Argyfwng costau byw: Degau o brotestwyr yn uno ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Daeth degau o bobl ynghyd ym Mangor ddydd Sadwrn mewn protest wrth i bryderon gynyddu am yr argyfwng costau byw.
Galw am dreth arbennig ar elw ychwanegol cwmnïau olew a nwy oedd y protestwyr wrth i gostau ynni a bwyd gynyddu.
Yn ôl Jessica Kleczka oedd yn rhan o'r digwyddiad, mae'n "annerbyniol eu bod [cwmnnïau olew a nwy] yn gwneud cymaint o elw ar adeg pan fo gymaint o bobl yn ei chael hi'n anodd gyda chostau byw".
Dywedodd cwmni olew BP y byddai treth o'r fath yn torri buddsoddiad yn nwy y DU.
Fe gyhoeddodd y corff sy'n goruchwylio'r diwydiant ynni, Ofgem, gynnydd o 54% i'r cap ar brisiau.
O fis Ebrill ymlaen, bydd pris cyfartalog biliau ynni yn cynyddu o bron i £700 i filiynau o gartrefi ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban.
'Methu fforddio biliau uwch'
Yn ôl un dyn ifanc oedd yn rhan o'r digwyddiad, Shane Parsons, dyw pobl ifanc "ddim yn gallu fforddio talu dros £900 y flwyddyn [yn ychwanegol] ar filiau".
"Mae pethau'n anodd i bawb ar y funud gyda coronafeirws, felly mae'n bwysig bod ni'n brwydro dros ein hawliau," dywedodd.
Yn rhan o'r dorf oedd Christine Hardacre. Cododd bryderon am sut fydd yr argyfwng yn effeithio ar blant yn benodol.
"Mae Cymru yn dlotach na gweddill Prydain ac felly mae hyn wir am gael effaith ar bobl Cymru. Bydd pobl wir yn gorfod meddwl am allai yfed, neu allai cadw'n dwym, ac mae hwnna'n warthus," dywedodd.
"Mae economi chweched mwyaf y byd gyda ni, ac eto i gyd mae plant yn mynd i'r ysgol heb gael brecwast, mae plant yn mynd heb bethau - ma' fe'n warthus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2021