Covid: Coedlannau i gofio'r meirw yn Sir Gâr a Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CoedlanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y coedlannau'n cynnig lle i deuluoedd gofio am eu hanwyliaid

Fe fydd coedlannau yn cael eu plannu yn Nyffryn Tywi a Wrecsam er mwyn cofio'r rheiny fu farw yn ystod pandemig Covid-19, cyhoeddodd y Prif Weinidog.

Mae safle trydedd goedlan goffa yn ne ddwyrain Cymru yn dal i gael ei benderfynu.

Bydd y coedlannau'n "gofeb fyw a pharhaol" i'r bobl fu farw, ac yn "symbol o gryfder pobl Cymru," meddai Mark Drakeford.

Y gobaith yw i bobl fedru mynd i'r coedlannau i gofio am eu hanwyliaid ac i adlewyrchu ar y pandemig, dywedodd Llywodraeth Cymru.

Fe wnaeth Mr Drakeford gyhoeddi ei fwriad i greu'r coedlannau ym Mawrth 2021, ac mae disgwyl i'r plannu ddechrau eleni.

'Gormod o bobl wedi eu cymryd'

Yn Wrecsam, fe fydd y goedlan yn cael ei chreu ar ran o stad Erddig - safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Bydd yr ail goedlan yn Sir Gaerfyrddin, ar safle yn Brownhill yn Nyffryn Tywi gafodd ei glustnodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Stad Erddig fydd safle un o'r coedlannau coffa

Wrth gyhoeddi'r lleoliadau, dywedodd Mr Drakeford: "Mae hi wedi bod yn bron i ddwy flynedd ers i bandemig coronafeirws daro Cymru.

"Mae gormod o bobl wedi cael eu cymryd cyn eu pryd gan yr haint erchyll yma.

"Fe fyddwn ni'n eu cofio nhw i gyd a'u cadw nhw yn ein calonnau a'n meddyliau."

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r coedlannau ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru yn y dyfodol.

Bydd rhywogaethau amrywiol o goed yn cael eu plannu er mwyn sicrhau gwytnwch y coedlannau yn sgil newid hinsawdd.

'Lle arbennig'

Fe fydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gweithio gyda chymunedau lleol a theuluoedd wrth gynllunio'r coedlannau.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru Clare Pillman: "Ein huchelgais ni ar gyfer y goedlan coffa yw iddi ddod yn ardal fyw i'r holl gymuned ei mwynhau, yn ogystal â man tawel i feddwl wrth i ni barhau i wynebu'r cyfnod heriol hwn."

"Fel rhan o'r daith, rydyn ni eisiau cyfathrebu gyda chymunedau lleol a'n partneriaid i gynllunio a dylunio'r goedlan, a chreu mannau diogel a hygyrch gyda nhw, ble gall pobl o bob oed ddod i gofio ac adlewyrchu am flynyddoedd i ddod."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae natur wedi bod yn gysur mawr i nifer yn ystod y pandemig," medd Justin Albert

Yn ôl Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru Justin Albert: "Mae natur wedi bod yn gysur mawr i nifer yn ystod y pandemig, gan ddod â phleser a sicrwydd wrth i bob agwedd arall o'n bywydau ni newid.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at gydweithio gyda chymunedau a phartneriaid er mwyn creu lle arbennig er cof am y bobl fu farw."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod am asesu effaith amgylcheddol plannu'r coedlannau, ymgynghori gyda chymunedau lleol, a sicrhau bod unrhyw effeithiau ar ardaloedd cyfagos yn cael eu hystyried.