'Poeni beth fydd yn digwydd yn y dyddiau nesaf'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Elen Wyn fu'n siarad â theulu o Drawsfynydd sydd ag anwyliaid yn Wcráin ar ran Newyddion S4C

Mae dyn o Wynedd sy'n treulio hanner y flwyddyn yn Wcráin wedi disgrifio'r pryder cynyddol wedi i Rwsia ddechrau ymgyrch filwrol yn y wlad.

Yn Wcráin y mae plant a wyrion Gareth Roberts o Drawsfynydd yn byw, ac mae gan y teulu fusnes yno hefyd.

"'Da ni yn amlwg yn poeni beth sy'n mynd i ddigwydd yn ystod y dyddiau nesaf," meddai ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

Mae'n dweud bod ei berthnasau'n "awyddus i aros lle ma nhw ar y pryd" ac yn diystyru ceisio teithio i'r ffin a fyddai'n "cymryd mwy na diwrnod i'w wneud".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn ciwio i godi arian o beiriannau yn Kyiv

"Mae na beryg bysa nhw'n cael eu lladd ar y ffordd. Maen nhw'n ceisio aros lle ma nhw.

"Dw i'n trio anfon arian i nhw ond dw i ddim yn siŵr [faint o help fydd hynny] - mae rhai pobl yn ceisio cymryd eu harian nhw allan o'r banciau."

Sioc dros y ffin yn Ngwlad Pwyl

Mae trigolion wedi dechrau ceisio ffoi o'r brifddinas Kyiv - rhai i gyfeiriad Gwlad Pwyl sy'n rhannu'r ffin â gorllewin Wcráin.

Cyhoeddodd Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, ben bore Iau bod "ymgyrch filwrol arbennig" yn dechrau yn rhanbarth Donbas yn nwyrain Wcráin, ond mae safleoedd ledled y wlad wedi cael eu targedu, gan gynnwys rhai yn y gorllewin.

"Sioc yw fy ymateb yn sicr, a tristwch mawr," dywedodd un o drigolion Gwlad Pwyl, Marta Listewinik, wrth raglen Dros Frecwast. "Dwi methu credu beth sy'n digwydd.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae trigolion wedi dechrau ceisio gadael y prifddinas Kyiv ers bore Iau

"Bues i'n gwrando ar y radio yn y bore, a gwrando ar yr arbenigwyr sy'n ceisio dehongli'r sefyllfa… hyd y gwn i, does neb yn gallu gweld unrhyw resymeg yn yr hyn mae Rwsia'n ei wneud.

"Mae geiriau Vladimir Putin am yr Wcráin - galw nhw'n Natsïaid - yn hollol shocking a ffiaidd."

Dywedodd y bydd y gwrthdaro'n effeithio'n uniongyrchol ar lawer o deuluoedd yng Ngwlad Pwyl gan fod nifer "uchel iawn" o bobl Wcreiniaidd yn byw yno.

"Wrth gwrs rhaid i ni ddisgwyl am lawer iawn o ffoaduriaid yn y dyfodol agos, felly mae paratoadau wedi dechrau eisoes a bydden nhw'n parhau," meddai.

"Yn enwedig yn y dwyrain, maen nhw'n paratoi [i dderbyn ffoaduriaid] a phob cymorth sy'n bosib i'r Wcrainiaid."

Ychwanegodd bod presenoldeb milwyr Americanaidd yng Ngwlad Pwyl yn "rhoi ychydig o gysur na fydd Gwlad Pwyl nesaf" ond mae datblygiadau'r oriau diwethaf yn "peri pryder yn sicr".

"Mae'n anodd. Dwi'n nerfus iawn."

'Methu canfod bwyd i'w plant'

Mae pobl o Wcráin sydd bellach yn byw yng Nghymru hefyd wedi mynegi eu sioc ynglŷn â'r sefyllfa.

Mae cymdeithas Voice of Ukraine Wales - a gafodd ei sefydlu wedi i Rwsia ymosod ar Crimea wyth mlynedd yn ôl - wedi bod yn ceisio codi arian i'r rheiny sydd yn Wcráin.

Dywedodd Svetlana Lilley o'r grŵp, sydd bellach yn byw yn Llansawel, ei bod wedi bod yn siarad gyda ffrind yn Wcráin y bore 'ma oedd "yn ei dagrau am ei bod yn ei chael yn anodd canfod bwyd i'w phlant".

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dinas Chuhuiv yn nwyrain Wcráin ei thargedu gan luoedd Rwsia fore Iau

Ychwanegodd ei bod wedi siarad gyda'i rhieni hefyd, sydd "yn eu 80au ac maen nhw'n dweud eu bod yn rhy hen i adael".

"Mae gen i nifer o ffrindiau a theulu yno, ac mae ganddyn nhw ofn," meddai.

