'Dylid cael wythnos waith fyrrach,' medd Comisiynydd

  • Cyhoeddwyd
Sophie HoweFfynhonnell y llun, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sophie Howe wedi galw ar wleidyddion i "fod yn ddewr a dechrau gwneud newidiadau radical"

Mae angen i wleidyddion "fod yn ddewr a dechrau gwneud newidiadau radical," yn ôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae Sophie Howe wedi cyhoeddi maniffesto cyn etholiad Senedd mis Mai sy'n cynnwys polisïau yr hoffai hi weld Llywodraeth nesa Cymru yn eu mabwysiadu.

Maent yn cynnwys treialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol, byrhau'r wythnos waith a sefydlu 'Gweinyddiaeth Posibiliadau'.

Mae pwyslais clir hefyd ar bolisïau gwyrdd.

Beth sy'n flaenoriaeth?

"Mae hon yn alwad sy'n canolbwyntio ar weithredu'n flaengar yn y dyfodol ac rydw i eisiau byw mewn Cymru lle mae gwleidyddion yn cefnogi'r agwedd flaengar honno," meddai Ms Howe.

"Mae hyn yn ymwneud â chanolbwyntio ar beth yw'r pethau sy'n mynd i fod yn hanfodol i sicrhau'r dyfodol gorau posibl i'n cenedlaethau i ddod.

"Rhaid i hynny fod yn ddyfodol carbon isel. Rhaid i hynny fod yn ddyfodol lle rydyn ni'n cwestiynu 'ydy ein model economaidd yn iawn' - y ffaith ein bod ni'n rhoi gwerth ar faint o oriau rydych chi'n gweithio, faint o arian rydych chi'n ei wneud, yn hytrach na 'ydych chi'n iach, ydych chi'n ddiogel, yw eich iechyd meddwl yn iawn'."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae newid wedi bod mewn agweddau pobl ers y pandemig, medd Sophie Howe

"Rwy'n credu bod yn rhaid cael shifft sylfaenol ac rwy'n credu yn ystod Covid bod pobl wedi dechrau myfyrio ar rai o'r pethau hynny eu hunain a nawr yw'r foment i lunwyr polisi a gwleidyddion fod yn ddewr a dechrau gwneud newidiadau radical," ychwanegodd Ms Howe.

Yn ôl y maniffesto byddai Gweinyddiaeth Posibiliadau yn dwyn ynghyd y "mwyaf disglair a'r gorau... i ystyried newidiadau radical yn systemau'r llywodraeth" a "mabwysiadu modelau arloesol newydd".

Wedi'i chreu fel rhan o Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol, rôl y Comisiynydd yw helpu cyrff cyhoeddus a llunwyr polisi yng Nghymru i "feddwl am yr effaith hirdymor eu penderfyniadau".

Fodd bynnag, ni all y Comisiynydd rwystro penderfyniad na rhoi sêl bendith i gynllun.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ms Howe mai un o'r prif bethau y mae wedi'i gyflawni yw atal cynllun ffordd liniaru'r M4

Ms Howe yw'r person cyntaf i wneud y swydd £95,000 y flwyddyn ac mae hi wedi bod wrthi ers 2016.

Dywed fod ei chyflawniadau yn cynnwys penderfyniad Llywodraeth Cymru i atal cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru yr M4, "trawsnewid" polisi cynllunio, a "shifft" yn y ffordd y mae'r gwasanaeth iechyd yn darparu gwasanaethau ataliol.

"Mae fy rôl yn darparu'r gallu i fod yn flaenllaw i weithredu fel gwarcheidwad cenedlaethau'r dyfodol a dwyn gwleidyddion i gyfrif lle nad ydyn nhw'n gwneud hynny," meddai Ms Howe.

"Am gyfnod rhy hir mae ein systemau gwleidyddol wedi canolbwyntio ar wneud penderfyniadau tymor byr er budd llwyddiannau etholiadol yn y blwch pleidleisio nesaf.

"Yr hyn rydw i'n ei ddweud yw bod yn rhaid iddyn nhw fynd y tu hwnt i hynny - mae'n rhaid eu bod nhw'n dangos i'n pobl ifanc nawr a'r rhai sydd eto i'w geni eu bod nhw'n gweithredu er lles eu diddordebau."

Ymateb y pleidiau

Dywedodd Llafur eu bod yn diolch i'r Comisiynydd am ei maniffesto a bod y blaid yn "benderfynol o greu Cymru sy'n decach ac yn fwy cyfartal".

Ymateb Plaid Cymru oedd bod "heriau mawr yn mynnu syniadau mawr" a thaw'r meddylfryd yna sydd y tu ôl i faniffesto'r Comisiynydd a gweledigaeth y Blaid.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig nad "talu pobl i weithio llai yw'r ffordd i ddenu mwy o fusnesau i Gymru".

Mae plaid Independent Alliance for Reform wedi cael cais i ymateb.