Cladin: Perchnogion yn protestio tu fas i'r Senedd
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth degau o berchnogion fflatiau sydd wedi'u taro gan yr argyfwng cladin ymgasglu ar risiau'r Senedd i ofyn am fwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru ddydd Sadwrn.
Dywedodd y protestwyr eu bod yn wynebu costau uchel i dalu am waith i ddiogelu eu hadeiladau yn sgil trychineb tŵr Grenfell yn 2017.
Galwodd y protestwyr ar y Gweinidog Tai Julie James i osod amserlen penodol ar gyfer rhyddhau arian i'w helpu dalu am y gwaith.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn credu'n gryf na ddylai preswylwyr orfod talu am y gwaith diogelwch, a bod £375m dros y pum mlynedd nesaf wedi ei glustnodi ar gyfer diogelwch adeiladu yn y gyllideb ddrafft.
Fe wnaeth y grŵp drefnodd y brotest, 'Ripped off by Redrow', hefyd alw ar ddatblygwyr y fflatiau i helpu gyda'r costau.
Cododd sawl un o'r protestwyr blacardiau oedd yn nodi faint o arian yn ychwanegol sy'n rhaid iddyn nhw ei dalu - neu wynebu achos all arwain at fynd yn fethdalwyr.
'So ni'n cael atebion'
Mae Kelly Layton, sy'n berchen ar fflat ym Mae Caerdydd, wedi derbyn bil o dros £25,000 i'w dalu dros y pum mlynedd nesaf.
"Mae'n effeithio iechyd meddwl," meddai Ms Layton, "mae'n rhoi lot o pressure ar y teulu."
"Ni'n codi lan a 'na gyd i ni'n meddwl am yw sut ni'n mynd i dalu am y biliau enfawr hyn sy'n dod mewn."
Dywedodd Ms Layton bod yn rhaid iddi dalu £500 yn ychwanegol bob mis i dalu am y gwaith atgyweirio.
Os nad ydy hi'n talu, "ni mewn breach o lease, a wedyn bydd y proses yn dechrau i recovero'r fflat".
"So ma' lot o leaseholders wedi mynd yn bankrupt - yn Lloegr ma' lot o bobl wedi colli tai nhw."
Nid yw'n bosib gwerthu'r fflat "oherwydd y fire defects hyn," meddai, "so so ni'n gallu symud 'mlaen da'n bywydau ni, so ni'n gallu planno dim byd achos ma' shwd gymaint o arian yn mynd mas pob mis".
Dywedodd bod y protestwyr yn gofyn am "atebion" gan Lywodraeth Cymru wedi pedair blynedd o brotestio.
"Ni'n meddwl bod dim help yn dod o'r Senedd. Yn Lloegr, maen nhw'n cael funding - mae 'na broses, maen nhw'n gallu gofyn am funding i dalu am y remediation."
"S'dim byd ar y wefan y Senedd i weud beth yw'r sefyllfa yng Nghymru."
Er ei bod yn cydnabod Cronfa'r Pasbort Adfer Adeiladau, "ni still yn aros - ma' nhw wedi cymryd pedwar mis i broseso 248 o applications, a so ni still yn ca'l atebion."
'Datblygiad sylweddol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n credu'n gryf na ddylai pobl sy'n byw mewn adeiladau sydd wedi eu heffeithio orfod talu am atgyweirio safonau diogelwch neu reolau adeiladu sydd wedi eu torri.
"Mae ein triniaeth o ddiogelwch adeiladau'n ymestyn tu hwnt i gladin i gynnwys adraniad, rhybuddion tân, gwacáu, a systemau ataliad ym mhob adeilad 11 metr a throsodd.
"Fe wnawn ni barhau i siarad gyda datblygwyr a phwyso arnyn nhw i gymryd cyfrifoldeb a gweithredu, a rhoi clod i ddatblygwyr sydd eisoes wedi neilltuo arian ar gyfer atgyweirio yng Nghymru - maen nhw wedi gosod esiampl i eraill ddilyn.
"Rydyn ni'n croesawu cyhoeddiadau diweddaraf Llywodraeth y DU - fe fydd rhai ohonyn nhw'n cefnogi'n gwaith ni yma.
"Fe wnaeth datganiad y Gweinidog ym mis Rhagfyr ddangos y datblygiad sylweddol sy'n cael ei wneud ar yr agenda diogelwch adeiladau, gan gynnwys ymrwymiad o £375m yn y gyllideb ddraft dros y tair blynedd nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd30 Medi 2021
- Cyhoeddwyd8 Medi 2021