Cyngor Gwynedd i roi gŵyl y banc Dewi Sant i'w staff
- Cyhoeddwyd
Mae galwadau ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd a chynnig diwrnod o wyliau i staff ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Brynhawn Mawrth cymeradwyodd y cabinet gynllun gwerth £200,000 i ddarparu diwrnod ychwanegol o wyliau ar 1 Mawrth eleni, gyda thrafodaethau pellach dros ei sefydlu'n drefniant parhaol.
Daw'r penderfyniad yn dilyn ymateb negyddol Llywodraeth y DU i alwadau cynghorwyr dros ddynodi 1 Mawrth fel gŵyl y banc ar draws Cymru.
Yn ôl Cyngor Gwynedd bydd y gost o £200,000 yn bennaf oherwydd yr angen i gyflogi staff dros dro a llenwi bylchau tra fod y mwyafrif i ffwrdd o'r gwaith.
Er hyn, ni fydd athrawon y sir yn elwa gan eu bod o dan drefniant cyflogi cenedlaethol.
Ond tra'n cydnabod y gost ychwanegol am eleni, bydd trafodaethau gydag undebau yn edrych ar ddynodi'r gwyliau Gŵyl Dewi allan o gwota cyfredol staff mewn blynyddoedd i ddod, yn debyg i'r drefn arferai fod yng Nghyngor Môn.
Annog cyrff eraill
Yn cyflwyno'r eitem i'r cabinet awgrymodd deilydd y portffolio corfforaethol, Nia Jeffreys, y dylai Llywodraeth Cymru, busnesau a chyrff cyhoeddus eraill ddilyn esiampl y cyngor.
Wrth disgrifio ymateb Llywodraeth y DU fel un "gwarthus," derbyniodd hefyd fod dadl am oblygiadau cyllidol i'r cyngor.
Ond ychwanegodd: "Fyswn i'n licio apelio i gynghorau eraill, cyrff cyhoeddus, busnesau ac yn bennaf i Mark Drakeford yng Nghaerdydd... dim mwy o aros am ganiatâd, allwch chi wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc i ysgolion yng Nghymru, i weision sifil a'r gwasanaeth iechyd hyd yn oed."
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn "dro ar ôl tro" am y pwerau i ddynodi 1 Mawrth yn ŵyl y banc, meddai llefarydd.
Ond er i'r cabinet gefnogi'r cynnig o naw pleidlais, penderfynodd y Cynghorydd Gareth Thomas ymatal oherwydd pryderon fod y cyngor yn torri cwys ei hun yn hytrach na'i fod yn wyliau cenedlaethol.
Roedd cydnabyddiaeth hefyd gan y Cynghorydd Catrin Wager fod "elfen o ni a nhw" i'r cynlluniau, gyda gweithwyr eraill ar draws y sir ddim i dderbyn diwrnod i ffwrdd, ond ychwanegodd fod "angen i'r cyngor arwain ar y mater".
Gŵyl y banc
Yn Yr Alban mae Dydd Sant Andreas eisoes yn ŵyl gyhoeddus ar 30 Tachwedd.
Llynedd pasiwyd cynnig unfrydol gan Gyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r hawliau tebyg ar gyfer dynodi gŵyl y banc yng Nghymru, ond mae Llywodraeth y DU yn parhau i wrthod as sail y gost ychwanegol a'r "integreiddio agosach" rhwng Cymru a Lloegr.
Mae cais wedi'i wneud am ymateb i sylwadau'r Cynghorydd Jeffreys, ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi gofyn dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU i'r Senedd gael y pwerau i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc, ac mae'n siomedig gweld y ceisiadau hyn yn parhau i gael eu gwrthod."
Ond yn ôl Llywodraeth y DU: "Mae'r drefn bresennol o wyliau cyhoeddus wedi ei sefydlu ac er y gallai gŵyl y banc ychwanegol fod o fudd i rai cymunedau a sectorau, mae'r gost i'r economi o ŵyl y banc ychwanegol yn sylweddol."
Ychwanegodd llefarydd bod "dim cynlluniau presennol" i newid y drefn yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2021