Cynllun newydd yn lle Erasmus i fyfyrwyr
- Cyhoeddwyd
"Nes i dyfu mewn hyder, nes i gwrdd â lot o bobl wahanol o ddiwylliannau gwahanol felly 'swn i'n dadlau bod y manteision personol yn bwysicach mewn ffordd na'r manteision academaidd."
I Elin Griffiths, 22, roedd astudio yn Ffrainc a Sbaen o dan gynllun Erasmus yr Undeb Ewropeaidd yn "heriol" ond yn brofiad amhrisiadwy fel rhan o'i gradd ieithoedd modern ym Mhrifysgol Caerdydd.
Fe adawodd y Deyrnas Unedig y cynllun hwnnw oedd yn galluogi i bobl astudio dramor wedi Brexit.
Mae rhaglen newydd gwerth £65m gan Lywodraeth Cymru o'r enw 'Taith' sy'n cael ei lansio ddydd Mercher yn ceisio darparu cyfleoedd tebyg.
Fe symudodd Elin i Baris yn Hydref 2020 i weithio mewn ysgol, wythnos cyn yr ail gyfnod clo cenedlaethol yn Ffrainc.
Bu'r cyfyngiadau hynny yn eu lle am chwe mis gan olygu bod bariau a thai bwyta ar gau.
"Roedd o'n gyfnod heriol symud dramor yn ystod pandemig, ond fe ges i gymaint o gyfleoedd efallai na fyswn i wedi cael os bysa bywyd wedi bod yn normal," meddai Elin, sydd o Lanfairpwllgwyngyll ym Môn.
Yn Sbaen, fe weithiodd hi i Glwb Pêl-droed Sevilla am dri mis, oedd yn gyfnod "anhygoel".
Mae prifysgolion, colegau ac ysgolion Cymru yn barod yn gallu cymryd rhan yn rhaglen Turing Llywodraeth y Deyrnas Unedig gafodd ei lansio yn 2021.
Ond yr honiad ydy y bydd 'Taith' yn helpu i adeiladu proffil rhyngwladol Cymru.
Dros bedair blynedd, y nod yw galluogi 15,000 o fyfyrwyr a staff fynd o Gymru dramor ac i 10,000 allu dod yma i weithio neu astudio.
Fe all yr ymweliadau amrywio o rai diwrnodau i hyd at flwyddyn.
Cyfle all 'newid bywydau'
Y cyn-weinidog Addysg Kirsty Williams yw cadeirydd Bwrdd Cynghori 'Taith' ac mae hi'n dweud bod y cynllun yn "eang a chynhwysol".
Dywedodd: "Bydd y trefniant yn gweithio ddwy ffordd, sydd ddim yn bosib o dan Turing. Mae hynny'n galluogi pobl o wahanol wledydd ddod i Gymru."
Yn y gorffennol, meddai, roedd yna "gostau cudd" a olygai nad oedd rhai pobl yn cael eu denu i gymryd rhan.
"Ein rôl ni yw sicrhau bod y rhwystrau hynny'n cael eu diddymu," ychwanegodd.
Bydd y ceisiadau ar gyfer y cynllun newydd yn agor ym mis Mawrth gyda'r cyfnewidiadau i ddechrau ym mis Medi 2022.
Bydd cyfleoedd hefyd drwy Turing ac mae cyllideb Erasmus+ wedi ei ymestyn tan 2023 oherwydd y pandemig.
Roedd rhan fwyaf o'r teithiau tramor heb ddigwydd o fis Mawrth 2020, ond fe aeth y rhai "allweddol" yn eu blaenau.
Mae Charlie Brown, 19, sy'n astudio Almaeneg ag Eidaleg ym Mhrifysgol Caerdydd, yn edrych ymlaen at dreulio ei blwyddyn dramor mewn prifysgolion yn Cologne a Florence.
Ond dywedodd bod 'na "lot o ansicrwydd" wedi bod ar ôl Brexit.
"Gobeithio y bydd y cynllun newydd yn rhoi ychydig o sicrwydd i ni ynghylch ein blwyddyn dramor a'i wneud yn llai o stress oherwydd ar hyn o bryd mae'n rhoi lot o straen arnom ni fyfyrwyr," meddai.
Yn ddarlithydd Eidaleg, mae Dr Angelo Silversti hefyd yn gydlynydd blwyddyn dramor i Brifysgol Caerdydd.
Mae'n croesawu'r cynllun newydd, ac o'r farn y gall myfyrwyr a staff fanteisio o 'Taith' a Turing.
"Mae'n gyfle da i Gymru ehangu ei phroffil rhyngwladol hyd yn oed yn ehangach," meddai.
Ond fe ychwanegodd bod mynd dramor yn fwy cymhleth ers gadael yr Undeb Ewropeaidd oherwydd bod rhai visas yn fwy costus ac yn gallu bod yn anodd eu trefnu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd17 Medi 2018
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2018