A fydd wythnos waith pedwar diwrnod yn dod i Gymru?

  • Cyhoeddwyd
Office workersFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae arferion gwaith nifer wedi newid ers dechrau'r pandemig

Dylai wythnos waith pedwar diwrnod gael ei threialu yng Nghymru, yn ôl Comisiwn Cenedlaethau'r Dyfodol.

Gall wythnosau gwaith byrrach, ond ar yr un tâl, wneud staff yn iachach a hapusach a busnesau yn fwy cynhyrchiol meddai Comisiynydd Cymru, Sophie Howe.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried effaith cynlluniau peilot mewn gwledydd eraill.

Mae Ms Howe eisiau "sgwrs genedlaethol" am weithio llai a'i botensial i wella lles pobl.

Anogodd Lywodraeth Cymru i gefnogi cynlluniau peilot ar draws gwahanol sectorau.

Yng Nghymru, mae yna lefel uchel o salwch ac mae lefel cynhyrchu fesul y pen yn gymharol isel. Mae incwm y pen hefyd yn is.

Dywed yr adroddiad y byddai lleihau cyfanswm oriau ond ddim cyflogau yn arwain at lai o absenoldeb o'r gwaith a gwell lefelau cynhyrchu.

Byddai hyn, meddai, yn arwain at boblogaeth fwy iach ac yn rhoi llai o straen ar y gwasanaeth iechyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lily Champ yn gweithio wythnos pedwar diwrnod

Mae Lily Champ, 24 oed o Gaerdydd, yn gweithio mewn siop trin gwallt.

Mae hi yn un sydd wedi newid ei phatrwm gwaith o bump i bedwar diwrnod.

"Roedd pum diwrnod yn gwneud pethau'n rhemp, does yna ddim digon o amser i chi eich hunain," meddai.

'Cadw pellter cymdeithasol'

Erbyn hyn mae hi'n gweithio pedwar yn lle pum diwrnod wyth awr, ond mae ei chyflog wedi aros yr un peth."

Fe wnaeth y gweithlu o 10 yng nghwmni Slunks yng Nghaerdydd ddechrau gweithio wythnos pedwar diwrnod ar ôl arbrawf yn ystod y cyfnod clo, a hynny yn bennaf er mwy gallu cadw pellter cymdeithasol.

Dywedodd Chelsea Hobson un o gyd-berchnogion Slunks: "Fe wnaethom weld gwahaniaeth mawr o ran hapusrwydd a chyflwr iechyd meddwl y tîm."

Dywedodd nad oedd hi'n disgwyl i'w busnes fod yn fwy llewyrchus ond ychwanegodd: "O ran incwm rydym wedi bod yn gwneud yn well nag oeddem cyn y newid."

Disgrifiad o’r llun,

Jacob Ellis: "Ni wedi gweld yn ystod y pandemig arferion gwaith newydd'

Yn ôl Jacob Ellis, llefarydd ar ran Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol maen nhw'n credu y bydd yr arbrawf yn costio rhyw biliwn o bunnoedd petai'r sector cyhoeddus i gyd yn cymryd rhan.

"Dan ni wedi gweld yn ystod y pandemig arferion gwaith newydd pethau fel ffyrlo, gweithio'n hyblyg a gweithio o adre.

"Dwi'n meddwl bod rhaid i ni edrych ar y ddwy flynedd diwethaf ond cyn hynny hefyd, mae gweithwyr a chyflogwyr wedi bod yn arbrofi, yn y sector preifat o bosib yn gynt na'r sector cyhoeddus.

"A dyna pam dan ni 'n gofyn, yn yr adroddiad yma, i Lywodraeth Cymru i annog a chefnogi'r sector cyhoeddus i arwain hyn.

"Dyna 'dan ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi, i gynnig arian, i gynnig arweiniad ac i gynnig cefnogaeth i fusnesau yn y sector preifat, ond hefyd yn y sector cyhoeddus, lle bod angen ychydig o anogaeth ychwanegol."

Barn byd busnes

Mae'r byd busnes yn fodlon ystyried a thrafod, meddai Owain Davies o gymdeithas y cyflogwyr - CBI Cymru - ond bod yn rhaid hefyd ystyried y gost.

"Mae balans i'w gael, "meddai Mr Davies ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.

"Ni am weld be' ydi'r ddadl - gweld beth yw'r ddadl yn mynd i fod yn y dyfodol, beth yw'r ffeithiau.

"Dim ond bod ni'n cadw ynghlwm o fewn costau, ry'n ni yn y byd busnes yn barod i siarad a barod i gael y ddadl ac wrth sgwrs ystyried popeth os yw'n gwneud y cynhyrchiad yn well," meddai

"Rhaid i ni ystyried ein bod yn cystadlu â bob rhan o'r byd nawr a nid dim dim ond gwledydd Prydain Fawr."

Dywedodd fod yna ffactorau pwysig wrth newid y patrwm gwaith.

"Beth sy'n rhai i ni ystyried wedyn yw cael rhywun i gyfro pan fod y bobl ddim yn y gwaith.

"So ma' hynny yn dodi costau ar fusnesau."

Pynciau cysylltiedig