Chwilio 'helaeth' am fenyw 96 oed sydd ar goll
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch i ddod o hyd i fenyw oedrannus o Aberhonddu sydd ar goll ers deuddydd bellach yn un "ar raddfa fawr" sy'n cynnwys sawl asiantaeth.
Does neb wedi gweld Rita, sy'n 96 oed, ers 10:20 fore Sadwrn.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn credu bod y bensiynwraig, nad ydyn nhw'n cyhoeddi ei chyfenw, yn gwisgo siwmper gyda phatrwm dail arni a'i bod yn teithio ar droed.
Dywed y llu bod ymgyrch "helaeth, ar raddfa fawr wedi bod yn digwydd yn Aberhonddu a'r ardal o'i amgylch" ers cael gwybod am ei diflaniad.
Mae swyddogion heddlu, Tîm Achub Mynydd Aberhonddu, Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin a Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu yn rhan o'r ymgyrch.
"Rydym yn gofyn i drigolion archwilio'u hadeiladau allanol, fel garejys a siediau, rhag ofn bod Rita'n llochesi," meddai arweinydd yr ymgyrch, yr Arolygydd Brian Jones.
Mae'n gofyn i'r cyhoedd edrych ar unrhyw luniau "all fod wedi dal Rita yn ac o gwmpas Aberhonddu ddydd Sadwrn 26 Chwefror", gan gynnwys lluniau camerâu CCTV preifat, clychau drysau Ring a theclynnau GoPro a dash cam.
Ychwanegodd bod swyddogion arbenigol yn cefnogi teulu'r bensiynwraig "yn ystod y cyfnod anodd yma" gan apelio am unrhyw wybodaeth all helpu'r ymchwiliad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2022