Ffrae Aberpergwm: 'Rhaid ailstrwythuro'r Awdurdod Glo'

  • Cyhoeddwyd
Aberpergwm
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna anghytuno dros gynlluniau i ehangu pwll glo Aberpergwm yng Nglyn-nedd

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am ailstrwythuro Awdurdod Glo Prydain yn dilyn anghydfod yn ymwneud â chynlluniau i ehangu pwll glo yn ne Cymru.

Yn ôl gweinidogion ym Mae Caerdydd mae cyfrifoldebau'r sefydliad yn gwrthdaro ag ymrwymiadau newid hinsawdd y Deyrnas Unedig.

Yr wythnos diwethaf dywedodd yr awdurdod y byddai'n caniatáu cynlluniau i gloddio 40m tunnell ychwanegol o lo yn Aberpergwm, yng Nglyn-nedd.

Mae Llywodraeth y DU yn mynnu bod cwmnïau'n gorfod cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru er mwyn cloddio am lo yng Nghymru.

Yn y cyfamser mae ymgyrchwyr wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw'n ystyried camau cyfreithiol er mwyn atal ehangu'r pwll.

Mae'r perchnogion yn mynnu na fydd y rhan fwyaf o'r glo sy'n cael ei gloddio yn cael ei losgi, ond yn cael ei ddefnyddio'n hytrach ar gyfer prosesau fel hidlo dŵr a chynhyrchu batris ar gyfer cerbydau trydan.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod Glo yr wythnos hon eu bod wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am "unrhyw gyfarwyddyd y bydden nhw'n dymuno ei roi", gan awgrymu y gallai gweinidogion ym Mae Caerdydd fod wedi atal y cynlluniau rhag cael eu cymeradwyo.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu nad oedd ganddi'r pwerau i ymyrryd, gan fod y cais wedi'i dderbyn cyn i rymoedd dros drwyddedu pyllau glo gael eu datganoli.

Mae'n honni y byddai "gweithredu y tu hwnt i'n grymoedd wedi arwain at adolygiad barnwrol".

Bellach mae'r dirprwy weinidog newid hinsawdd, Lee Waters wedi cyhuddo'r Awdurdod Glo - sy'n cael ei oruchwylio gan Lywodraeth Prydain - o geisio "drysu'r" sefyllfa yn fwriadol.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai Llywodraeth Cymru wedi dymuno gosod amodau ar y cynlluniau, yn ôl Lee Waters

"Dwi'n credu eu bod nhw'n ceisio tynnu sylw o'r ffaith eu bod nhw wedi'u sefydlu mewn ffordd sy'n eu gorfodi i sicrhau bod y diwydiant glo yn parhau'n hyfyw," meddai.

Roedd angen newid yn y gyfraith i ddileu dyletswydd y corff tuag at gynnal diwydiant glo yn y DU, yn sgil ymrwymiadau a wnaed yng nghynhadledd newid hinsawdd COP26.

Fe awgrymodd bod gweinidogion yng Nghaerdydd a San Steffan yn trafod y peth, ond honnodd fod Llywodraeth y DU yn "actio i'r gwrthwyneb".

Pan ofynnwyd iddo a fyddai wedi atal y cais i ehangu'r lofa petai'n gallu, dywedodd bod y perchnogion wedi cyflwyno dadl "resymol iawn" ynglŷn â'u bwriad am y safle.

Pwysleisiodd y byddai Llywodraeth Cymru wedi hoffi gosod amodau ar y drwydded i sicrhau bod y lofa'n symud i ffwrdd o gynhyrchu glo ar gyfer ei losgi fel tanwydd tuag at ei ddefnyddio fel mwyn fyddai o ddefnydd i dechnolegau gwyrdd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Glofa Aberpergwm yn darparu glo i Tata Steel ym Mhort Talbot

Aberpergwm yw'r unig safle yng ngorllewin Ewrop sy'n cloddio am lo carreg neu anthracite - sy'n cael ei ystyried yn lo o safon uchel iawn.

