Covid a'r camau nesa': Llwyddiant profi dŵr gwastraff

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Treborth
Disgrifiad o’r llun,

Safle yn Nhreborth ger Bangor oedd y cyntaf i fonitro samplau dŵr gwastraff am arwyddion Covid

Beth mae ein dŵr gwastraff ni'n datgelu am iechyd ein cymunedau, a sut all o helpu i daclo Covid-19 yn y dyfodol?

Dyna'r cwestiwn sy'n cyffroi gwyddonwyr ar hyn o bryd wrth i gynllun profi dŵr gwastraff gael ei ehangu ar draws Cymru a thu hwnt.

Mae'r prosiect dan arweiniad Llywodraeth Cymru yn bartneriaeth rhwng sefydliadau fel Prifysgol Bangor a chwmnïau fel Dŵr Cymru.

Mae arbenigwyr hefyd yn gyffrous am y potensial i fonitro feirysau eraill a hapusrwydd cymunedau yn gyffredinol, trwy edrych ar facteria neu olion cyffuriau a meddyginiaethau gwrth-iselder mewn dŵr gwastraff.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r data hefyd yn hanfodol gan nad ydy o'n dibynnu ar ddefnydd pobl o brofion Covid, yn enwedig wrth i'r pwyslais symud o brofion PCR i fwy o brofion llif unffordd.

Disgrifiad o’r llun,

Dyweododd Dr Helen Howard-Jones fod y prosiect yn rhoi "darlun amser real" o sut mae'r feirws yn symud

Fe ddechreuodd y tîm ym Mhrifysgol Bangor gydweithio gyda Dŵr Cymru i fonitro samplau dŵr gwastraff ar safle yn Nhreborth ger Bangor o fewn wythnosau i'r achosion cyntaf o coronafeirws ymddangos yng Nghymru yn 2020.

Y fantais yn ôl Dr Helen Howard-Jones, aelod o'r tîm ym Mhrifysgol Bangor, ydy bod modd cael canlyniadau cyflym a rhoi "darlun amser real" o sut mae'r feirws yn symud o gwmpas y boblogaeth.

"Does 'na ddim oedi rhwng rhywun yn cael Covid a rhwng pryd maen nhw'n dechrau 'efo symptomau - os ydyn nhw'n cael symptomau wrth gwrs," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r samplau yn cael eu hasesu mewn labordy ym Mhrifysgol Bangor

Mae samplau yn cael eu cymryd o'r dŵr gwastraff pob 20 munud dros gyfnod o 24 awr, ac yn dangos os yw lefelau Covid yn codi neu ostwng yn yr ardal.

Roedd gwaith y tîm ym Mangor wedi galluogi gwyddonwyr i weld twf Omicron o fewn cymunedau a rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y patrymau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Beth oedd yn ddiddorol bod y dŵr gwastraff yma a'r monitro yma wedi helpu ni i ddilyn ton Omicron - o ble oedd o'n dod, ymhle oedd o'n dod, i ba raddau oedd o'n codi a hefyd i ba raddau o'dd e'n cwympo.

"O'dd y ffaith bod e'n cwympo tu mewn i'n cymunedau ni - ac roedden ni'n gwybod hynny drwy'n dŵr gwastraff ni - yn golygu ein bod ni wedi gallu rhyddhau rhai o'r cyfyngiadau yna."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Marc Davies o Dŵr Cymru eu bod "gallu edrych yn ehangach na Covid"

Yn ogystal â'r potensial i adnabod amrywiolion newydd o Covid yn y dyfodol, mae arbenigwyr hefyd yn ei weld fel modd o fonitro iechyd a hapusrwydd yn fwy cyffredinol.

Dywedodd Marc Davies, pennaeth trin dŵr gwastraff efo Dŵr Cymru: "Y'n ni'n gallu edrych yn ehangach na Covid - yn enwedig beth y'n ni wedi dysgu dros y ddwy flynedd ddiwetha' - i edrych am viruses eraill, pathogens, cyffuriau sydd mewn yn y dŵr gwastraff sy'n dod mewn i'n gweithfeydd trin gwastraff ni."

Mae'r rhaglen yn cael ei ehangu rŵan i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, ar draws 48 o safleoedd.