Torri record byd yn hwylio Prydain ac Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Lowri BoormanFfynhonnell y llun, Lowri Boorman

"Da ni nawr 'di hwylio hanner ffordd rownd Prydain ac Iwerddon. Fi mor prowd ohonom ni, mae e 'di bod mor anodd."

Torri record byd ac ambell stereoteip yn y broses - dyna yw gobaith Lowri Boorman, 19, a'i ffrind Elin Jones o Sir Benfro sydd wrthi'n hwylio o Lerwick yn yr Alban i Blyth yn Lloegr dros y pedwar i saith diwrnod nesaf.

Dyma cymal ddiweddaraf y ras wnaeth ddechrau yn Plymouth fis Mai ac sy'n tywys yr hwylwyr i deithio 2,000 milltir o gwmpas Prydain.

Fe enillodd y ddwy y cymal diwethaf o Galway i'r Alban ond dydi hi ddim wedi bod yn siwrnau hawdd ar hyd y moroedd mawr.

"Ni wedi ennill y cymal diwethaf o Galway i Shetland. Roedd e jest yn ofnadwy," meddai Lowri Boorman mewn neges i Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

Os maen nhw'n llwyddo i orffen, Lowri fydd y person ieuengaf erioed i gapteinio cwch yn y ras yma, gan dorri record cafodd ei osod gan ddyn yn 1988.

Yn ogystal, nhw fydd y tîm benywaidd ieuengaf erioed i gystadlu.

'Y môr jest ddim yn licio ni'

"Roedd y cymal cyntaf yn araf - dim llawer o wynt o gwbl - roedd hwnna yn meddwl ein bod wedi treulio cwpwl o ddiwrnodau yn 'bobio' o gwmpas y môr Celtaidd," meddai Lowri.

"Oherwydd does dim hawl 'da ni gael injan pan 'da ni yn rasio mi ffaelodd y batris felly ychydig o oriau mewn roedden ni jest oddi ar Lizzard Point, wrth y Shetlands, heb drydan o gwbl felly doedd dim GPS gyda ni, dim golau na dim i ddangos y tankers a'r ferries bo ni yno a dim ffordd i'r injan ddechrau os oedd argyfwng."

Ond llwyddodd y ddwy i gyrraedd Galway ar ôl chwe diwrnod o hwylio o Plymouth a hynny heb signal GPS.

Mae arfordir agored gorllewin Iwerddon yn ardal beryglus iawn i hwylwyr ac mae Lowri yn "prowd iawn" eu bod wedi llwyddo mynd o'i gwmpas.

Ffynhonnell y llun, Lowri Boorman
Disgrifiad o’r llun,

Lowri Boorman ac Elin Jones

"Cyrhaeddon ni yn Galway tua 4 y bore. Dwi byth wedi profi lletygarwch gwell na dwi wedi cael yn Galway. Hyd yn oed croesawu ni i'w tai i gael gwely a swper. Roedden ni mor ddiolchgar," meddai Lowri.

"Er i ni gael batris newydd yn Galaway, mi fethon nhw eto. Doedd yr injan heb 'di chargo'r batris nôl lan. Doedd y môr jest ddim yn licio ni o gwbl. Ges i fy body slamio gan y cwch o dan y dec ac roedd y tonnau yn byrstio'r cypyrddau ar agor felly roedd pethau ym mhobman!

"Roedd symud ymlaen i'r cymal diwethaf o Galway i Shetland yn ofnadwy," meddai Lowri. "Roedd tonnau pedwar metr yn torri dros fy mhen ac ochr y cwch.

"Torrodd yr hwyl ar flaen y cwch tri diwrnod yn ôl ond arhosodd e i fyny oherwydd i ni ei wrapio fe. Cyn gynted i ni gyrraedd y Pontoon fe ddechreuais i lefen dagrau o ryddhad fy mod wedi cael y cwch ac Elin yn saff. Roedd e jest yn rhyddhad massive."

Sut gychwynodd Lowri hwylio?

Wrth siarad gydag Aled Hughes ar BBC Radio Cymru wrth baratoi at y ras ym mis Chwefror, dywedodd Lowri ei bod yn "hwylio ers ei bod yn wyth mlwydd oed. Dechreuais i hwylio yn Neyland yn Sir Benfro - project wedi cychwyn gan RYA (Royal Yachting Association) i gael plant bach i mewn i hwylio, fel taster session am ddim, nes i drio hwylio a o'n i jysd yn lyfio fe a 'na lle ddechreuodd e."

Mae Lowri wedi cystadlu'n unigol mewn hwylio yn barod gan gymryd rhan ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Ffrainc yn 2017 ble gorffennodd yn drydydd. Yna yn Pencampwriaeth Prydain yn 2018 fe gafodd hi ail.

Trwy hwylio y daeth hi i adnabod Elin, fydd yn cymryd rhan yn y ras gyda hi hefyd.

"Nes i gwrdd ag Elin trwy hwylio cychod llai, Toppers oedd enw'r cychod yna. 'Nes i just gofyn i Elin os o'dd hi eisiau ac o'dd hi just definitely, 'ry'n ni'n ffrindia' da iawn."

Ffynhonnell y llun, Lowri Boorman
Disgrifiad o’r llun,

Lowri Boorman, sy'n gobeithio torri record byd mewn ras hwylio o amgylch Prydain ac Iwerddon

Hefyd o ddiddordeb:

Y freuddwyd yw bod yn hwylwraig broffesiynol

Mae Lowri wedi gweithio'n galed i gwblhau y cymwysterau mae hi angen er mwyn gwneud bywoliaeth o hwylio. Gweithiodd ddwy swydd, un yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg ac un mewn purfa olew yn Sir Benfro i dalu am ei chymhwyster i fod yn gapten llongau hwylio. Mae hi bellach yn cael capteinio llongau hwylio hyd at 24 medr o hyd i 150 o filltiroedd o'r lan.

Ar hyn o bryd, ei gwaith yw cludo cychod hwylio newydd sbon i bobl ar draws Ewrop ynghyd a bod yn hyfforddwr hwylio.

Ffynhonnell y llun, Lowri Boorman
Disgrifiad o’r llun,

Lowri Boorman

Meddai: "Fi rili eisiau bod yn hwylwraig broffesiynol ond mae o jesd mor anodd gan fod arian yn chwarae huge role i fynd i top y byd hwylio. Ma' pobl sydd 'da lot o arian jesd yn gallu neud e. Ma' nhw jesd yn gallu prynu cwch a 'neud e. Ond i bobl fel fi ac Elin, mae Elin yn y Brifysgol felly does gan y ddwy ohonon ni ddim lot o arian. I ni ma' lot anoddach.

"Os ni'n gallu gwneud y ras yma fydd o mor dda i'n gyrfaoedd hwylio ni, achos fydden ni'n gallu dweud bod ni 'di gwneud hwn off our own back."

Ffynhonnell y llun, Elin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Elin Jones

Bu rhaid i Lowri a Elin hel cefnogaeth nifer o noddwyr er mwyn llogi cwch ym mis Chwefror a gyda "chefnogaeth anhygoel," yn enwedig o Sir Benfro, maen nhw wedi gallu benthyg cwch o'r enw White Knight.

Gobaith y ddwy hefyd yw gallu codi arian i elusen Alzheimer's gan eu bod nhw'n gwneud y ras er cof am anwyliaid maen nhw wedi colli i'r salwch, sef dwy nain Lowri a thaid Elin.

Ffynhonnell y llun, Lowri Boorman
Disgrifiad o’r llun,

Elin Jones, is-gapten Lowri yn y ras o amgylch Prydain ac Iwerddon

Pynciau cysylltiedig