Cymru â 'phopeth i'w ennill a dim i'w golli' yn y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru'n herio Iwerddon yn Nulyn ddydd Sadwrn yng ngêm agoriadol y Chwe Gwlad, wrth i'r crysau cochion geisio amddiffyn eu tlws o 2021.
Yn annisgwyl, Cymru wnaeth ennill y bencampwriaeth y llynedd, ac fe fuon nhw o fewn trwch blewyn i gipio'r Gamp Lawn hefyd.
Er hynny, dyw Cymru ddim yn ffefrynnau o bell ffordd eleni, yn rhannol am eu bod wedi'u llethu gan anafiadau.
Ond yn ôl y prif hyfforddwr Wayne Pivac, mae hynny'n golygu fod gan Gymru "bopeth i'w ennill a dim i'w golli".
Fe fydd y gic gyntaf yn Stadiwm Aviva am 14:15 - gêm gyntaf y gystadleuaeth.
Hefyd ar y penwythnos cyntaf bydd Yr Alban yn croesawu Lloegr i Murrayfield ddydd Sadwrn, tra bo'r Eidal yn teithio i herio Ffrainc ddydd Sul.
Adams yn dechrau fel 13
Ar y cae, bydd Josh Adams yn dechrau fel canolwr am y tro cyntaf i Gymru, gyda'r garfan yn gorfod ymdopi heb lu o'i sêr arferol yn sgil anafiadau.
Gyda Willis Halaholo ddim yn holliach oherwydd anaf i'w goes, Adams fydd yn bartner i Nick Tompkins yng nghanol cae.
Y maswr Dan Biggar fydd capten y tîm am y tro cyntaf yn absenoldeb Alun Wyn Jones.
Yn y rheng-ôl mae Wayne Pivac wedi cadw ffydd gyda'r tri chwaraeodd yn y fuddugoliaeth dros Awstralia yn yr hydref - Ellis Jenkins, Taine Basham ac Aaron Wainwright.
Mae Ross Moriarty ymysg yr eilyddion, ac mae'n bosib y bydd bachwr y Gweilch, Dewi Lake yn ennill ei gap cyntaf oddi ar y fainc.
Mae llu o chwaraewyr arferol Cymru wedi'u hanafu eleni, gan gynnwys wyth sydd wedi chwarae i'r Llewod.
Y rheiny ydy Alun Wyn Jones, Ken Owens, Justin Tipuric, Taulupe Faletau, Josh Navidi, Dan Lydiate, George North a Leigh Halfpenny, sydd â dros 700 o gapiau rhyngddynt.
'Dim i'w golli - dyna'r agwedd'
Er yr anafiadau, a barn y daroganwyr, mae Pivac yn dawel hyderus y gall Cymru achosi sioc arall eleni.
"Bydd llawer o'r tîm wnaeth ennill y gystadleuaeth [llynedd] ddim yn Nulyn. Ond ry'n ni'n credu y bydd y bechgyn sydd yno yn ein cynrychioli ni'n dda iawn," meddai.
"Ble ry'n ni gyda'r bwcis, roedden ni yn yr un safle y llynedd.
"Mae gennym bopeth i'w ennill a dim i'w golli - dyna'r agwedd."
Dyw Dulyn ddim yn le hawdd i gael canlyniad ar unrhyw adeg, ond fe fydd y Gwyddelod hyd yn oed yn fwy hyderus na'r arfer yn dilyn canlyniadau gwych yn yr hydref - gan gynnwys trechu'r Crysau Duon.
2015 oedd y tro diwethaf i Gymru ennill oddi cartref yn Nulyn, a phe bydden nhw'n cael eu trechu ddydd Sadwrn dyma fyddai'r tro cyntaf iddyn nhw golli pump o'r bron oddi cartref yn Iwerddon.
"Mae'n le anodd i fynd," meddai Pivac.
"Mae 'na gemau grêt wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf yn erbyn Iwerddon.
"Maen nhw'n dîm caled, corfforol iawn, felly ry'n ni'n gwybod fod rhaid i ni godi ein gêm o ran hynny a sicrhau ein bod yn gallu ei wneud am yr 80 munud."
Bydd Cymru'n croesawu'r Alban i Gaerdydd yn eu hail gêm yn y bencampwriaeth y penwythnos nesaf, cyn teithio i herio Lloegr yn Twickenham ar 26 Chwefror.
Fe fydd Cymru'n cloi'r gystadleuaeth gyda dwy gêm gartref - yn erbyn Ffrainc ar 11 Mawrth ac yna'r Eidal ar y 19eg.
Tîm Cymru
Liam Williams; Johnny McNicholl, Josh Adams, Nick Tompkins, Louis Rees-Zammit; Dan Biggar (c), Tomos Williams; Wyn Jones, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Adam Beard, Ellis Jenkins, Taine Basham, Aaron Wainwright.
Eilyddion: Dewi Lake, Gareth Thomas, Dillon Lewis, Seb Davies, Ross Moriarty, Gareth Davies, Callum Sheedy, Owen Watkin.
Tîm Iwerddon
Hugo Keenan; Andrew Conway, Garry Ringrose, Bundee Aki, Mack Hansen; Johnny Sexton (c), Jamison Gibson Park; Andrew Porter, Ronan Kelleher, Tadhg Furlong, Tadhg Beirne, James Ryan, Caelan Doris, Josh van der Flier, Jack Conan.
Eilyddion: Dan Sheehan, Cian Healy, Finlay Bealham, Ryan Baird, Peter O'Mahony, Conor Murray, Joey Carbery, James Hume.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2022