod y ffordd y cafodd y gwaith celf ei arddangos dros y blynyddoedd diwethaf "ychydig yn ddi-fflach".
Mae ei leoliad yng nghanol y dref wedi golygu bod pobl wedi gorfod edrych arno drwy ffenestr.
"Mae'n debyg, mewn rhai ffyrdd, ei fod yn dilyn patrwm lle mae rhywbeth o botensial mawr yn y dref - ac mae 'na lawer o syniadau gwych - ond dyw'r uchelgais a'r weledigaeth ddim wir yn cael eu gwireddu," meddai.
Dywedodd Mr Bandler fod y murlun ond yn debygol o ailymddangos yng Nghymru "ychydig ar ôl i uffern rewi drosodd," ond ei fod yn gobeithio y gallai gael ei ddefnyddio mewn lleoliadau newydd i ledaenu'r neges am lygredd a newid hinsawdd.
Dywedodd cyn-arweinydd cyngor CNPT, y Cynghorydd Rob Jones, ei fod yn gobeithio y byddai Banksy yn ystyried dewis lleoliad y mae'r cyngor yn berchen arno pe bai byth yn ymweld â'r dref eto.
"Rwy'n meddwl ei bod yn anodd iawn, pan fo eitem mewn perchnogaeth breifat, i ddod i gytundeb sy'n bodloni'r perchennog preifat a'r pwrs cyhoeddus fel ei gilydd," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2018