"Mae pobl yn ceisio gadael, ac fe fyddan nhw fwy na thebyg yn troi at Wlad Pwyl - maen nhw wedi dweud y byddan nhw'n cymryd ffoaduriaid.

"Does gan y siopau ddim bwyd, ac mae pobl yn ciwio am oriau i gael unrhywbeth."

'Putin eisiau ail-greu'r Undeb Sofietaidd'

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd yr Arlywydd Putin bod ymgyrch ar droed yn erbyn Wcráin mewn neges wedi ei recordio i'w darlledu cyn y wawr

Dywed un arbenigwr milwrol bod hi'n amlwg erbyn hyn bod "Rwsia'n bwriadu ymladd mewn i'r wlad… a rheoli'r wlad", yn groes i haeriad yr Arlywydd Putin nad oes bwriad meddiannu Wcráin.

"Mae hwn yn wahanol cynllun nawr, a hefyd yn llawer gwaeth cynllun i'r gorllewin ymateb iddo," meddai'r cyn Uwchgapten Alan Davies wrth Dros Frecwast.

"Mae Putin yn amlwg yn fodlon risgio popeth at rhyw ideoleg personol i ail-greu yr Undeb Sofietaidd. Maen nhw mynd i ddefnyddio popeth… i ga'l beth maen nhw mo'yn."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Convoi Rwsiaidd yn croesi'r ffin i ardal Kherson Wcráin o Crimea

Mae camau cyntaf ymgyrch Rwsia, meddai, yn amlygu eu bod yn ceisio "dominyddu'r awyr i sicrhau bod nhw'n gallu symud yn haws ar y tir - dyna'r cam cyntaf mewn unrhyw playbook ynglŷn â rhyfela.

"Y peth nesaf fydd yn digwydd fydd edrych ar y systemau cyfathrebu…unrhyw beth sy'n ymwneud â darlledu, fel radio a theledu, ac hefyd yn hollol gyffredinol ymosodiadau seibr - yn Wcráin, a hyd yn oed trwy Ewrop a gweddill y byd.

"Beth sy'n mynd i ddigwydd dros yr wythnosau nesaf yw tanseilio'r wlad a tanseilio'r system yn y gorllewin shwt gymaint trwy greu… pum miliwn o ffoaduriaid falle yn gadael yr Wcráin.

"Y prif broblem gyda delio efo Rwsia yw bod shwt fyddin gyda nhw…. [Mae'r Wcráin yn galw lan milwyr wrth gefn], ond bydden nhw ddim yn barod heddiw i wynebu un o'r lluoedd mwyaf cryf yn y byd."

'Trigolion wedi eu lladd'

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Menyw wedi ei hanafu wedi ymosodiad awyr ar ddinas Kharkiv yn nwyrain Wcráin

Yn ôl Martin Morgan o Adran Glustfeinio'r BBC mae yna ymosodiadau "bron" ymhob cwr o'r wlad erbyn hyn.

"Mae trigolion, nid milwyr yn unig, wedi cael eu lladd," meddai ar raglen Dros Ginio. "Mae chwech o leiaf o drigolion wedi marw ar hyn o bryd.

"Dan ni wedi clywed bod milwyr wedi glanio ym mhrif borth Wcráin, Odessa - felly mae'n amlwg eu bod nhw'n ceisio cipio'r arfordir i gyd - bod milwyr Rwsia wedi croesi o Crimea i mewn i'r Wcráin, a hefyd bod nhw wedi bomio sawl maes awyr.

"Mae pencadlys y lluoedd arfog yng nghanol Kyiv ar dân."

Dywedodd hefyd bod pobl "yn ciwio am fwyd yn y siopau oherwydd maen nhw'n disgwyl prinder" yn y dinasoedd sydd wedi eu targedu, a bod rheolaeth filwrol yn gwneud hi'n "anodd symud o gwmpas ar y ffyrdd".

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai pobl wedi gyrru ar draws caeau wrth ffoi o ddinas Kharkiv

Ychwanegodd Mr Morgan: "Os bydd llywodraeth Rwsia eisiau mynd â'r cyhoedd efo nhw, bydd rhaid i nhw osgoi unrhyw drafferth ychwanegol - yn enwedig efo NATO.

"Ar hyn o bryd [mae Rwsia mewn sefyllfa] eithaf cryf achos… dywedodd Arlywydd Putin ei fod eisiau difilwro Wcráin, ac os dyna ei gynllun, fedr o 'neud hyn yn eitha' cyflym.

"Ond os 'di o'n meddwl am feddiannu'r Wcráin neu rhyw rhan o'r wlad heblaw Crimea a'r dwyrain, bydd hyn yn beryglus iawn iddo fo."

Pynciau cysylltiedig