Oriel: Yr arlunydd Mike Jones
- Cyhoeddwyd

Yr arlunydd Mike Jones yn ei stiwdio
"Byddai Mike yn cyfaddef mai cofnodi'r gymdeithas glos a chymwynasgar ydoedd."
Mae'r artist Mike Jones o Bontardawe, sydd yn adnabyddus am ei bortread o gymuned ôl-ddiwydiannol ardal Cwm Tawe, wedi marw yn 80 oed.
Drwy ei waith mae modd gweld portreadau o fywyd caled a chymdeithasol glowyr, ffermwyr, gweithwyr tun a dur, a gwragedd tŷ ardal ei fagwraeth yng Nghilmaengwyn a Godre'r Graig ger Ystalyfera.
Un oedd yn ffrind agos i Mike Jones ac sydd â chasgliad eang o'i waith ydy Gareth Richards, hefyd o Gwm Tawe. Fe gyhoeddodd lyfryn diwethaf yr arlunydd, Wrth eu Gwaith: Portread o Gwm Tawe Mewn Gair a Llun, ar adeg ei benblwydd yn 80 oed ym mis Hydref 2021.
Dyma flas ar waith a meddylfryd Mike Jones trwy ei ddarluniau hynod a geiriau ei gyfaill.


Cefn Celfi
Darlun cynnar o ffermdy hynafol Cefn Celfi ar y Rhos, ger Pontardawe. Roedd adeiladau amaethyddol a'u hamgylchedd o ddiddordeb i Mike. Mae cyfeiriad at Gefn Celfi yn Llyfr Du Caerfyrddin (un o'r llawysgrifau Cymraeg hynaf sydd wedi goroesi, ysgrifennwyd yn y 13eg ganrif).

Strydoedd Ystalyfera
Roedd strydoedd Ystalyfera a Tyle Mount, ger Pant-teg yn enwedig, yn ffefrynnau gan Mike Jones. Dyma ardal ei fagwraeth. Nid strydoedd hir, unffurf oeddent ond rhai serth, onglog. Byddai amser i gael sgwrs gan bawb.

Ymolchi
Er mai colier oedd 'Shon y Byrd', tad Mike, fe gadwai ef a'i fam Edna dafarn y Bird in Hand yng Ngodrergraig. Wedi dychwelyd o'i shifft yng ngwaith Tarenni Gleision byddai yn ymolchi mewn twba o flaen y tân.

Y Gweithiwr Dur
Diwydiannau trwm a brwnt amlwg yng Nghwm Tawe oedd dur a thunplat. Dynion caled eu cyrff oeddent, yn treulio'u dyddiau, a'u nosau ambell waith, yng ngwres y ffwrneisi. Dilledyn amlwg i'r gweithiwr dur oedd y sgarff wen am ei war, i atal y chwys.

Ffermwr
Mae i'r ffermwr osgo ac edrychiad gwahanol. Mae caledi ac unigedd y gwaith yn ei greu'n berson cyfeillgar a hwyliog.

Ffair yr Alltwen
Digwyddiad amlwg ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf oedd 'Ffair yr Alltwen'. Cyfle i werthu pob math o greaduriaid a nwyddau, a digwyddiad cymdeithasol o bwys gydag yfed afreolus.

Sosialydd
Mae'r hen golier yn hiraethu am y dyddiau a fu ac am y cyfle a gollwyd am fyd gwell. Roedd sosialaeth yn gryf ymysg y gweithwyr bryd hynny a'r ddelfryd bod hawl i'r cyfoeth a grëwyd ganddynt.
''Weli di'r glo a'r llechi,
Weli di'r coed a'r dur?
Beth gefaist o gynnyrch y cyfoeth hyn?
Ond chwys, a thylodi, a chur." (Niclas y Glais)

Yn y Mart
Mae nifer o ddarnau Mike o'r cefn. Maent yn awgrymog iawn wrth fod mor syml. Gall y ddau yma fod yn arsylwi ar anifail neu sgwrsio ar adeg o hamdden.

Gwr a Gwraig
Mae gwragedd yn cael lle amlwg yng ngweithiau'r arlunydd. Dylanwad ei fam Edna ac Eryl, ei wraig, sydd yma mae'n siŵr; yno yn gwmni ar bob adeg. Serch hynny mae ei wrthrychau, fel arfer, yn eu henaint. Byddai Mike yn cyfaddef mai cofnodi'r gymdeithas glos a chymwynasgar ydoedd.

Wrth y Ford
Dwy wraig yn cael clonc, wedi siopa fore Gwener. Roedd Mike yn hoff o sylwi ar y werin yn mwynhau eu cyfarfyddiadau. Treuliau oriau yn arsylwi arnynt. Sgetsys syml ac yna'r creu yn y stiwdio. Cymry gwerinol, Cymraeg eu hiaith oedd ei wrthrychau, yn y bôn.

Gwerthwraig Cocos
Dull 'mynegiannol' o bortreadu oedd gan Mike. Mae gan ei wrthrychau nodweddion cryf - ysgwyddau sgwâr, wyneb garw, breichiau cadarn a dwylo fel rhofiau ac mae'r agweddau yma'n pwysleisio cryfder corff a chymeriad.
Gwragedd stansh yw gwragedd yr arlunydd, slafo'n y scullery, sgrwbio stepen drws, cario glo neu osod dillad ar lein, fore Llun.
Cofnodi'r gorffennol caled cyn machlud y diwydiannau trwm a roes fywyd i Gwm Tawe.

Mike Jones yn y stiwdio yng nghroglofft ei gartref ym Mhontardawe, 2020
Hefyd o ddiddordeb: