Cofio un o gymwynaswyr mawr Eisteddfod Pantyfedwen
- Cyhoeddwyd

Roedd Selwyn Jones a'i wraig Neli i fod yn lywyddion anrhydeddus yn y Brifwyl yn Nhregaron eleni
Mae nifer o deyrngedau wedi cael eu rhoi i un o ysgrifenyddion Eisteddfod Pantyfedwen Pontrhydfendigaid.
Yn 70 oed bu farw Selwyn Jones yn ei gartref ym Mhontrhydfendigaid ddydd Sadwrn.
Roedd wedi bod yn gysylltiedig â'r eisteddfod yn Bont ers dros 40 mlynedd ac eleni yn Nhregaron roedd Selwyn Jones, ynghyd â'i wraig Neli, wedi ei ddewis i fod yn llywydd anrhydeddus yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn enedigol o Abercegyr ger Machynlleth roedd yn gymeriad adnabyddus ac yn wirfoddolwr brwd.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wrth roi teyrnged iddo ar Dros Frecwast dywedodd Elin Jones AS, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Ceredigion: "Fe wnaeth Selwyn gyfraniad aruthrol ac fe ddaeth rhyw dawelwch droston ni gyd wrth feddwl fod Selwyn wedi'n gadael ni.
"Roedd e'n ddyn ei filltir sgwâr ond wedi 'neud argraff ar bobl y tu hwnt i hynny drwy ei gyfraniad i nifer o fudiadau ac achosion - yn bennaf ry'n yn gwerthfawrogi ei gyfraniad ef a'i wraig Neli fel dau o gyd-ysgrifenyddion gweithgar Eisteddfod Bont.
"Mae eu hymrwymiad i lwyddiant yr eisteddfod honno wedi bod yn aruthrol ac yn heintus - y ddau yn gweithio gydol y flwyddyn i sicrhau fod pobl yn cystadlu ac yn cefnogi."
'Llawn angerdd'
Roedd Selwyn a Neli Jones wedi'u dewis yn llywyddion anrhydeddus Eisteddfod Ceredigion sydd i fod i'w chynnal yn Nhregaron eleni - wedi iddi gael ei chanslo yn sgil Covid yn 2020 a 2021.

Byddai Selwyn Jones, yma gyda'i wraig a'i ddwy wyres, yn "llawn angerdd am bopeth ro'dd e'n ymwneud â nhw"
"Y tristwch wrth gwrs yw fod yr Eisteddfod Genedlaethol ar fin cyrraedd ei filltir sgwâr e yn 2022. Roedd e mor frwd dros hynny a dros y llwyddiant ysgubol o ddenu'r Eisteddfod Genedlaethol i'r ardal," ychwanegodd Elin Jones.
"Mae'n arbennig o drist na fydd e'n gweld hynny ond wrth gwrs fe fydd ei gyfraniad enfawr e yn arwain at hynny gyda ni ar y caeau yn Nhregaron ym mis Awst.
"Mae cymeriadau fel Selwyn yn mynd yn brinnach - ro'dd e'n gymeriad amlochrog ac yn gwbl o ddifrif am y materion a'r achosion o'dd yn bwysig iddo ac ro'dd e'n eu mwynhau.
"Roedd e'n llawn angerdd am bopeth ro'dd e'n ymwneud â nhw - am ei iaith, ei wlad, ei ddiwylliant ac am Bont a Cheredigion.
"Ry'n yn meddwl yn arbennig am Neli a'r teulu yn y cyfnod trist yma."
Mae Selwyn Jones yn gadael gweddw Neli a dwy o ferched, Catrin Mai a Sioned Fflur.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd7 Awst 2021
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2018