M4: Enwi bachgen, 3, fu farw ddyddiau ar ôl ei chwaer
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen bach a fu farw bron i wythnos ar ôl gwrthdrawiad ar yr M4 wedi cael ei enwi.
Roedd Jayden-Lee Lucas, tair oed ac o Dredegar, yn teithio o barti pen-blwydd gyda'i deulu pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar 5 Chwefror.
Bu farw Jayden o'i anafiadau ddyddiau ar ôl ei chwaer Gracie-Ann Wheaton, oedd yn bedair.
Mae mam y plant yn dal i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Dywedodd cefnder, Jamie Lucas o'r Fenni, bod Jayden yn fachgen "rhyfeddol, yn greadigol ac yn garedig".
Ychwanegodd y byddai'n "troi awyr llwyd yn las".
Dywedodd Mr Lucas bod gan Gracie-Ann "ddyfodol disglair" o'i blaen, a'i bod yn "ffantastig cael bod yn ei chwmni".
Mae dyn 41 oed oedd yn gyrru fan fuodd yn rhan o'r digwyddiad wedi ei gyhuddo o droseddau gyrru ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2022