Gorseinon: Cyhuddo tri ar ôl i fachgen, 14, gael ei drywanu

  • Cyhoeddwyd
gorsaf fysiau Gorseinon a char heddlu

Mae tri bachgen wedi'u cyhuddo ar ôl i fachgen 14 oed gael ei drywanu mewn gorsaf fysiau yng Ngorseinon, Abertawe.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 18:05 nos Iau, 10 Chwefror i orsaf fysiau Gorseinon ar Stryd y Gorllewin.

Mae bachgen 14 oed yn parhau mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod dau fachgen 14 oed ac un 15 oed wedi'u cyhuddo o ymosod ac un o'r bechgyn 14 oed o fod ag arf yn ei feddiant.

Fe ymddangosodd y tri yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Sadwrn.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig