Dyn yn cyfaddef achosi marwolaethau dau blentyn ar yr M4

  • Cyhoeddwyd
Jayden a GracieFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jayden-Lee Lucas a Gracie-Ann Lucas o ganlyniad i'r gwrthdrawiad ar 5 Chwefror

Mae dyn 41 oed wedi cyfaddef achosi marwolaethau dau blentyn mewn gwrthdrawiad ar yr M4 ar gyrion Casnewydd.

Bu farw Gracie-Ann Lucas, oedd yn bedair oed, a'i brawd Jayden-Lee Lucas, oedd yn dair, o ganlyniad i'r digwyddiad ar 5 Chwefror.

Fe wnaeth Martin Newman o bentref Croeserw, Castell-nedd Port Talbot, bledio'n euog ddydd Llun i ddau achos o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd fe blediodd yn euog hefyd i achosi niwed difrifol i fenyw arall, Rhiannon Lucas, trwy yrru'n beryglus.

Roedd y teulu wedi bod yn dychwelyd o barti pen-blwydd pan gafodd eu car ei daro gan fan ar yr M4 rhwng cyffyrdd 28 a 29 - rhwng Casnewydd a Chaerdydd.

Cafodd Newman ei gadw yn y ddalfa, cyn cael ei ddedfrydu ar 8 Ebrill.