Senedd Ieuenctid newydd yn cwrdd am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau newydd Senedd Ieuenctid Cymru yn cwrdd am y tro cyntaf ddydd Sadwrn.
Mae'r 60 aelod, sydd rhwng 11 a 18 oed, yn cynrychioli 40 o etholaethau ac 20 o sefydliadau ac elusennau.
Bydd pob aelod yn cael dau funud i siarad am unrhyw bwnc o'u dewis.
Roedd pleidlais yn y prynhawn, gyda'r aelodau'n dewis y tri phwnc fydd yn cael blaenoriaeth yn ystod y tymor yma, sef:
Ein Hiechyd Meddwl a Lles;
Hinsawdd a'r Amgylchedd;
Addysg a'r Cwricwlwm Ysgol.
'Newid pethau er gwell'
Seth Burke, 13, oedd y person cyntaf i dyngu llw mewn cadair olwyn yn y Senedd ac yn ddiweddar mae wedi wynebu cyfnod anodd wedi iddo gael Covid yn ystod y Nadolig.
Bydd ei neges yn canolbwyntio ar greu amgylchedd gwell i bobl anabl.
Mae e wedi ei ethol i gynrychioli elusen Tŷ Hafan a dywedodd: "Rwyf am newid pethau er gwell ac mae hyn yn ddechreuad.
"Mae'n ddefnyddiol i fi gael rywle lle gallaf roi llais i'm teimladau. Rwy'n credu y dylai pob person ifanc gael cyfle i siarad am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw."
Dywedodd Owain Williams, yr Aelod dros Aberconwy, wrth Cymru Fyw fod Senedd Ieuenctid Cymru yn bwysig er mwyn rhoi llais i'r pethau sy'n bwysig i bobl ifanc.
'Poeni am brynu tŷ yn y dyfodol'
"'Da ni'n clywed digon gan wleidyddion hŷn, ond dw i'n credu er mwyn cael gwlad decach i bawb 'da ni angen clywed barn pawb, a ma' hynny'n cynnwys pobl ifanc.
"Dw i 'di cael pobl yn dod fyny atai yn gofyn pa bynciau dwi'n mynd i fod yn gwthio 'mlaen yn y Senedd, wedyn dw i 'di bod yn cael barn nhw am y peth."
Fe fydd Owain yn trafod newid hinsawdd ddydd Sadwrn, ond dywedodd ei fod hefyd yn awyddus i'r Senedd roi sylw i'r argyfwng tai.
"Dw i 'di bod yn siarad efo dipyn o'n ffrindiau i a phobl yn yr ysgol - mae 'na dipyn i weld yn pryderu braidd am eu gallu nhw i brynu tai yn y dyfodol.
"Dw i'n dod o ysgol lle mae dipyn ohonon ni'n siarad am wleidyddiaeth yn barod, felly mae'r Senedd yn ffordd dda i ni gael ein barn ni allan."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
'Cynrychioli pob fyddar'
Mae Daniel Downton, 12, yn cynrychioli National Deaf Children's Society Cymru.
Dywedodd ei fod yn nerfus gan y bydd yn siarad ger bron cymaint o bobl ond hefyd yn llawn cyffro i rannu ei sylwadau.
"Fe fyddai'n siarad yn benodol am addysg a'r materion sy'n effeithio ar bobl fyddar gan godi ymwybyddiaeth am y gefnogaeth ychwanegol sydd ei hangen mewn ysgolion.
"Fe fydden i'n hoffi i fwy o blant sydd â nam ar eu clyw i gael yr un gefnogaeth â fi yn yr ysgol.
"Mae angen offer penodol a dwi'n meddwl hefyd y dylai athrawon wisgo mygydau clir - mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i ddarllen gwefusau a ddim yn amharu ar lais yr athro."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2019