"O'i reoli'n gywir, mae glo carreg yn gallu bod yn rhan o ddyfodol carbon-isel," meddai Mr Waters.

Ond doedd trwydded yr Awdurdod Glo ddim wedi gosod unrhyw amodau ar y perchnogion o ran sut byddai'r glo yn cael ei ddefnyddio, meddai.

Ychwanegodd "nad oedd dim i stopio'r" pwll rhag cael ei brynu gan gwmni arall yn y dyfodol fyddai'n gweithredu mewn dull gwahanol.

Mi allen nhw werthu'r glo i'w losgi, a rhyddhau niferoedd uchel iawn o nwyon carbon, meddai.

'Bygwth datgarboneiddio angenrheidiol'

Yn ôl Daniel Therkelsen o'r grŵp Coal Action Network, does dim modd gwarantu o gwbl faint o lo fydd yn cael ei gloddio yn Aberpergwm fyddai'n parhau i gael ei anfon at weithfeydd dur Port Talbot - un o'r safleoedd sy'n cynhyrchu'r mwya' o allyriadau tŷ gwydr yn y Deyrnas Unedig.

"Mae cynhyrchu mwy o lo ar gyfer y diwydiant dur yn bygwth y datgarboneiddio ry'n ni angen er mwyn cwrdd ag ein ymrwymiadau newid hinsawdd," meddai.

Cyhuddodd lywodraethau Cymru a'r DU o "fethu â chymryd unrhyw gyfrifoldeb".

"Does neb wedi gwybod at bwy i gwyno, mae'n anodd dal unrhyw un i gyfri pan eu bod nhw'n dweud 'nid gyda ni y dylech chi fod yn siarad'."

Fe ddywedodd hefyd y byddai'n cymryd rhy hir i newid y gyfraith er mwyn diwygio cyfrifoldebau'r Awdurdod Glo, gan alw ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi moratoriwm ar fwy o gynhyrchu glo.

Mae'r grŵp ymgyrchu yn derbyn cyngor ar hyn o bryd, meddai, ynghylch y posibilrwydd o lansio her gyfreithiol. "Ry'n ni bendant ddim yn credu bod hyn ar ben," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gyda'r DU ar hyn o bryd yn arwain trafodaethau byd-eang ar newid hinsawdd, yn dilyn COP26, mae'r penderfyniad i ganiatáu rhagor o balu am lo ar y safle yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi'i ddisgrifio fel un "cywilyddus" gan y Blaid Werdd a "siomedig" gan y Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond dywedodd llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders, bod y penderfyniad yn un cywir o gofio "byddai'r opsiwn arall wedi gweld colli swyddi sy'n talu'n dda yn lleol a glo yn cael ei fewnforio o dramor fyddai ond wedi cynyddu ein hôl troed carbon".

Ychwanegodd: "Fel gwlad, mae'n rhaid i Gymru daclo newid hinsawdd ac mae'n allweddol ein bod yn chwarae'n rhan ond rhaid i hyn ddigwydd mewn modd sy'n drefnus yn economaidd ac yn synhwyrol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Yr Awdurdod Glo sy'n gyfrifol am drwyddedu glofeydd, gan gynnwys Aberpergwm, a does gan Weinidogion BEIS (Yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol) ddim rôl ffurfiol yn y broses drwyddedu.

"Barn Llywodraeth y DU yw bod Deddf Diwydiant Glo 1994 yn datgan, ble mae cwmni glo eisiau cloddio yng Nghymru, rhaid cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru fel rhan o'i gais am drwydded i wneud hynny.

"Mae ein Strategaeth Sero Net yn amlygu bod dim lle i lo fod yn rhan o gynhyrchu trydan yn y dyfodol a dyna pam rydym yn ei ddileu'n raddol erbyn 2024 - blwyddyn yn gynt na'r bwriad yn wreiddiol."