Aflonyddu rhywiol: 'Ymchwiliwch ysgolion cynradd' medd AS
- Cyhoeddwyd
Mae arolygwyr addysg Cymru wedi cael eu hannog i ymchwilio i brofiadau o aflonyddu rhywiol ymhlith disgyblion ysgolion cynradd.
Fe wnaeth y Ceidwadwr Laura Anne Jones yr alwad mewn un o bwyllgorau'r Senedd sy'n trafod aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr.
Dywedodd: "Fel gwleidydd a mam, rwy'n ymwybodol iawn bod hyn yn broblem mewn ysgolion cynradd."
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod "diogelwch plant yn ein hysgolion yn flaenoriaeth".
Canfu astudiaeth Estyn, dolen allanol o'r mater mewn ysgolion uwchradd fod tua hanner y disgyblion yn dweud eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol gan gyd-fyfyrwyr.
Bu Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn trafod adroddiad yr arolygiad a ganfu fod disgyblion ysgolion uwchradd dan bwysau'n rheolaidd i anfon lluniau noethlymun a merched yn cael eu haflonyddu ynghylch hyd eu sgertiau.
Dywedodd yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd, Laura Anne Jones, wrth y pwyllgor ddydd Iau "o fy mhrofiad i fel gwleidydd a mam, rwy'n ymwybodol iawn bod hyn yn broblem mewn ysgolion cynradd hefyd, yn enwedig, yn amlwg, yn yr adran iau uwch, oherwydd bod plant yn cael ffonau yn llawer iau, ac nid yw rhieni'n rhoi'r cloeon ymlaen y dylent ei wneud, sy'n rhan o'r broblem.
"Felly dwi'n teimlo bod angen i ni ymestyn hyn i ysgolion iau, oedran cynradd, yn bendant."
Atebodd Jassa Scott, cyfarwyddwr strategol Estyn: "Yn y gwaith a wnaethom, dywedodd cyfran eithaf sylweddol o bobl ifanc eu bod wedi profi rhywfaint o hyn yn yr ysgol gynradd yn gyntaf.
"Rydyn ni'n gwybod o rywfaint o'r gwaith sy'n ymwneud â bwlio ac yn y blaen bod hyn yn digwydd yno."
Dywedodd fod Estyn yn y "camau olaf" o gytuno ar ei gylch gorchwyl, ei "set o waith thematig" ar gyfer y flwyddyn nesaf gyda'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles.
Dywedodd Ms Scott wrth aelodau'r Senedd: "Yr arwydd rydyn ni wedi'i gael yw y bydd gofyn i ni wneud mwy o waith o gwmpas hyn mewn colegau addysg bellach y flwyddyn nesaf, felly bydd cyfle i ymestyn hyn i'r grŵp oedran hwnnw."
Ychwanegodd: "Rwy'n siŵr yn y gwaith y byddwn yn ei wneud gydag ysgolion cynradd y byddwn yn parhau i gasglu rhywfaint o dystiolaeth ynglŷn â maint y broblem yno hefyd.
"P'un a fydd hynny yn y pen draw yn arwain at ddarn penodol o waith yn edrych ar faterion penodol mewn ysgolion cynradd, bydd yn rhaid i ni weld."
'Cyd-ymddiriedaeth a pharch'
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "O fis Medi nesaf bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (RSE) sy'n briodol o ran datblygiad yn cael ei haddysgu i bob plentyn ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru.
"Helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o berthnasoedd iach, i gyd yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch, yw sylfaen hynny.
"Ar hyn o bryd rydym yn cynnal cynllun peilot gyda phymtheg o ysgolion, gan gynnwys deg ysgol gynradd, i lywio addysgu a dysgu'r cod.
"Byddwn yn edrych yn ofalus ar y canlyniadau ac yn canolbwyntio ar ba gymorth sydd ei angen ar athrawon i addysgu a chefnogi dysgwyr."
1,300 o blant
Fe fu arolygwyr Estyn mewn 35 o ysgolion uwchradd gan siarad â 1,300 o blant rhwng diwedd Medi a dechrau Hydref wrth lunio'u hadroddiad.
Yn ôl y dystiolaeth a gasglwyd roedd disgyblion yn dweud bod aflonyddu rhywiol wedi troi'n beth "cyffredin" ac er ei fod yn digwydd o fewn ysgolion, ei fod yn fwy cyffredin tu allan i oriau ysgol ac ar-lein.
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod wedi'ch effeithio gan y materion a godwyd yn y stori yma, mae cefnogaeth ar gael ar wefanBBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd29 Medi 2021
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd18 Medi 2020