Cyngor Gwynedd: Gwariant ar wyliau Gŵyl Dewi yn 'annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r cynghorydd Sion Jones am i'r cyngor "edrych ar ffyrdd eraill" i ddathlu ar 1 Mawrth

Mae rhai o gynghorwyr Gwynedd yn cwestiynu penderfyniad i wario £200,000 ar ddiwrnod ychwanegol o wyliau i'w staff ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Fe fydd Pwyllgor Archwilio'r cyngor sir yn trafod penderfyniad y cabinet ddydd Iau.

Yn ôl Cyngor Gwynedd, fe wnaed y penderfyniad wedi i Lywodraeth y DU wrthod datganoli'r hawl i ddynodi Mawrth y cyntaf yn ŵyl banc.

Ond mae'r gost i drethdalwyr, a phenderfyniad Gwynedd i fynd ar ei liwt ei hun, yn pryderu rhai aelodau.

'Cost annerbyniol'

Gobaith y deilydd portffolio corfforaethol, y cynghorydd Nia Jeffreys, yw y bydd penderfyniad Cyngor Gwynedd yn sbarduno cyrff cyhoeddus eraill i gynnig gwyliau i'w staff ar 1 Mawrth, a rhoi mwy o bwysau ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r hawl i Senedd Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn "dro ar ôl tro" am y grymoedd angenrheidiol, meddai llefarydd.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd mwyafrif llethol staff Cyngor Gwynedd yn cael diwrnod ychwanegol o wyliau ar 1 Mawrth

Ond mae'r cynghorydd Llafur Sion Jones, ynghyd â'r cynghorwyr annibynnol Angela Russell a John Pughe Roberts, wedi anfon cais am graffu pellach ar benderfyniad y cabinet Plaid Cymru fis diwethaf.

Yn ôl y Cynghorydd Jones, mae gwariant o'r fath yn "annerbyniol yn ystod cyfnod o bwysau cynyddol ar deuluoedd".

"Yn fy marn i mi all yr arian yma gael ei ddefnyddio i bwrpas fyddai lawer mwy o fudd i bobl Gwynedd," dywedodd wrth Cymru Fyw.

"Dwi'n cydnabod y galwadau ar Dydd Gŵyl Dewi i fod yn Ŵyl y Banc i Gymru gyfan, ond drwy fynd ar liwt ei hun mae'r gost i'r cyngor unigol yma yn annerbyniol fel mae'n sefyll."

'Amseru ofnadwy'

Bydd yr un cyfarfod hefyd yn craffu ar gynlluniau'r cabinet i godi treth y cyngor o 2.95% ar gyfer 2022/23. Byddai'r cynnydd yn dod â £1.2m ychwanegol i goffrau'r cyngor ar gost o £43.76 ychwanegol i bob cartref Band D dros y flwyddyn.

Yn ôl y cyngor, byddai hyn yn llenwi'r bwlch ariannol, er bod disgwyl mwy o arian gan Lywodraeth Cymru eleni fel rhan o'r setliad.

Ond ychwanegodd y Cynghorydd Jones: "Tydi o ddim yn edrych yn dda i drethdalwyr pan fydd gofyn iddyn nhw dalu mwy o dreth cyngor o fis Ebrill, tra fod y cyngor yn gwario £200,000 ar ddiwrnod o wyliau fydd mwyafrif o bobl y sir ddim yn elwa ohoni.

"Fysa'n gallu helpu i gadw clybiau ieuenctid ar agor neu leihau ychydig ar y dreth cyngor.

"Mae'r amseru, tra mae pobl yn wynebu cynnydd mawr mewn costau byw, pan mae nhw ar eu gliniau'n barod, yn ofnadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd athrawon Gwynedd yn derbyn y diwrnod ychwanegol, heb drafodaethau cenedlaethol

Yn ôl Cyngor Gwynedd, yn dilyn cynnig unfrydol gan y cyngor llawn, bydd y gost o £200,000 yn bennaf oherwydd yr angen i gyflogi staff dros dro a llenwi bylchau tra bod y mwyafrif i ffwrdd o'r gwaith.

