Non Evans: Cyn-athletwr yn trafod y dyddiau tywyll ar ôl ymddeol
- Cyhoeddwyd
"Ac yna mae gennych chi wydraid o win a chi'n meddwl eich bod chi'n teimlo'n well. Ac fe gydiodd ynof fi a bu bron â difetha fy mywyd."
Mae'n 10 mlynedd ers i Non Evans, 47, ymddeol o gystadlu ar y lefel uchaf.
Enillodd 87 o gapiau i dîm rygbi merched Cymru, a bu hefyd yn cystadlu dros ei gwlad mewn tair disgyblaeth wahanol yng Ngemau'r Gymanwlad.
Felly pan ddaeth ei gyrfa i ben gydag anaf i'w choes, roedd bywyd yn anodd iddi, ac mae bellach yn awyddus i siarad am ei hiechyd meddwl.
Wrth siarad â Bore Sul ar BBC Radio Cymru, dywedodd: "Dwi'n meddwl i mi ddechrau cael trafferth, iselder a gorbryder pan wnes i orffen fy nghamp.
"Ac roedd yn rhaid i mi weithio ar hynny ac fe aeth pethau'n well dros y blynyddoedd."
Colli swydd a thrafferth gyda'r heddlu
Ond gyda'r cyfnod clo, collodd Non ei swydd fel cynrychiolydd gwerthu meddygol i Pfizer, a gyda hynny ei char cwmni.
"Dechreuais i yfed ac roedd hynny oherwydd fy mhryder," meddai.
Mae Non yn teimlo bod y rhai sy'n ymwneud â chwaraeon, yn enwedig menywod, yn arbennig o agored i niwed.
"Mae'r holl oriau hynny o'ch diwrnod a gafodd eu llenwi â phopeth roeddech chi'n ei garu wedi diflannu," meddai.
"Ac mae'n eich gadael gyda'r gwacter yma y tu mewn allwch ddim ei esbonio i unrhyw un."
Dywed Non fod ei bywyd yn brysur, ond pan ymddeolodd fe chafodd ei gadael heb ddim.
"Doedd gen i ddim plant, doedd gen i ddim teulu, doedd gen i ddim gŵr, oherwydd roedd fy mywyd yn ymroddedig i chwaraeon," meddai. Ac yna trodd at alcohol.
"Roeddwn i'n yfed i deimlo'n normal," meddai. "A dyna'r peth mwyaf brawychus dwi erioed wedi bod trwy yn fy mywyd.
"Dwi wedi cael llawer o anafiadau mewn chwaraeon, dwi wedi cael siom, dwi wedi cael llwyddiannau, ond roedd hynny'n frawychus.
"Byddwn i'n teimlo fel roeddwn i'n crynu y tu mewn, a dyna pryd mae'ch corff yn mynd yn gaeth i'r gwenwyn ofnadwy 'ma - sef alcohol.
"Felly byddwn i'n yfed wedyn dim ond i gael fy nghorff i deimlo'n normal.
"A dyna pryd roeddwn i'n gwybod fy mod i angen help, ac roedd yn rhaid i hyn stopio oherwydd roeddwn i naill ai'n mynd i farw neu'n gwneud pethau gwirion."
'Dwi wedi ypsetio lot o bobl'
Yn ystod y cyfnod clo, cafodd Non ddedfryd o naw wythnos o garchar, wedi'i gohirio am 12 mis ar ôl cyfaddef ymddygiad bygythiol yn ystod ffrae gyda'r heddlu yn ei chartref.
Cafodd ei gwahardd rhag gyrru hefyd ar ôl i'w char fod mewn damwain gyda char arall ym mis Tachwedd 2019.
Gan ei bod yn ffigwr cyhoeddus, roedd ei stori ym mhob rhan o'r papurau newydd, yn llenwi colofnau ar-lein, a dim ond yn gwneud ei hymdrechion i wella hyd yn oed yn galetach.
"Y tro diwethaf i mi fod ar dudalen flaen y papurau efallai oedd am gicio'r gic gosb fuddugol i guro Lloegr," meddai.
"Y peth nesaf, ces i fy arestio, damwain car ac mae hynny ar dudalen flaen y papurau felly roedd yn rhaid i mi ddelio â materion o'n i'n eu dioddef ac hefyd bod yn llygad y cyhoedd."
Treuliodd amser mewn canolfan adfer arbenigol, ac aeth i grwpiau cymorth.
Derbyniodd gwnsela, proses a oedd o gymorth mawr iddi, i gamu allan o'r tywyllwch. Ond mae hi'n cyfaddef, mae ganddi bontydd i'w hadeiladu gydag anwyliaid.
"Dwi wedi ypsetio lot o bobl, mae pobl wedi maddau i mi, ond mae fy nheulu wedi ei chael hi'n anodd, yn enwedig fy mam a dad," meddai.
"Dwi ddim yn eu gweld nhw mor aml ag o'n i, achos maen nhw wedi gweld be dwi wedi ei weld.
"Ond rwy'n gobeithio y bydd hynny'n gwella dros amser."
Dywed Non ei bod bellach yn teimlo'n well nag erioed, yn paratoi i ysgrifennu hunangofiant gonest, ac yn ogystal â bod yn fentor ffitrwydd i'w chleientiaid preifat, mae'n edrych ymlaen i ddechrau swydd newydd.
Mae hi hefyd yn awyddus i helpu pobl eraill sydd wedi'i chael hi'n anodd yn ystod y pandemig.
Mae yna hefyd wagle enfawr, ym marn Non, o ran cydnabod anawsterau ymddeol, yn enwedig ar gyfer athletwyr lefel uchaf.
"Byddwn i wrth fy modd yn sefydlu rhywbeth i helpu pobl chwaraeon i baratoi ar gyfer ymddeoliad a sut maen nhw'n delio â hynny," meddai.
"Ydy, mae'n anodd ac mae pobl allan yna'n ei chael hi'n anodd a gallaf eu helpu gyda'r hyn dwi wedi bod drwyddo a sut i ddelio ag ymddeoliad o chwaraeon."
Sgoriodd Non 64 o geisiau rhyngwladol i Gymru ac fel athletwr fe enillodd dwy fedal arian yng Ngemau'r Gymanwlad.
Mae ganddi edifeirwch, ond mae'n gobeithio am faddeuant.
"Rwy'n falch bod pobl yn dal i ddod ata' i ar y stryd a dweud 'o, ti yw Non Evans y chwaraewr rygbi.'
"Dydyn nhw ddim yn dod ata'i a dweud 'Non Evans y nutter a gafodd ei harestio a dioddef o orbryder ac iselder'.
"Maen nhw'n dal i fy ngweld fel Non y chwaraewr rygbi, rhywbeth rwy'n falch ohono ac oes, mae gen i bontydd i'w hadeiladu eto, ond rwy'n meddwl fy mod ar fy ffordd a gobeithio y gall fy stori helpu pobl eraill i weld hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2020