Rali 50 mlynedd ers Trefechan

  • Cyhoeddwyd
Roedd nifer o gyn-gadeiryddion y Gymdeithas a phrotestwyr gwreiddiol ymhlith cannoedd a orymdeithiodd i bont Trefechan ddydd SadwrnFfynhonnell y llun, cymdeithas yr iaith
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o gyn-gadeiryddion y Gymdeithas a phrotestwyr gwreiddiol ymhlith cannoedd a orymdeithiodd i bont Trefechan ddydd Sadwrn

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal protest 50 mlynedd i'r diwrnod ers eu gwrthdystiad cyntaf, yn Aberystwyth Ddydd Sadwrn.

Digwyddodd y brotest wreiddiol yn Chwefror 1963 ychydig fisoedd wedi sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Awst 1962.

Yn ystod y brotest yn 1963 eisteddodd tua 40 o aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas yng nghanol y ffordd ar bont Trefechan am hanner awr.

Cafodd yr heddlu eu galw a bu nifer o bobl leol yn beirniadu'r protestwyr bryd hynny, ond credai'r protestwyr y byddai'r weithred yn denu sylw'r wasg ac yn rhoi pwnc diffyg statws y Gymraeg ar yr agenda cyhoeddus.

50 mlynedd yn ddiweddarach, roedd nifer o gyn-gadeiryddion y Gymdeithas a phrotestwyr gwreiddiol ymhlith cannoedd a orymdeithiodd i bont Trefechan mewn ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad.

'Sicrhau statws'

Yn siarad cyn y rali, dywedodd un o'r protestwyr gwreiddiol, Tedi Milward, a ddychwelodd i'r un lle ddydd Sadwrn: "Fe wnaeth y ddwy weithred - y brotest yn y swyddfa bost ac ar y bont, greu cyfnod newydd yn hanes yr iaith ac fe wnaeth ddangos fod pobl ifanc ac o bob oed yn fodlon gweithredu er mwyn sicrhau statws i'r Gymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r maniffesto byw yn cynnwys dros 20 o bolisïau

Maen nhw'n galw ar Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones i sicrhau bod pobl yn medru 'byw yn Gymraeg'.

Fe ddaw'r rali ddyddiau ar ôl cyhoeddi ystadegau lleol Cyfrifiad 2011 yn dangos bod cadarnleoedd y Gymraeg yn crebachu.

Yn 2001 roedd 59 o wardiau lle oedd mwy na 70% o bobl yn siarad yr iaith ond roedd hyn wedi gostwng i 49 erbyn 2011.

'Angen gwneud mwy'

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud: "Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen gwneud mwy i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

"Mae ein Strategaeth Iaith yn nodi chwe maes y mae angen canolbwyntio arnynt er mwyn sicrhau cynaliadwyedd yr iaith.

"Byddwn yn defnyddio canlyniadau'r Cyfrifiad i lywio ein gwaith ar yr iaith Gymraeg, nawr ac yn y dyfodol, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phawb sydd â diddordeb yn nyfodol yr iaith Gymraeg er mwyn sicrhau ffyniant hirdymor yr iaith."

Ffynhonnell y llun, llyfrgell Gen
Disgrifiad o’r llun,

Protest Pont Trefechan, 1963

Mae disgwyl i ddirprwyaeth o'r gymdeithas gwrdd â Carwyn Jones ddydd Mercher - mae'r Gymdeithas eisoes wedi cwrdd â'r tair gwrthblaid yn y Cynulliad i drafod eu "maniffesto byw", sef eu syniadau ar gyfer cryfhau'r Gymraeg a'i chymunedau, a'r Cyfrifiad.

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r rali yn digwydd ddyddiau yn unig cyn i ni fel mudiad gyfarfod gyda Carwyn Jones.

"Byddwn yn galw arno a'r Llywodraeth i gydnabod yr argyfwng sydd yn wynebu'r Gymraeg, ac i weithredu er mwyn mynd i'r afael â hynny.

"Bydd y rali yn gyfle felly i bobl gynyddu'r pwysau ar y Llywodraeth ac i fynnu byw yn Gymraeg."