Roedd y cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r hawliau ar gyfer dynodi gŵyl y banc i'r Senedd - grymoedd sydd yn nwylo Llywodraeth Yr Alban yn barod.

Ond mae Llywodraeth y DU yn parhau i wrthod ar sail y gost ychwanegol, gan nodi yn eu hymateb yr "integreiddio agosach" rhwng Cymru a Lloegr.

'Agwedd negyddol'

Mae'r cynghorydd a wthiodd y cynnig gwreiddiol gerbron y cyngor llawn wedi disgrifio'r penderfyniad i'w alw fewn i graffu fel un "siomedig".

"Mewn blwyddyn lle mae gwyliau banc ychwanegol yn cael eu taflu atom blith draphlith i ddathlu Jiwbili Platinwm Brenhiniaeth Lloegr, mae'n fy rhyfeddu nad yw'r tri chynghorydd yn dangos yr un gwrthwynebiad i'r dathliadau rheiny," meddai'r cynghorydd Elwyn Edwards, sy'n cynrychioli Llandderfel.

"Mae'n amlwg y byddai cost i fater fel hyn. Mae'r tri chynghorydd yn dangos naïfrwydd llwyr o feddwl eu bod yn aelodau etholedig swyddogol. Buddsoddiad un tro fyddai hwn i'r cyngor, buddsoddiad mewn gweithlu sydd wedi wynebu heriau fel nifer o sectorau dros gyfnod y pandemig.

"Mae safbwynt negyddol y cynghorwyr yma yn hynod siomedig i'r staff, i drigolion ac i ninnau fel gwleidyddion sy'n credu'n greiddiol mewn dathlu Cymreictod, diwylliant a hanes Cymru.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Elwyn Edwards wedi amddiffyn cynlluniau'r cyngor er gwaetha' pryderon rhai aelodau

"Mae derbyn cefnogaeth gan sefydliadau ac unigolion yng Ngwynedd a ledled Cymru dros yr wythnosau diwethaf wedi dangos cryfder teimlad dros roi statws dyledus i'n nawddsant.

"Diolch i gynghorau sir, tref a chymuned am eu cefnogaeth a gobeithio'n wir y parheir y sgwrs gyhoeddus hon, er mwyn anfon neges glir i San Steffan bod Cymru yn awyddus i dorri ei chwys ei hun ar faterion o'r fath."

Trafod dydd Iau

Ni fydd athrawon Gwynedd yn cael diwrnod i ffwrdd ychwanegol eleni gan eu bod o dan drefniant cyflogi cenedlaethol, er y bydd tâl bonws i gynorthwy-wyr dosbarth a staff ataliol.

Ond tra fod y cyngor yn cydnabod y gost ychwanegol, mae bwriad i gynnal trafodaethau gydag undebau llafur.

Bydd y trafodaethau hynny yn edrych ar ddynodi gwyliau Gŵyl Dewi allan o gwota cyfredol staff mewn blynyddoedd i ddod ac yn debyg i'r drefn arferai fod yng Nghyngor Môn.

Mae'r cais galw i mewn, sydd wedi'i arwyddo gan dri chynghorydd, yn nodi: "Credir gall yr arian hyn gael ei ddefnyddio i bwrpas arall er budd pobl Gwynedd."

Os fydd aelodau'r pwyllgor craffu'n cytuno â'r pryderon, fe allai'r mater gael ei drosglwyddo'n ôl i'r cabinet.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Gallwn gadarnhau fod penderfyniad y Cabinet i ddynodi Dydd Gŵyl Dewi yn ddiwrnod o wyliau i staff y Cyngor wedi ei alw i fewn i'w graffu gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

"Bydd y mater gerbron y pwyllgor ddydd Iau, 10 Chwefror."