Teyrnged i dad, 35, fu farw wedi gwrthdrawiad ger Tonyrefail
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn 35 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad gyda cherbyd yn oriau mân bore Sul wedi'i ddisgrifio fel "tad, mab, brawd, wncwl ac ŵyr ffyddlon".
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd yr A4119 rhwng cylchfan Coed-Elái a chylchfan Tonyrefail yn Rhondda Cynon Taf tua 03:00 fore dydd Sul 13 Chwefror.
Dywedodd yr heddlu bod Christopher Williams o ardal Pentre wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae dyn arall 35 oed o ardal Caerdydd wedi ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad. Mae wedi ei ryddhau wrth i swyddogion barhau â'u hymchwiliadau.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Christopher Williams "na fyddai byth yn cael ei anghofio" ac y bydd "yn eu calonnau am byth".
"Roedd e'n byw ei fywyd i'w dair merch ifanc, Phoebe, saith, ac Emillie ac Esme, y ddwy yn bedair, sef y peth pwysicaf yn ei fywyd.
"Roedd Chris yn angerddol am gerddoriaeth ac roedd e wedi chwarae mewn sawl band yn y gorffennol, roedd e'n mwynhau karaoke ac roedd e'n dysgu ei ferch, Phoebe, i chwarae'r gitâr.
"Does dim geiriau i ddisgrifio'r golled y mae ein teulu'n delio gyda ac yn ei deimlo ar hyn o bryd. Mae wedi ei gymryd wrthom lawer yn rhy gynnar."
Mae'r heddlu'n apelio am ragor o wybodaeth ac yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd ger yr A4119 rhwng 02:00 a 03:00 fore Sul 13 Chwefror neu a welodd dacsi VW Jetta du yn yr ardal.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2022